Mannau a lleoedd ysgrifennu Dylan: Dylan yn Donegal

Mannau a lleoedd ysgrifennu Dylan: Dylan yn Donegal

Yn ei hail flog ar fannau ysgrifennu Dylan, mae Linda Evans o Ganolfan Dylan Thomas yn edrych ar yr amser a dreuliodd yn Donegal.

Yng nghanol mis Medi 1935, ysgrifennodd Dylan o Abertawe at yr ysgrifennwr Desmond Hawkins gan ddweud ei fod wedi bod ar y sesiwn yfed fwyaf yn y byd ac ni wyddai ‘pa ddiwrnod oedd hi na pha wythnos neu unrhyw beth’. Roedd newydd ddychwelyd o’r hyn y byddem ni’n ei ystyried bellach yn ‘enciliad ysgrifennu’ bach mewn ardal hynod anghysbell yn sir Donegal, Iwerddon.

Ar ddechrau’r haf, teithiodd o Lundain i’r bwthyn yn Glen Lough gyda Geoffrey Grigson, bardd, beirniad a golygydd y cylchgrawn barddoniaeth dylanwadol, ‘New Verse’. Awgrymodd y dylai’r rhyfeddod ugain oed fynd gydag ef ar wyliau, gan roi cyfle i Dylan wella a chamu’n ôl o demtasiynau ei ffordd amheus a bohemaidd o fyw a’r yfed trwm. Rhentodd y pâr feudy addasedig gan y ffermwyr Dan a Rose Ward, yr oedd yr artist, yr ysgrifennwr a’r teithiwr enwog o America, Rockwell Kent, wedi’i addasu’n annedd sylfaenol yn ôl yn 1926, lle cynhyrchodd rai paentiadau hardd o’r ardal leol.

Y ffocws gwreiddiol ar gyfer y gŵyr ifanc oedd bod yn ‘lân eu buchedd’ h.y. bwyta bwyd maethlon a chael awyr iach ac ymarfer corff ar deithiau cerdded hir ger y mynyddoedd, y llynnoedd a’r arfordir, gyda’i fywyd gwyllt toreithiog a’r creigiau anferth a wynebai cefnfor Iwerydd. Roedd Geoffrey hyd yn oed wedi dysgu Dylan i bysgota. Yn y nosweithiau, byddent yn cynnau tân mawn ac yn siarad yng ngolau cannwyll. At ei gilydd, roedd yn brofiad pleserus a hynod synhwyraidd. Fodd bynnag, ar ôl pythefnos, dychwelodd Geoffrey i Lundain, gan adael Dylan, yn ôl ei gais, ar ei ben ei hun. O hynny ymlaen, bu bron iddo gau’r drws yn gyfan gwbl ar y byd mawr y tu allan. Heb ddim i dynnu’i sylw, gallai ei feddwl ganolbwyntio’n ddwys ar bethau, ac roedd yn llawn creadigrwydd. Ond yn raddol, fe’i dadrithiwyd gan y distawrwydd a’r unigrwydd, er gwaethaf mwynhau prydau rheolaidd a chyflenwadau o wisgi tato (poteen), wisgi a gynhyrchwyd yn lleol ac yn anghyfreithlon, a ddarparwyd gan ei landlordiaid. Lleihaodd ei gyflenwad o sigaréts, roedd yn ysu am ryngweithiadau cymdeithasol a’r unig ffordd y gellid cael peint o porter yng nghwmni rhywun arall oedd trwy gerdded deng milltir, yn aml mewn amodau llaith, gwyntog a gwybedog, i dafarn O’Donnells yn Meenaneary.

Ysgrifennodd lythyrau hir at ei gyfeillion yn Abertawe gan ddweud na allai ystyried ei wyneb ei hun yn y drych fel yr unig wyneb yn y byd am gyfnod amhenodol, ac yn ei unigedd dechreuodd ystyried normalrwydd ei fyd ei hunan mewn ffordd ordeimladol – dywedodd ei fod ‘yn teimlo’r angen am y byd hwnnw, ac angenrheidrwydd ei ddigwyddiadau’. Er bod Dylan wedi gobeithio aros tan fis Medi, cyrhaeddodd fan di-droi’n-ôl. Er gwaethaf ceisio cadw at drefn, gan fynd am dro wedi iddi nosi, a ‘chloi’r noson wyllt Wyddelig allan’ ar ôl hynny, dioddefodd ei iechyd meddwl: dioddefai arswydion nos, roedd yn gweld ffigyrau rhyfedd ac yn teimlo fel pe bai rhywbeth yn cropian ar y croen. Does dim amheuaeth y gwaethygwyd ei natur ddiamddiffyn gan ofergoelion goruwchnaturiol lleol, a oedd yn bwydo ar wylltineb ac annhosturi natur a’r elfennau.

Ar ddiwedd mis Awst, gadawodd Dylan Glen Lough yn sydyn, heb dalu’r rhent, gan sennu caredigrwydd y Wardiaid, a gwylltio Geoffrey a oedd wedi gadael arian iddo. Dychwelodd yr hen lanc ifanc i Abertawe (ac i sylw maldodus ei fam), gyda sawl cerdd newydd eithriadol, gan gynnwys ‘I in my intricate image’ ac ‘Altarwise by owlight’, a ymddangosodd yn hwyrach yn y casgliad Twenty-five Poems, a gyhoeddwyd ym 1936 a’i ganmol gan y beirniaid.

Linda Evans, Canolfan Dylan Thomas

This post is also available in: English