Tethiau Dylan

Tethiau Dylan

Ein thema ar gyfer gweithgareddau hanner tymor mis Mai yw Teithiau Dylan. Er y treuliodd Dylan lawer o’i fywyd yn byw ac yn ysgrifennu yng Nghymru, teithiodd ar draws y DU ar gyfer perfformio barddoniaeth, darllediadau a digwyddiadau eraill. Treuliodd haf yn Donegal ym 1935 lle bu’n gweithio’n galed ar ei farddoniaeth ac ysgrifennodd yn hiraethlon i’w ffrindiau yn Abertawe fel Dan Jones:

‘We must, when our affairs are settled, when our music and poetry are arranged so that we can still live, love, and drink beer, go back to Uplands or Sketty… and found there, for good and for all, a permanent colony; living there until we are old gentlemen, with occasional visits to London or Paris…’

O’r 1940au ymlaen, bu’n teithio’n llawer mwy helaeth. Ym 1946 ymwelodd ef a Caitlin ag Iwerddon gyda’u ffrindiau, Bill a Helen McAlpine. Mae’n debygol y cyfarfu Dylan a Bil fel gwyliwyr tân yn Llundain yn ystod y rhyfel, ac o ganol y 1940au, daeth y parau’n ffrindiau da a mwynhau teithio gyda’i gilydd. Dywedodd Dylan fod Bill yn ‘knows more about my poems than I do and … reads them, aloud, extremely well.’

Talodd ysgoloriaeth gan y Gymdeithas Awduron ym 1947 i’r teulu ymweld â’r Eidal, lle roedd Dylan yn cwyno am y gwres ond gwnaeth beth ysgrifennu: ‘I live on red wine, cheese, asparagus, artichokes, strawberries, etc. The etc. is usually more red wine.’

Ym 1949 mwynhaodd opera a barddoniaeth ym Mhrag fel gwestai i Undeb Ysgrifenwyr Tsiecoslofacia. Roedd taith ymchwil i Bersia ym 1951 yn hynod ddiddorol, ond roedd y tlodi yno’n peri gofid iddo.  Talwyd £250 iddo ysgrifennu sgript ffilm ar gyfer yr Anglo-Iranian Oil Company ym Mhersia – gofynnodd am £10 yr wythnos i gael ei anfon yn uniongyrchol at Caitlin.

Roedd disgwyl mawr am deithiau Dylan i UDA. Ar y tair cyntaf – ym 1950, 1952 a gwanwyn 1953 – roedd yn ddibynadwy, yn ddiwyd ac yn llwyddiannus, gan ddenu miloedd o edmygwyr mewn mwy na 60 o sefydliadau. Cyfarfu ag ysgrifenwyr ac artistiaid pwysig, a mawr oedd y parch ato. Roedd yn llawn hwyl ac yn ariannol fuddiol, ond yn waith caled, ac ar y bedwaredd daith yn ystod hydref 1953 y bu farw Dylan.

Mae ei waith bellach wedi’i gyfieithu i dros 30 o ieithoedd gwahanol, ac mae pobl o bedwar ban byd yn ymweld ag Abertawe i ddarganfod mwy am ‘Rimbaud Rhodfa Cwmdoncyn’.

Mae llawer mwy o wybodaeth am deithiau Dylan yn ein harddangosfa am ddim ‘Dwlu ar y Geiriau’, ac ewch i www.dylanthomas.com/digwyddiadau i gael mwy o wybodaeth am ein gweithgareddau hanner tymor.

This post is also available in: English