Cerdd y Mis – ‘Fern Hill’

Cerdd y Mis – ‘Fern Hill’

‘Now as I was young and easy under the apple boughs
About the lilting house and happy as the grass was green’,

Mae Cerdd y Mis ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar un o gerddi mwyaf poblogaidd Dylan, sef ‘Fern Hill’. Mae posteri a chardiau cyfarch sy’n cynnwys y gerdd yn ei chyfanrwydd ymhlith y nwyddau sy’n gwerthu orau yn y ganolfan ac mae’n un o’m ffefrynnau personol i hefyd!

Cyhoeddwyd ‘Fern Hill’ gyntaf yng nghylchgrawn Horizon ym 1945 ac yna ym 1946 yn y casgliad Deaths and Entrances. Mae’n gerdd sy’n dwyn plentyndod Dylan i gof, a’r hafau a dreuliodd gyda’i fodryb a’i ewythr ar Fferm Fernhill yn Sir Gâr.

Mae’r syniad o amser yn cael ei bersonoli yn y gerdd, gan ddatblygu o fod yn ffigwr goddefol i fod yn ffigwr gweithredol wrth i’r gerdd ddilyn datblygiad y plentyn yn oedolyn. Yn y pedwar pennill cyntaf ceir ymdeimlad o amser yn rheoli’r digwyddiadau o bell, gan oruchwylio’r plentyn diniwed, sy’n gweld ei hun fel tywysog ac yn benuchel yn ei diriogaeth. Mae’r dyfyniad, ‘Time who let me hail and climb’ ar ddechrau’r gerdd yn esblygu ym mhennill pump i fod yn ffigwr y mae’r plant yn ei ddilyn (‘out of grace’) ac ym mhennill chwech mae’n cymryd ac yn dal yr adroddwr. Nid yw hyn yn awgrymu bod natur amser ei hun yn newid, ond yn hytrach fod canfyddiad a chydnabyddiaeth yr adroddwr o dreigl amser yn newid wrth i blentyndod ddiflannu.





Mae’r iaith a ddefnyddir yn y gerdd hon yn hyfryd wrth gyfleu atgofion o blentyndod. Mae’r gair ‘green’ yn cael ei ailadrodd er mwyn symboleiddio ieuenctid a naïfrwydd, ‘as I was green and carefree’ a ‘green and golden’. Mae ailadrodd y gair ‘lovely’ fel ansoddair a chymhariaeth sy’n disgrifio’r gwair fel ‘high as the house’ yn rhoi synnwyr o’r disgrifiadau yng ngeirfa plentyn. Yn aml iawn bydd brawddeg yn rhedeg hyd y pennill ac mae llawer o’r brawddegau yn dechrau gydag ‘And’, sy’n rhoi’r synnwyr o egni a chyffro’r ifanc.

Yn olaf, pan fyddaf yn dadansoddi cerdd, rwy’n hoffi edrych ar strwythur y sillafau a’r patrwm odli ac i weld sut maent yn adlewyrchu testun y darn. Mae gan ‘Fern Hill’ batrwm odli/hanner odli cynnil abcddabcd – collais i ef ar y darlleniad cyntaf! – gan ganiatáu i’r geiriau lifo dros y dudalen ac ychwanegu at yr ymdeimlad o ddyddiau haf diderfyn. Yn yr un modd, pan ddewch chi i edrych ar y sillafau rydych chi’n sylwi ar strwythur syndod o gynnil, sy’n cyfleu’n berffaith sut mae’r bachgen, er ei fod yn credu ei fod yn rhydd, yn cael ei gyfyngu’n gynnil o hyd gan amser: ‘Time held me green and dying/Though I sang in my chains like the sea’.

Katie Bowman, Canolfan Dylan Thomas         



This post is also available in: English