Sgwad Sgwennu’r Ifanc Canolfan Dylan Thomas yn dathlu 50 mlwyddiant Abertawe

Sgwad Sgwennu’r Ifanc Canolfan Dylan Thomas yn dathlu 50 mlwyddiant Abertawe

I goffáu 50 mlynedd ers i Abertawe dderbyn statws dinas, trefnodd Canolfan Dylan Thomas ddau weithdy Sgwad Sgwennu’r Ifanc arbennig â thema ar gyfer ein grwpiau oedran uwchradd ym mis Gorffennaf. Dan arweiniad yr awdur arobryn, Rebecca F John, dechreuodd y sesiynau drwy edrych ar sut beth oedd bywyd 50 mlynedd yn ôl. Defnyddiwyd amrywiaeth o bropiau – gan gynnwys dillad a wnaed â llaw o 1969, LP a gemau megis dominos – fel propiau ysgrifennu, wrth i ni ddechrau drwy ddychmygu sut brofiad fyddai bod wedi gwylio dyn yn glanio ar y lleuad ym mis Gorffennaf 1969 o’ch ystafell fyw.

Fel dywedodd Jacob, 13 oed, yn ei ddarn, ‘Rwyf wedi syllu ar y sêr yn yr alaeth ddiderfyn, wedi myfyrio ar bosibilrwydd bywyd y tu hwnt i’r ddaear, gan feddwl tybed a fyddwn yn gallu darganfod hynny. Ac eto, dyma fi, wedi ymdrochi’n llwyr mewn sgrîn, yn mwynhau pob eiliad o bob ffrâm.’

Yn ail hanner y gweithdy, bu’r awduron ifanc yn dychmygu sut le fydd Abertawe ymhen 50 mlynedd, ac mae eu straeon yn cynnwys rhai elfennau dystopaidd iawn. Roedd y gweledigaethau o’r dyfodol yn amrywio o ddinas â phaneli solar drosti i Abertawe ar blaned Mawrth am fod y Jacks bellach yn rheoli’r blaned goch. Roedd hefyd sôn am fechgyn bochdewion mwtant, cymuned a reolir gan wlithod a chymuned arall lle mae soffas symudol yn ein cludo i bob man. Roedd gan ‘Abertawe’ arall ddefaid yn crwydro ar hyd y strydoedd am fod pawb yn feganaidd ac nid oes unrhyw ffermydd da byw, ac roedd ‘Abertawe’ arall lle’r oedd cynhesu byd-eang wedi achosi i lefelau’r môr godi i’r graddau bod Abertawe o dan y dŵr a’r preswylwyr yn byw mewn cromennau a ddyluniwyd yn arbennig ar bad hofran enfawr. Mewn stori arall, mae’r prif gymeriad yn clywed sŵn ac mae’n dyfalu mai ei gath robotaidd sy’n crafangu am pizza caws lleuad gyda ham Mawrthaidd sy’n weddill (hynny yw, ham a wnaed gan Fawrthiaid, nid ham sy’n cynnwys Mawrthiaid). Yn y cyfamser, gellir gweld llongau môr-ladron yn arnofio drwy bensetiau rhithweledol.

Roedd Rebecca wedi arwain cwpl o sesiynau hynod ysbrydoledig, ac mae un peth yn bendant ar gyfer y dyfodol; bydd enw da Abertawe ar gyfer cynhyrchu a maethu doniau ysgrifennu creadigol yn parhau. Bydd y genhedlaeth nesaf o ysgrifenwyr creadigol Abertawe wrth law i adrodd a dehongli’r straeon am y 50 mlynedd nesaf, ni waeth beth fydd yn digwydd.

Mae Canolfan Dylan Thomas hefyd yn cynnal Sgwad ar gyfer plant 8-11 oed yn ogystal â’n grwpiau oedran uwchradd. Mae’r Sgwadiau’n cwrdd ddwywaith y tymor am weithdy am ddim gydag awdur arbenigol. Yr unig gymhwyster y mae ei angen i ymuno yw cariad at ysgrifennu! Ewch i dylanthomas.com am ragor o wybodaeth neu ffoniwch 01792 463980.

This post is also available in: English