Pwy oedd Nancy Thomas? | Rhan 1

Pwy oedd Nancy Thomas? | Rhan 1

Mae Katie Bowman o Ganolfan Dylan Thomas wedi dechrau cyfres o flogiau am chwaer hŷn Dylan, Nancy.

Rwyf bob amser wedi mwynhau ymchwilio i Dylan, i ddarganfod rhagor am y dyn a ysgrifennodd y cerddi a darllen am ei berthnasoedd gyda’i deulu, ei ffrindiau a’i gydweithwyr. Mae rhai o fy hoff hanesion am Dylan yn cynnwys ei chwaer hŷn, Nancy, a gwnaeth hyn fy ysgogi i edrych ar ei bywyd a’i chymeriad yn fanylach. Mae hyn wedi bod yn heriol oherwydd bod y rhan fwyaf o’r ffynonellau gwybodaeth yn canolbwyntio ar Dylan, yn naturiol, ac wrth iddynt gysylltu â’i gilydd yn llai cyson, roedd llai o wybodaeth amdani ar gael. Fodd bynnag, gwnaeth hyn fy niddori’n fwy a phenderfynais gasglu’r holl ddogfennaeth a oedd ar gael a cheisio darganfod cymaint â phosib am unig chwaer Dylan yn lle gadael i hynny fy rhwystro.

Ganed Nancy Marles Thomas ar 2 Medi, 1906. Roedd y teulu’n byw mewn llety ar rent yn Cromwell Street, ger Ysgol Ramadeg Abertawe ar y pryd. Pan roedd Florence yn feichiog gyda Dylan, prynon nhw 5 Cwmdonkin Drive, a oedd newydd gael ei adeiladu. Byddai Nancy yn aros yn yr ystafell wely yn y canol. Pan aeth Florence yn esgor, helpodd Gillian Jones, yr un fydwraig a helpodd yn ystod genedigaeth Nancy, i eni Dylan. Pan gafodd Dylan ei eni, roedd Nancy yn y gwely’n sâl oherwydd y frech goch. Yn Dylan Remembered Volume One, roedd Addie Elliot, y fydwraig cynorthwyo a helpodd yn ystod genedigaeth Dylan, yn cofio bod Nancy yn dwlu ar Dylan pan roedd yn ifanc, ac roedd bob tro’n fodlon chwarae gemau gydag ef. Fe’i disgrifiwyd fel ‘y plentyn mwyaf hyfryd rwyf erioed wedi’i adnabod.’ Dywedodd Doris Fulleylove, a oedd yn ffrind iddi’n blentyn, fod Nancy yn ei alw’n ‘Baby’ pan roedd yn fach. Llythyr at Nancy o 1926 yw’r llythyr goroesol cyntaf oddi wrth Dylan y gwyddys amdano, ac fe’i hysgrifennwyd  pan roedd hi’n aros ym Mythynnod Blaen Cwm, Sir Gaerfyrddin. Caiff copi ohono ei arddangos yn ein Harddangosfa Dylan Thomas; mae’n llawn jôcs, geiriau mwys a chwarae ar eiriau.

Fodd bynnag, roedd rhai arwyddion yn dangos y gallai Dylan fod yn frawd bach heriol o oedran ifanc. Yn ystod ei chyfnod yn ysgol Mrs Hole yn Mirador Crescent, perfformiodd Nancy ddetholiad o Macbeth, gan chwarae rhan un o’r tair gwrach. Yn ôl pob sôn, rhoddodd Dylan fom drewi yn y crochan, a dorrodd ar draws y perfformiad. Roedd Gwevril Dawkins, a oedd yn gofalu am Dylan a Nancy pan aeth eu rhieni allan, yn cofio Dylan fel cythraul bach ofnadwy.

Ar ôl mynd i ysgol Mrs Hole, aeth Nancy i Ysgol Uwchradd Abertawe ac mae’n ymddangos bod tebygrwydd rhwng ei bywyd academaidd hi a Dylan. Er enghraifft, dywedwyd ei bod yn rhagori mewn Saesneg ond nid oedd yn hoff iawn o bynciau eraill. Dywedodd ei ffrind Eileen Llewellyn Jones fod hyn oherwydd diffyg presenoldeb – roedd yn absennol yn gyson oherwydd peswch, annwyd a broncitis. Roedd Florence yn poeni’n fawr y byddai ei phlant yn dal twbercwlosis. Yn ei fywgraffiad o Dylan Thomas, nododd Andrew Lycett fod Nancy wedi bod yn absennol o’r ysgol am ddau dymor rhwng 1922-3 ar ôl iddi ddal afiechyd gwaed a oedd yn golygu y gallai unrhyw drychiad droi’n septig.

Roedd Nancy yn dwlu ar actio ac fe’i hystyriwyd i fod yn ddawnus yn y maes hwn. Yn sicr, gallai’r gwersi gyda Gwen James fod wedi ei helpu. Roedd Eileen Llewellyn Jones yn cofio bod gan Nancy synnwyr digrifwch gwych ac roedd yn gallu dynwared pobl yn wych. Mae’n debyg ei bod wedi cael ei hun mewn trafferth am ddynwared meistresi. Byddai’n actio mewn perfformiadau ysgol ac roedd yn gyfranogwr gweithredol iawn yn y cylch darllen a gynhaliwyd i’r blynyddoedd hŷn, a oedd yn cyfarfod bob pythefnos i ddarllen dramâu. Sefydlodd hi a’i ffrindiau eu cylch darllen eu hunain y tu allan i’r ysgol a byddant yn cyfarfod yn nhai ei gilydd ar nos Sadwrn. Ar ôl iddi adael yr ysgol ym 1925, parhaodd y grŵp hwn. Yn Dylan Thomas the Actor, mae Heather Holt yn nodi bod Nancy wedi ystyried gyrfa ym maes actio ar un adeg. Roedd ei mam yn pryderu ynghylch ei gwendid a chafodd cyngor meddygol i beidio ag ystyried y fath yrfa. Fodd bynnag, nid oedd hyn wedi’i stopio rhag cymryd rhan mewn nifer o gynyrchiadau amatur.

Ym 1928, penderfynodd Dylan a Dan Jones lansio cylchgrawn o’r enw The Era. Roedd y cynnyrch gorffenedig yn cynnwys wyth tudalen, a Dylan a Dan oedd y golygyddion. Roedd enw Nancy wedi’i gynnwys ar y rhestr o gyfranogwyr, ac fe’i disgrifiwyd fel person cydnabyddedig yn y gymdeithas a’r byd actio. Roedd Nancy yn gweithio mewn siop ond yn sicr roedd ganddi uchelgeisiau o ran actio. Y flwyddyn ganlynol, sef 1929, cafodd gyfleoedd a fyddai’n ehangu ei gorwelion mewn nifer o ffyrdd, a dyma fydd cynnwys rhan dau. 

Katie Bowman, Canolfan Dylan Thomas

This post is also available in: English