Rhan Dau: Pwy oedd Nancy Thomas?

Rhan Dau: Pwy oedd Nancy Thomas?

Mae Katie Bowman o Ganolfan Dylan Thomas yn parhau i edrych ar fywyd Nancy Thomas.

Gadawsom Nancy yn ddwy ar hugain oed, yn gweithio mewn siop, yn cymryd rhan mewn cynyrchiadau amatur ac yn dal i fyw gartref. Cofiodd Doris Fulleylove sut y byddai’r ddwy ohonynt yn mynd i’r dref ac, fel trît, yn cael te yng nghaffi’r Kardomah (a oedd ar Castle Street). Ar y ffordd yno, rhoddwyd cyfarwyddiadau llym i Doris i beidio â ‘bwyta mwy nag un frechdan fach ac un deisen fach. Nid yw’n briodol/weddus.’ Byddent yn mynd yno’n rheolaidd, ac yn ymddwyn yn briodol, ond yna’n rhuthro adref a byddai Nancy yn datgan wrth Florence ‘Mam, er mwyn Duw, rhowch rywbeth i ni ei fwyta, rydym yn llwgu!’ Yn sicr mae’n ymddangos bod Nancy wedi bod yn un am gadw wyneb. Roedd Eileen Llewellyn Jones yn ei disgrifio fel ‘merch fach brydferth gyda gwallt golau, cyrliog, a llygaid mawr brown; Bywiog ac atyniadol iawn gyda synnwyr digrifwch gwych’. Roedd ffrind Dylan, Daniel Jones, yn ei chofio o’i ymweliadau â’r tŷ fel un a fyddai’n ‘gadael arogl egsotig o ffwr a phersawr’ ar ei hôl.

Rydym yn parhau â’r hanes yn haf 1929. Wedi’u hysbrydoli gan fudiad y Little Theatre yn yr Unol Daleithiau, sefydlodd aelodau o Gymdeithas Lwyfan Abertawe, ymhlith eraill, Swansea Little Theatre. Yn ôl Eileen Llewellyn Jones roeddent yn grŵp a oedd eisiau ‘cynnal eu theatr eu hunain, adeiladu eu setiau eu hunain, creu eu gwisgoedd eu hunain ac astudio union ystyr y theatr.’ Roedd Nansi yn un o aelodau sefydlu’r grŵp hwn. Y Cynghorydd Willie Jenkins oedd y cadeirydd. Prydleswyd neuadd eglwys yn Southend, y Mwmbwls. Cynhaliwyd parti gardd hyrwyddo gan y prif aelodau, Alan a Vesta Gill. Ymhlith y rhai a oedd yn bresennol oedd Nancy a Haydn Taylor.

Bu Haydn Taylor yn byw yn Abertawe am dair blynedd ond roedd yn hanu’n wreiddiol o Friste. Roedd yn dair ar hugain oed, yn werthwr deunyddiau adeiladu ac yn frwd dros y theatr. Roedd yn amlwg ei fod ef a Nancy wedi dod ymlaen yn dda pan wnaethant gyfarfod oherwydd aeth ef â hi adref yn ei gar yn lle ei gariad ar ddiwedd y noson! Datblygodd eu cyfeillgarwch wrth i’r ddau gymryd rhan frwd yng nghynhyrchiad cyntaf y theatr yn y mis Tachwedd.

Nid oedd perthynas Nancy a Haydn yn un syml bob amser. Nododd Andrew Lycett y byddai Haydn yn canlyn Nancy yn y parlwr yn Cwmdonkin Drive. Rhwystrwyd ymdrechion i gael preifatrwydd gan y ffaith bod panel uchaf y drws wedi’i wneud o wydr lliw a byddai mam Nancy, Florence, yn syllu i mewn arnyn nhw yn ysbeidiol. Ar lefel arwynebol roedd yn ymddangos bod Dylan ar delerau rhesymol gyda phartner Nancy, yn ddigon da i fynd i gemau criced gydag ef ac i ofyn am fenthyciad achlysurol ganddo, ond roedd Haydn yn argyhoeddedig nad oedd brawd iau Nancy yn ei hoffi. Mae Lycett yn awgrymu y gallai hyn fod oherwydd bod rhieni Dylan wedi ‘gosod sobrwydd a gwaith caled y gwerthwr fel esiampl i’w mab chwit-chwat.’ Erbyn hyn roedd Dylan wedi gadael Ysgol Ramadeg Abertawe ac wedi dod yn ohebydd ieuaf i’r South Wales Daily Post, ac roedd yn aml yn dychwelyd adref yn feddw ​​ar ôl aros allan ar ôl gwaith.

Gwnaeth Nancy a Haydn barhau i berfformio mewn theatr amatur ac, ac ar ôl i Dylan adael yr ysgol, daeth hefyd yn aelod. Cynhyrchiad nodedig oedd Hayfever, Noel Coward, a berfformiwyd gan Swansea Little Theatre rhwng 18 a 20 Chwefror 1932. Dyma oedd y cynhyrchiad cyntaf i Dylan fod yn rhan ohono gyda’r cwmni, ac roedd hefyd yn cynnwys Nancy a Haydn. Yn Dylan Thomas the Actor, mae Heather Holt yn dyfynnu beirniad o’r Mumbles Press a oedd yn bresennol yn un o’r perfformiadau: “Gwnaeth Miss Nancy Thomas, a oedd yn chwarae rhan Jackie Croydon swil a gafodd ei magu’n dda, roi un o’r perfformiadau gorau y mae wedi bod yn fraint i mi ei weld ers amser hir.” 

Yn ystod haf 1932 trafododd Haydn a Nancy briodi. Ni wnaethant unrhyw gyhoeddiad swyddogol o’u bwriadau, ond penderfynodd Haydn symud i Lundain i chwilio am swydd well i’w cefnogi, a dod o hyd i dŷ ar eu cyfer yn un o’r Siroedd Cartref cyfagos. Heb Haydn yn gwmni, daeth Nancy yn fwyfwy anfodlon â bywyd cartref.

Roedd y Thomasiaid mewn trafferthion ariannol. Nododd Paul Ferris y byddai Florence, yn gynnar yn eu bywyd priodasol, yn cipio’r post i guddio’r ffaith nad oedd biliau wedi’u talu oddi wrth D.J. Yn gynnar yn y 1930au roedd eu sefyllfa ariannol yn gwaethygu a byddai hyn yn achosi ffraeon aml ac amgylchedd byw negyddol. Roedd iechyd D.J hefyd wedi dirywio, oedd yn ei wneud yn ddrwg ei dymer yn aml. Roedd Nancy yn amau ​​bod ei mam yn stemio ei llythyrau oddi wrth Haydn ar agor; pan ddechreuodd Haydn selio ei lythyrau ati â chwyr selio, yn ôl Lycett, roedd Florence yn wyllt gacwn, gan ebychu mai dyma oedd ‘y peth mwyaf digywilydd a glywais erioed’. Ar ôl ffrae annymunol iawn gyda’i thad yn yr hydref, paciodd Nancy ei bagiau a cheisio lloches yn Mlaencwm yn Sir Gâr. Fodd bynnag, er iddi fwynhau gweld ei Modryb Polly, nid oedd hi mor hoff o’i Hewythr Bob. Achosodd hyn benbleth iddi. Mewn llythyr at Haydn a nodwyd yn Dylan Thomas A New Life, Lycett, mae hi’n pendroni am aros gyda: ‘Dyn hollol wallgof a hen fodryb annwyl sydd â pheswch ofnadwy ac sy’n poeri – ac sy’n cael trafferth gyda’i chroen.’ Mae’n ychwanegu: ‘Allwch chi adael i mi barhau i fyw fel hyn? Ddim os ydych chi’n fy ngharu ac eisiau i mi fod yn synhwyrol. Neu a ddylwn i ddychwelyd adref? Lle maen nhw i gyd yn wallgof… ’  

Byddwn yn datgelu rhan nesaf ei stori yn Rhan 3.

Katie Bowman, Canolfan Dylan Thomas

This post is also available in: English