Sicrhewch fod gwyliau’r haf yn fythgofiadwy

Rydym i gyd yn edrych ymlaen at wyliau’r haf yng Nghanolfan Dylan Thomas!

Rwyf newydd orffen darllen Elen’s Island gan Eloise Williams, stori am ferch sy’n treulio’i gwyliau ar un o ynysoedd Cymru gyda’i mam-gu. Yna mae hi’n dod o hyd i hudoliaeth, mapiau trysor, ogof môr-ladron a Chapten Beaky, y pâl hyfryd (sydd wir yn haeddu llyfr cyfan iddo’i hun). Roeddwn yn dwlu ar y disgrifiadau, y dirgelwch a’r cymeriadau ac rwyf wrth fy modd bod Eloise yn dod i’r ganolfan i gynnal gweithdy ysgrifennu gyda phlant 6-11 oed ym mis Awst. Bydd hi’n mynd â’n darpar awduron ar daith trwy’r gofod ac amser, gyda digon o ddychymyg ac anturiaethau digrif. Gobeithio bydd hi’n dod â phawb yn ôl i’r presennol erbyn diwedd y sesiwn fel y gall hi lofnodi fy llyfr!

Yn ogystal, bydd Emily Hinshelwood yn cynnal y creadigrwydd gyda gweithdy ysgrifennu am ddim i blant 11-16 oed ym mis Gorffennaf a bydd cyfle i alw heibio a gwneud llyfr comics bach ym mis Medi.

Ciplun o un o’n gweithdai Llyfrau Comics ‘Holiday Memory’ mwyaf diweddar
Emily Hishelwood yn rhannu ei sgiliau ysgrifennu creadigol â ni yn ein man dysgu cyfeillgar i deuluoedd

Mae gennym raglen llawn gweithgareddau creadigol i’r holl deulu felly dewch i ymuno â ni ar gyfer haf cofiadwy! Gweler y rhestr lawn yma: http://www.dylanthomas.com/cy/digwyddiadau/

This post is also available in: English