Ydych chi’n feistr Milk Wood?

Ydych chi’n feistr Milk Wood?


#DiwrnodDylan Hapus! Heddiw rydym yn dathlu’r darlleniad cyntaf o Under Milk Wood ar y llwyfan a gynhaliwyd ar y diwrnod hwn, 67 o flynyddoedd yn ôl.  

Drwy gydol y dydd rydym wedi bod yn profi eich gwybodaeth am ddrama radio enwog Dylan gyda’n cwis Under Milk Wood – oeddech chi wedi dyfalu’r atebion yn gywir?

Dyma’r atebion!…

1. Beth yw swydd Jack Black?
Crydd

2. Beth yw llysenw Evans, y trefnydd angladdau?
Evans the Death

3. Pa gymeriad sydd ag obsesiwn â glanhau?
Mrs Ogmore-Pritchard

4. A phwy sy’n gorfod sychu ei draed cyn mynd i gartref y cymeriad glân hwn?
Yr haul

5. Enwch y Parchedig enwog yn Under Milk Wood
Rev. Eli Jenkins

6. Enwch y prif stryd sy’n mynd drwy’r dref
Coronation Street

7. Pwy sy’n tynnu rhaff cloch neuadd y dref i ddeffro’r breuddwydwyr?
Captain Cat

8. Pwy yw merch Mrs Beynon?
Gossamer Beynon

9. Sut mae Lily Smalls yn gwisgo’i ffrog wrth olchi’r garreg drws?
Wedi’i lapio yn ei blwmers

10. Am ba weithgaredd y mae Mrs Pugh yn credu y caiff Polly Garter ei harestio?
Ar gyfer cael babis

11. Beth yw oedran Mary-Ann Sailors?
Wythdeg pump, tri mis a diwrnod!

12. Pwy sy’n gwneud rhyw ddrygioni yn y golchdy?
Nogood Boyo

13. Pa ddau beth sy’n tyfu yng ngardd Polly Garter?
Y golch a babis

14. Pa gân y mae Cherry Owen yn ei chanu pan mae’n feddw?
Aberystwyth

15. Faint o’r gloch yw hi – bob amser – yn nhafarn y Sailor’s Arms?
Hanner awr wedi un ar ddeg

16. Pwy yw’r bachgen sy’n cyfarth yn yr ysgol leol?
Billy Swansea

17. Pwy sydd â dwy wraig?
Dai Bread

18. Pwy y mae Polly Garter yn ei garu fwyaf?
Little Willy Wee

19. Pa lyfr y mae Mr Pugh yn ei ddarllen?
Lives of the Great Poisoners

20. Jôc yw enw’r dref – Llareggub – ond pam?
Mae’n sillafu ‘bugger all’ tuag yn ôl!

Darllenwch ragor am Under Milk Wood

Gwrandewch 🎧 – Richard Burton yn darllen darn o Under Milk Wood Dylan Thomas

This post is also available in: English