Hwyl Hanner Tymor a Dylan vs Y Dyn Ffwng

Rydyn ni wedi cael amser hyfryd yng Nghanolfan Dylan Thomas yn ystod yr hanner tymor hwn, gyda’r Lle Dysgu ar agor trwy’r wythnos ar gyfer gweithdai a gweithgareddau a arweinir gennych chi. Prif thema’r wythnos oedd ‘Teithiau Dylan’ gyda chyfleoedd i fod yn greadigol trwy greu mapiau, cardiau post, straeon, ac wrth gwrs, wisgo gwisgoedd.

Doedd e ddim eisiau colli’r hwyl, felly dyma un o’n cyfranogwyr, o’r enw Henry (9 oed), yn gosod cadair wrth ddesg y dderbynfa a gofynnodd i ni greu map trysor, gan gynnwys cystiau trysor llawn emojis a dihirod. Wrth gwrs, dechreuon ni feddwl am arwyr amrywiol a’u gelynion… ac felly cafodd y Dyn Ffwng ei eni (neu ei sboru).

Mae’r Dyn Ffwng yn genfigennus iawn o lwyddiant Dylan Thomas. Mae e eisiau dinistrio’i le ysgrifennu a’i newid i fod yn domen gompost enfawr. Ond sut? Wel, trwy fanteisio ar y ffaith bod Dylan Thomas yn hoffi cael bath hir, mae’r Dyn Ffwng yn bwriadu sugno pob diferyn o ddŵr y bath gyda’i gap sugno arbennig. Tra bod Dylan yn ddiymadferth yn y bath, bydd e’n llenwi’r ystafell gyda chaws llyffant. Yn anffodus i’r Dyn Ffwng, mwynhaodd Dylan fwyta winwns picl yn y bath ac mae sudd piclo yn gwneud i’r Dyn Ffwng fod yn sâl. Un jar wedi’i thaflu a’i hanelu’n ofalus gan Dylan, ac mae cynllun ei elyn wedi cael ei ddifetha.

Fel gallwch chi ddychmygu, ni fydd yr un ohonon ni’n edrych ar fadarch yn yr un ffordd eto!

Mae Henry wedi dweud wrthym fod rhaid i ni greu mwy o arwyr erbyn y gwyliau nesaf, felly, esgusodwch fi, mae’n rhaid i fi fynd yn ôl i Collected Poems Dylan nawr i gael fy ysbrydoli!

This post is also available in: English