The Death of the King’s Canary

The Death of the King’s Canary

‘Leave the tortoise alone, Mrs Porter. He’s not dead. He’s thinking.’-The Death of the King’s Canary by Dylan Thomas and John Davenport 

O’r diwedd! Rwyf wedi darllen nofel Dylan (a ysgrifennwyd ar y cyd gyda John Davenport), sef The Death of the King’s Canary, o’r diwedd. Pan feddyliodd am y syniad yn gyntaf, bwriad Dylan oedd ‘ysgrifennu stori dditectif a fyddai’n well nag unrhyw stori dditectif arall’ a fyddai’n ‘codi cannoedd o sgwarnogod, yn cynnwys llawer o gliwiau camarweiniol a thystiolaethau cudd yn y stori, yn ystumio pob mater, yn troi sawl pennod yn barodïau bwriadol ac y bydd yn llawn ystrydebau mewn perthynas ag ysgrifenwyr straeon ditectif eraill’. (Collected Letters Dylan Thomas a gasglwyd, tud. 323) Rwy’n dwlu ar ffuglen dditectif ynghyd â straeon gan Dylan Thomas felly roedd y llyfr hwn yn addo bod yn gyfuniad perffaith i mi.

Desmond Hawkins oedd cydweithredwr cyntaf Dylan ar y prosiect ac, mewn llythyr dyddiedig 16 Medi 1935, gofynnodd Dylan i Hawkins anfon rhestr o enwau’r cymeriadau a gasglwyd ganddynt ato, ynghyd â gwaith gan Stephen Spender (iddynt ddechrau ei barodïau, mae’n debyg.) Rhywbryd rhwng 1 Tachwedd 1935 (pan ddywedodd Dylan wrth Hawkins y byddai’n ailysgrifennu’r hyn yr oedd wedi’i wneud) a 16 Mawrth 1938, daeth Charles Fisher, ei ffrind o Abertawe, i fod yn gyd-awdur. Ysgrifennodd Dylan at Fisher gan ddweud ‘y gallai ysgrifennu’r nofel fod yn hynod ddifyr ac y byddai’n darparu arian am ddiodydd iddynt am flwyddyn.’

Fodd bynnag, cafodd Fisher ei alw i ymladd yn y fyddin (roedd yn weithiwr i Wasanaeth Cudd-ymchwil Prydain a gwasanaethodd yn Ffrainc) ac felly daeth John Davenport yn gydweithredwr newydd ar gyfer y ‘stori wefreiddiol anhygoel’, yn ôl llythyr oddi wrth Dylan a anfonodd at Vernon Watkins ar 8 Ionawr 1941. Er y gorffennwyd y llyfr ym 1941, ar ôl i Dylan fenthyca teipiadur Vernon Watkins er mwyn teipo’r penodau diwethaf, ni chafodd ei gyhoeddi tan 1976. Mae’n bosib bod hyn o ganlyniad i’r ffaith ei bod yn cynnwys llawer o barodïau, prin wedi’u cuddio, am feirdd a ffigurau diwylliannol cyfoes, gan gynnwys T S Eliot, W H Auden, George Barker a chwaer a brodyr Sitwell. Yng nghyflwyniad ei nofel, mae Constantine Fitzgibbon yn dadlau ‘na ellid ei chyhoeddi tra oedd y prif gymeriadau’n fyw’.

Ar ddechrau’r nofel, gosodir tasg i’r Prif Weinidog, sef dewis y Bardd Llawryfog nesaf. Ar ôl iddo ddarllen cerddi sawl ymgeisydd (pob un ohonynt yn glytwaith o waith beirdd byw), mae’n dewis Hilary Byrd o’r diwedd. Mae’r cyhoeddiad yn codi arswyd ar y gymuned ddiwylliannol a chyflwynir eu hymatebion yn aml fel straeon comedi unigol. Mae’r cyffro’n diweddu mewn parti tŷ a drefnwyd gan Byrd i ddathlu’i benodiad, a dyna’r lle y mae’r  Bardd Llawryfog newydd (a adwaenir fel Caneri’r Brenin) yn mynd i’w dranc erchyll.  

Er nad hon oedd y stori dditectif roeddwn i wedi’i disgwyl, gan ystyried bod pobl yn sail i’r parodïau yn hytrach na straeon ditectif ynddynt eu hunain, roedd rhannau a wnaeth i mi chwerthin yn bendant. Yn sicr, roeddwn i am ddarllen mwy o waith gan Stephen Spencer a William Empson, a ddychanwyd gan Dylan Thomas yn y cerddi, ‘The Parachutist’ a ‘Request to Leda’ yn ôl eu trefn, o ganlyniad i ddarllen y nofel hon. Mae’n ymddangos bod ‘The Parachutist’ mor addas, roedd pobl yn ‘chwerthin llond eu boliau’ pan ddarllenodd Dylan y gerdd mewn trafodaeth yn Rhydychen, yn ôl dyfyniad Philip Larkin yn Dylan Thomas: A New Life gan Andrew Lycett, tudalen 230.

Er gwaethaf y ffaith nad oeddwn yn deall peth o’r hiwmor, mwynheais ddarllen The Death of the King’s Canary yn fawr iawn. Roedd ceisio dyfalu pa rannau a ysgrifennwyd gan Dylan a pha rannau a ysgrifennwyd gan John Davenport yn cyflwyno elfen ychwanegol o ddirgelwch i’r profiad! Fy hoff gymeriad, er nad wy’n siŵr ar bwy mae hi wedi cael ei seilio, oedd Mrs Crawshaw. Fe’i disgrifiwyd fel a ganlyn, ‘[woman who] had been knocked about in a good many stormy seas, but she’d kept her yachtish lines’. Pan welwyd hi’n cerdded yn noeth ar hyd mur Neuadd Dymmock gydag ymbarél agored, mae preswylwyr y tŷ’n rhuthro i’w helpu. Heb ddeall beth yw achos yr holl ffwdan, mae’n gofyn am barasol a brandi a soda! 

Katie Bowman, Canolfan Dylan Thomas


This post is also available in: English