Gweithdy pypedau a theatr ‘Holiday Memory’

Gweithdy pypedau a theatr ‘Holiday Memory’

Yn ei ddarllediad radio, ‘Holiday Memory’, mae Dylan yn ysgrifennu am ei atgofion o dreulio diwrnodau gŵyl y banc braf mis Awst ar y traeth, ac yn siarad am wylio’r adloniant glan môr traddodiadol sef sioe pypedau theatr Pwnsh a Siwan. Bydd y gweithdy hawdd hwn yn eich helpu i greu eich theatr a’ch pypedau bach eich hunan!

Bydd angen:

  • 1 darn o gardbord A3 neu A4 gadarn i greu’r theatr
  • Cardbord ysgafnach ar gyfer y pypedau
  • Pinnau neu bensiliau lliw
  • Siswrn
  • Tâp neu lud
  • Gwellt neu ffyn lolipop pren


Cam 1

Gallwch argraffu templed theatr neu ei ddefnyddio fel arweiniad er mwyn tynnu llun o’ch theatr eich hun. Defnyddiwch ddarn o gerdyn A4 ar gyfer theatr lai, neu ddarn sy’n fwy os hoffech rywbeth mwy. Lliwiwch y theatr cyn ei thorri allan, yna does dim ots os ydych chi’n lliwio y tu allan i’r llinellau! Ychwanegwch unrhyw addurniadau.

Plygwch yr adenydd ar y naill ochr fel bod y theatr yn sefyll..

Lawrlwythwch dempled y theatr


Cam 2

Argraffwch eich pypedau neu lluniwch eich rhai eich hun – gallent fod yn anifeiliaid, pobl, cymeriadau cartŵn, estroniaid…defnyddiwch eich dychymyg! Yn yr un modd â’r theatr, lliwiwch nhw cyn eu torri allan. Gludwch ffon lolipop bren neu welltyn ailddefnyddiadwy i gefn eich pyped – dyma fyddwch chi’n ei ddal wrth berfformio’ch sioe.

Lawrlwythwch dempled y pyped


Cam 3

Defnyddiwch y pypedau i roi eich perfformiad bach eich hun yn eich theatr bypedau! Gallwch greu sioe ar y pryd neu ysgrifennu sgript gyfan ar gyfer eich cymeriadau! I bwy y byddwch chi’n perfformio’ch sioe?

This post is also available in: English