‘Dinistr digariad’ Mrs Ogmore-Pritchard

‘Dinistr digariad’ Mrs Ogmore-Pritchard

Wrth i dymor y gwyliau nesáu, mae gwestai mawr a bach ar draws Prydain yn hynod dawel wrth i berchnogion gydymffurfio â rheolau llym y llywodraeth i atal Coronafeirws rhag lledaenu.

Ar 14 Mai, Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas, byddwn yn dathlu perfformiad cyntaf erioed drama enwog a phoblogaidd Dylan, Under Milk Wood, â chast llawn ym 1953, ac mae’r argyfwng presennol yn dod ag un o gymeriadau mwyaf difyr a thrasicomig Dylan ar gyfer ei ddrama i leisiau i’r cof: menyw sy’n ffynnu ar absenoldeb lletywyr ‘sy’n llygru’r lle’.

Mrs Ogmore-Pritchard, menyw y’i gwnaed yn weddw ddwywaith, yw perchennog Bay View, sef gwesty bach yn nhref fach Llareggub yng Nghymru, ond yr unig ‘letywyr’ y mae’n caniatáu iddynt aros yno yw ysbrydion ei gŵyr ymadawedig, Mr Ogmore a Mr Pritchard, sydd wedi’u carcharu dan unbennaeth burdanaidd eu gweddw – menyw ag obsesiwn ofnadwy â glendid a thaclusrwydd, a chanddi’r hyfdra i fynnu bod yr haul yn sychu’i sgidiau cyn iddynt ei adael drwy’r drws.

Ni ddylai ddim darfu ar drefn osodedig ei chartref taclus a threfnus, sydd ar ben cyfoethocach y dref: o’i hystafell wely daclus, sgwriedig sy’n herio llwch i’r morthwyl drws â gaiff ei drafod â menyg croen myn. Allwn ni ddim llai na chwerthin wrth weld Mrs Ogmore-Pritchard yn gwrthod cais am lety gan wyliwr adar am y rheswm y byddai’n dychwelyd bob awr o’r dydd wedi’i orchuddio â phlu, ac yn bendant nid yw am gael pobl yn ei hystafelloedd hyfryd, glân yn anadlu dros y cadeiriau ac yn rhoi eu traed ar ei charpedi ac yn tisian dros ei llestri, ac yn cysgu yn ei chynfasau.

Rydym yn synhwyro bod yr ymgeisydd wedi bod yn ffodus i ddianc rhag penydfa feirniadol meddwl y lletywraig hon, y gwnaiff ddefnydd da ohono drwy geryddu ei gŵyr meirwon a bod yn deyrn arnynt. Nid oes modd dadlau: ymysg eu gorchmynion niferus mae’n rhaid i Mr Pugh ferwi’r dŵr yfed i ladd germau a chwythu ei drwyn yn yr ardd a llosgi’r hances bapur ar ôl ei ddefnyddio; rhaid i Mr Pritchard dynnu llwch oddi ar y cysgodlenni ac yn y parlwr a chwistrellu’r caneri.

Fe’i hystyrir yn ffroenuchel, ac mae hi mor bell â phosib, yn gymdeithasol ac yn ddaearyddol, o’r ‘werin’. Nid cyd-ddigwyddiad felly yw bod y cymeriadau mwyaf anniben, Mr a Mrs Cherry, preswylwyr Stryd Donkey, yn byw mewn un ystafell gwbl anhrefnus sy’n ystafell wely, yn barlwr, yn gegin ac yn gegin gefn, lawr ar ben mwyaf ‘comon’ y dref ger yr harbwr.

Gyda’r nos, mae golwg drist ac oeraidd ar Mrs Ogmore-Pritchard wrth i ni ei gweld yn cynnal ei threfn hynod ddisgybledig:  mae’n tynnu’r cysgodlenni sy’n rhydd rhag germau… yn eistedd ar gadair gefnuchel hylan ac yn cymell ei hun i gwsg oer a chyflym, heb wybod bod ei gŵyr marw’n cynllwynio’i ‘dinistr digariad’.

Linda Evans, Canolfan Dylan Thomas

This post is also available in: English