Dylan Thomas – Yn Fyw yn YMCA Abertawe

Dylan Thomas – Yn Fyw yn YMCA Abertawe

Cyflwyniad

Neuadd Llywelyn yw enw’r theatr yn adeilad y YMCA Abertawe ar Ffordd y Brenin. Dyma’r unig leoliad yn Abertawe sy’n dal i fodoli heddiw lle perfformiodd Dylan Thomas.

Er bod llyfrau ac erthyglau amrywiol wedi ysgrifennu am Dylan Thomas fel actor,

nid oes dim o’r ymchwil flaenorol wedi cynnwys y deunydd archif sydd ar gael yn YMCA Abertawe. Mae Canolfan Dylan Thomas ac YMCA Abertawe wedi gweithio mewn partneriaeth i archwilio’r archif hynod ddiddorol hon. Mae’r arddangosfa a’i deunydd ategol yn defnyddio’r wybodaeth y daethpwyd o hyd iddi yma i ddatgelu hanes ymddangosiadau Dylan mewn cynyrchiadau ysgol, ei berfformiadau fel aelod o glwb ieuenctid y YMCA ac yna fel aelod o YMCA Abertawe, ac yn olaf mewn dramâu a lwyfannwyd dan nawdd Cwmni ‘Swansea Little Theatre’.

YMCA Abertawe yn y 1920au hwyr

Ym 1928 dathlodd YMCA Abertawe ei ben-blwydd yn 60 oed. Erbyn hynny roedd y YMCA wedi bod yn yr adeilad presennol ar Ffordd y Brenin ers 15 mlynedd.

Mae Cyfeirlyfr Masnach Abertawe o 1929 yn rhoi blas ar y gweithgareddau a oedd ar gael, gan gynnwys dosbarthiadau campfa i ddynion, menywod a phlant, cymdeithas gerddoriaeth, tennis bwrdd, darlithoedd, dadleuon a billiards. Roedd nifer o glybiau chwaraeon hefyd yn rhan ohono – roeddent yn cwrdd ar ddydd Sadwrn ac yn cynnwys tri thîm pêl-droed. 

Roedd nifer o sefydliadau eraill ac asiantaethau allanol hefyd yn cwrdd yn yr adeilad, gan gynnwys cymdeithas theatraidd. Y trefniant yn ôl pob tebyg oedd y byddai’r gymdeithas yn ymarfer ac yn cynnal perfformiadau yn Neuadd Llywelyn, a byddai’r elw o’r sioeau yn cael ei roi i’r YMCA.

Mae cofnodion y cyfarfod cyffredinol blynyddol a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 1931 yn dangos bod 116 o aelodau llawn, 215 o aelodau cyswllt, 90 o aelodau iau a 280 o fechgyn. Roedd YMCA Abertawe’n cynnal clwb ieuenctid a grŵp sgowtiaid yn y ddwy ystafell lle mae’r ganolfan ffitrwydd yn awr.

Does dim rhestr o aelodau’r clwb ieuenctid ar gael ond mae’n glir bod Dylan Thomas wedi mynychu fel un o’r 280 o fechgyn.  Roedd yn agos i’w gartref ac roedd e’n gyfarwydd â’r adeilad gan ei fod eisoes wedi perfformio yn theatr y YMCA fel bachgen ysgol. Nid yw’n hysbys eto a oedd Dylan yn aelod o’r clwb ieuenctid cyn dod yn rhan o’r Actorion Ifanc neu a oedd yn aelod oherwydd y grŵp drama.

Aeth Dylan Thomas i Ysgol Ramadeg Abertawe (ysgol yr Esgob Gore erbyn hyn), a oedd ar fryn Mount Pleasant ar y pryd.

Ymddangosodd Dylan Thomas yn Neuadd Llywelyn am y tro cyntaf pan oedd yn 14 oed, ar gyfer cynhyrchiad yr ysgol o Abraham Lincoln ym mis Mai 1929.  Roedd Dylan yn chwarae rhan Edward Stanton.  Stanton oedd yr Ysgrifennydd dros Ryfel yn ystod Gweinyddiaeth Lincoln, yn ystod Rhyfel Cartref America. Roedd Stanton hefyd wedi trefnu’r ddyn-helfa i ddod o hyd i gydweithredwyr llofrudd Lincoln, John Wilkes Booth.

Dylan chwaraeodd y brif rôl yn Oliver Cromwell ym mis Chwefror 1930, ac ym mis Rhagfyr bu’n chwarae rôl yr arweinydd streic, Roberts, yn Strife. Ysgrifennwyd y ddrama olaf o’r ddwy ym 1909 gan John Galsworthy.  Enillodd y Wobr Nobel am Lenyddiaeth ym 1932 ac mae bellach yn fwyaf adnabyddus am ei nofelau fel The Forsyth Saga

Mae Ethel Ross, ffrind i Dylan ac awdur Dylan Thomas and the Amateur Theatre, yn crybwyll y ffaith bod y dramâu wedi’u perfformio yn Neuadd Llywelyn ond yn nodi bod yna broblem gyda’r lleoliad,

“Cafwyd anfanteision sylweddol oherwydd torrwyd ar draws golygfeydd dirdynol gan gnocio rhythmig y ieuenctid yn y gampfa uwchben wrth iddynt gael gwared ar eu hegni a’u hasbri.’

Mewn gwirionedd, roedd yn llawer mwy na chael gwared ar egni ac asbri.  Roedd YMCA Abertawe wedi ennill Pencampwriaeth Gymnasteg Prydain ym 1929 a byddai’n cadw’r teitl hwnnw am y tair blynedd nesaf.

Yn ystod ei amser yn yr ysgol, ysgrifennodd Dylan ddau bortread llenyddol – ‘Desert Idyll’ a ‘Mussolini at Breakfast.’ Cyhoeddwyd y cyntaf yn Ysgol Ramadeg Abertawe ym mis Rhagfyr 1929, ac nid yw’n hysbys eto a gafodd y darn ei berfformio yn y YMCA. Rhoddwyd ‘Mussolini at Breakfast’ i Ethel Ross er mwyn i gwmni Swansea Little Theatre ei berfformio, ond mae wedi cadarnhau na chafodd e’ erioed ei lwyfannu:

‘O edrych yn ôl mae ganddo wirionedd sylfaenol a byddai’n dal i fod yn eitha’ da mewn rifíw pe na bai ffasgiaeth wedi peidio â bod yn destun hiwmor.’

Actorion Ifanc y YMCA

Mae’n anodd nodi’r union ddyddiad pan gychwynnodd Actorion Ifanc y YMCA. Mae cylchlythyr y YMCA ar gyfer mis Ebrill 1929 yn datgan:

‘Yn dilyn ffug-dreialon ym mis Rhagfyr (1928), dewiswyd dwy ddrama sef `The Ghost of Jerry Bundler’ a `The Elusive Lydia’.’

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyffredinol wrth y Pwyllgor Rheoli fod clwb drama wedi’i sefydlu ar 6 Ionawr 1930 a bod cyllideb o £30 wedi’i chlustnodi ar gyfer llwyfannu a’r set. Fodd bynnag, nid yw’n glir a oedd yr uchod ar gyfer Actorion Ifanc y YMCA neu glwb drama mewnol arall.

Mae’r cylchlythyr ar gyfer mis Mawrth 1930 yn cofnodi cynhyrchiad llwyddiannus o Seven Keys to Baldplate gan yr Actorion Ifanc. Ni wyddwn a oedd Dylan Thomas yn rhan o hyn ai peidio. Fodd bynnag, nododd Ethel Ross yn Dylan Thomas and the Amateur Theatre fod Dylan yn rhan o gynhyrchiad arall:

‘Fel aelod o adran iau y YMCA, bu’n chwarae rhan llongwr ifanc yn The Monkey’s Paw. Ysgrifennodd Cadeirydd y perfformiad, Mr T B S Coats,

‘Rwy’n cofio glir ddawn actio rhagorol Dylan wrth iddo chwarae rhan llongwr. Mae fy atgofion ohono’n glir iawn o hyd.”

Fodd bynnag, does dim sôn am y cynhyrchiad hwn yn archif YMCA Abertawe.

Mae’r cynhyrchiad cyntaf yr oedd Dylan yn bendant yn rhan ohono wedi’i gofnodi yn y cylchlythyr ar gyfer mis Hydref 1930 ac yn y cofnodion ar 31 Ionawr 1931, nodwyd bod cynhyrchiad o The Man at Six yn mynd rhagddo ac y byddai’n cael ei berfformio ym mis Chwefror. Gwyddwn mai perfformiad  Actorion Ifanc y YMCA oedd hwn a bod Dylan Thomas yn rhan ohono.

Mae cofnodion 23 Chwefror yn cofnodi y cafwyd perfformiad llwyddiannus o Man at Six ac mae cofnodion 23 Mawrth yn sôn bod Captain X wrthi’n cael ei gynhyrchu gan yr Actorion Ifanc ar gyfer mis Ebrill.  Mae cofnodion 23 Chwefror hefyd yn cofnodi nad oedd llawer o bosibilrwydd o’r gymdeithas theatraidd yn llwyfannu cynhyrchiad. 

Yn ystod y cyfnod hwn, yn dilyn cynhyrchiad llwyddiannus o The Man at Six gan yr Actorion Ifanc a methiant ymddangosiadol y gymdeithas theatraidd, mae’n bosib y cynhaliwyd trafodaethau ynghylch ffurfio cymdeithas theatraidd fewnol yn y YMCA, drwy gael gwared ar yr ‘ifanc’ yn Actorion Ifanc er mwyn ffurfio Actorion y YMCA.   Fel asiantaeth y YMCA, er mwyn cymryd rhan byddai angen bod yn aelod.  Mae tystiolaeth bellach o hyn i’w gweld yng nghylchlythyr mis Mai sy’n dyfynnu adolygiad The Daily Post o Captain X.

‘Fel yr ysgrifennodd un o adolygwyr The Daily Post, nid yw Captain X yn ddrama hawdd i’w chynnal.  Tybed a oedd yr awdur yn gwerthfawrogi rhai o’r anawsterau yr oedd wedi’u creu yn ei waith, yn enwedig i’r cyrff amatur…. Roedd lwc dda a phwyll yn ffactorau amlwg yn llwyddiant Captain X yn yr act gyntaf. Perfformiwyd y ddrama gystal ganddynt, ni sylwodd y gynulleidfa ar y trychinebau y bu bron iddynt ddigwydd.’

Mae’r cylchlythyr wedyn yn dweud:

“Efallai y bydd ‘ifanc’ yn cael ei ddileu o’r teitl, ond mae’r “Actorion Ifanc” yn gobeithio perfformio o hyd.’

Yn yr un mis ag y llwyfannwyd Captain X, gwnaeth Dylan Thomas gais am aelodaeth gyswllt. Mae cofnodion y Pwyllgor  Aelodaeth a Gwaith Crefyddol yn cofnodi’i enw a’i gyfeiriad a chadarnhad o’i aelodaeth ar 27 Ebrill 1931.

Mae cofnodion y Pwyllgor Hamdden a Rhaglenni a gynhaliwyd ar 1 Mehefin yn dweud:

‘Cyflwyniad llwyddiannus o Captain X gan yr ‘Actorion Ifanc’ ar 28 Ebrill, yr aeth 200 i’w weld.’

Mae’r un cofnodion yn dweud dan ‘gymdeithas theatraidd’ nad oedd ‘dim byd pellach wedi’i glywed mewn perthynas â’r gymdeithas.  Cytunwyd y byddai’r ysgrifennydd yn ysgrifennu at yr holl aelodau i dynnu sylw at eu rhwymedigaethau yn y mater hwn.’

Mae cofnodion y Pwyllgor Hamdden a Rhaglenni a gynhaliwyd ar 31 Awst 1931 dan y teitl Actorion y YMCA yn datgan,

‘Derbyniwyd cais gan gorff o aelodau am ganiatâd i ymarfer ar gyfer cynyrchiadau dramatig a’u perfformio dan arddull Actorion y YMCA, ac am ganiatâd i gynnal digwyddiad cymdeithasol tan 12.’

Cafodd y cais ei ganiatáu.

Un o’r aelodau a grybwyllwyd uchod oedd Henry Dickens. Ymddangosodd gyda Dylan Thomas mewn ambell gynhyrchiad. Mae nifer o ffynonellau wedi dweud bod Henry Dickens yn ŵyr i Charles Dickens. Mae ein hymchwil yn dangos ei fod mewn gwirionedd yn gyfyrder i Charles Dickens.

Actorion y YMCA

Ymddangosodd Dylan fel Edward Laverick yn The Fourth Wall ym mis  Rhagfyr 1931 ar gyfer Actorion y YMCA.

Mae toriad o bapur newydd sydd heb ei ddyddio hefyd yn cadarnhau mai Dylan oedd y cynhyrchydd ar gyfer y perfformiad. 

Mae’n amlwg bod Dylan hefyd yn rhan o drefnu’r digwyddiadau cymdeithasol a chodi arian ar gyfer Actorion y YMCA. Mae’n aelod o’r cast sy’n chwarae rhan Sergeant Brewster yn Waterloo, sy’n cael ei llwyfannu cyn dawns i godi arian. Nid yw’n glir ai cynhyrchiad llawn yw hwn. Nid yw’r toriad papur newydd heb ei ddyddio’n rhoi unrhyw wybodaeth am hyn ond does dim byd yn y cofnodion i awgrymu ei fod yn gynhyrchiad llawn.

Ymddangosodd Dylan mewn sgetshis doniol hefyd mewn ambell ddigwyddiad cymdeithasol/codi arian arall ac adroddir amdanynt mewn toriadau papur newydd heb eu dyddio. Mae un ohonynt yn datgan enw’r sgetsh fel Men Playing Cards as Women Do.

Awgrymwyd hefyd iddo ymddangos fel bardd yn Capgar, ond does dim cyfeiriadau at unrhyw berfformiad yn archif YMCA Abertawe.

Mae deunydd diddorol ar gael mewn llyfr lloffion a gedwir ym Mhrifysgol Birmingham, Archif Cadbury a Chasgliad Arbennig y Llyfrgell, cyfeirnod ffeil YMCA ACC 70/1. Mae’n cynnwys amrywiaeth o docynnau, posteri, toriadau o’r wasg a lluniau dros y cyfnod 1931 i 1936.

Mae’r llyfr lloffion yn dechrau gyda ffotograffau a thoriadau o’r wasg sy’n ymwneud â chynhyrchiad o The Fourth Wall. Mae llun o’r cast yn cynnwys Dylan Thomas ynghyd â thoriad o’r wasg ohono ar y llwyfan yn Neuadd Llywelyn. Cynhaliwyd y cynhyrchiad yn y YMCA ar 9 a 10 Rhagfyr 1931.

Mae cynyrchiadau eraill wedi’u cynnwys yn ôl trefn dyddiad.  Nid yw’r llyfr lloffion yn cynnwys unrhyw gynyrchiadau eraill gyda Dylan Thomas ac felly mae’n debyg mai The Fourth Wall oedd yr unig gynhyrchiad llawn yr ymddangosodd Dylan Thomas ynddo gydag Actorion y YMCA.

Y cynhyrchiad nesaf oedd Lord Babs.  Does dim tystiolaeth bod Dylan Thomas yn rhan o’r cynhyrchiad. Fodd bynnag, efallai fod cofnod o’r Is-bwyllgor Adloniant a Rhaglenni ar 29 Chwefror 1932 yn rhoi cliw ynghylch ei absenoldeb o’r cynhyrchiad. Mae’n dweud,

‘Rhoddwyd caniatâd i gynhyrchu Lord Babs a hefyd mewn perthynas â llunio adolygiad ‘micawber’. Gan fod gwahaniaeth barn ymhlith yr actorion ynghylch yr olaf, cytunwyd i adael y mater gyda’r ysgrifennydd.  Rhoddwyd caniatâd i gynhyrchu Lord Babs.’ Mae’r gair ‘micawber’ uchod wedi’i gywiro â phensil sydd, o’i archwilio’n agos, wedi’i newid i adolygiad ‘Macabre’.

Mae’n bosib mai Dylan oedd yn cynnig yr adolygiad ‘macabre’ (dychrynllyd).  Roedd gan Dylan ddiddordeb mewn pethau gothig, a dangoswyd hyn yn rhai o’r straeon roedd yn eu hysgrifennu yn y 1930au yn ogystal â themâu rhai o’i gerddi cynnar.

Cwmni Swansea Little Theatre

Yn hwyrach ym 1931 ymunodd Dylan â’i chwaer Nancy yng Nghwmni Swansea Little Theatre yn Southend, y Mwmbwls.  Roedd y ‘Little Theatre’ hefyd yn perfformio’n eithaf rheolaidd yn Neuadd Llywelyn, a pherfformiodd Dylan yn y cynhyrchiad o Hay Fever ym mis Ebrill 1934. 

Parhaodd Actorion y YMCA i berfformio am gyfnod hir, gyda chryn lwyddiant. Mae’n bosib mai dim ond mewn un cynhyrchiad llawn yr ymddangosodd Dylan ond roedd yn un nodedig, sef y cyntaf dan enw Actorion y YMCA a drama yr oedd hefyd wedi’i chynhyrchu.

Er bod Dylan bellach gyda’r Little Theatre, mae’n ymddangos ei fod wedi parhau i ymweld â YMCA Abertawe yn rheolaidd i chwarae billiards. Mae Ethel Ross yn Dylan Thomas and the Amateur Theatre yn nodi,

‘Nid oedd ei waith fel newyddiadurwr yn addas iddo mewn gwirionedd.  Roedd ei ymweliadau rheolaidd â’r orsaf heddlu a’r ysbyty ac ysgrifennu am ddigwyddiadau lleol dibwys yn ei ddiflasu. Mewn gwirionedd, treuliodd lawer o’i amser yn chwarae billiards yn y YMCA.’

Mae gan Dylan gysylltiad diddorol â’r peli biliards sy’n cael eu harddangos yn ein harddangosfa. Maent yn perthyn i Llew T Price o 5, Brynymor Road, ac mae un o gofnodion Clwb y Triongl Coch ym 1933 yn nodi bod Price wedi cyflwyno iddynt y peli biliards a ddefnyddiwyd mewn gêm arddangos fawreddog a gynhaliwyd yn yr YMCA yn gynnar ym 1932.

Y prif gyfranogwr yn y gêm arddangos oedd y gŵr o Awstralia, Walter Lindrum, chwaraewr biliards gorau ei oes. Mae cofnod o lyfr cofnodion yr YMCA ar 29 Chwefror 1932 yn nodi bod y pwyllgor rhaglen a hamdden am longyfarch pawb a oedd yn gyfrifol am sicrhau bod ymweliad Lindrum yn llwyddiannus.

Mae’r hen ystafell filiards bellach yn stiwdios dawns ar y llawr cyntaf yn nhu blaen yr adeilad.

Roedd profiadau actio ffurfiannol Dylan yn allweddol i lywio’i ddoniau enwog ar gyfer perfformio’i waith ar lwyfan yn y DU a thramor, a darllen ei sgriptiau ei hun a rhai eraill ar gyfer y radio. Cynhaliwyd y perfformiad llwyfan llawn cyntaf o Under Milk Wood, gyda Dylan yn serennu ynddo, yn y Gymdeithas Hebraeg i Ddynion a Menywod Ifanc yn Efrog Newydd, dros 20 mlynedd ar ôl iddo ymddangos ar lwyfan am y tro cyntaf yn y YMCA.

Dylan Thomas – Yn Fyw yn y YMCA

Cynhelir yr arddangosfa yng Nghanolfan Dylan Thomas rhwng 8 Chwefror a 30 Ebrill.

Ymchwil a thestun:

Katie Bowman

Carys Evans

Jo Furber

Phil Treseder

Dyluniad yr Arddangosfa:

Rebecca Davies

Gwrthrychau a benthyciadau wedi’u harddangos gyda chaniatâd caredig:

YMCA Abertawe

Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

Canolfan Dylan Thomas

Amgueddfa Abertawe

Mae rhagor o wybodaeth am hanes YMCA Abertawe ar gael i’w gweld yn:

http://www.swanseamuseum.co.uk/blog-cy/blogiau-ymca

This post is also available in: English