Gwynfyd adeg y Nadolig

Dyma fy hoff dymor… ac nid yn unig am fod y Nadolig yn nesáu. Dyma’r adeg o’r flwyddyn pan fyddwn yn croesawu ein gwesteion blynyddol, cyn-Fardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke, a’r Bardd Llawryfog, Carol Ann Duffy.

Ar 1 Rhagfyr, bydd y ddwy wych yma’n rhoi darlleniadau o’u gwaith gydag un perfformiad am 5pm ac un arall am 7.30pm. Mae bob amser rhywbeth hudol am glywed bardd yn darllen ei eiriau ei hun, ac mae Duffy a Clarke ill dwy yn gyfarwydd iawn â dal sylw cynulleidfa.

Rwy’n dwlu ar y llyfrau Nadolig y mae Carol Ann Duffy’n eu hysgrifennu: fy ffefryn hyd yma yw ‘Mrs Scrooge’, er bod gennyf deimlad y bydd ei llyfr newydd, ‘Pablo Picasso’s Noel’, yn rhagori arno ac rwy’n ysu am gael gafael arno. Mae Gillian Clarke hefyd yn addo rhywbeth newydd gyda’i theitl diweddaraf,  ‘Zoology’, sydd wedi’i amseru’n berffaith gan fy mod newydd orffen darllen ‘Ice’ ac rwy’n ysu am ddarllen mwy.

Felly rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur a dewch lawr i’r ganolfan i wrando ar y mawrion hyn o fyd barddoniaeth. Bydd cyfle i brynu llyfrau, a’u cael wedi’u llofnodi hefyd. Mae hynny’n fy atgoffa, well i mi fynd i wneud mwy o le ar fy silffoedd llyfrau…

 

Katie Bowman
Blaen Tŷ Canolfan Dylan Thomas

This post is also available in: English