Hetiau parti, teisen a chaligraffeg ym mhen-blwydd mawr Dylan!

Cawsom lawer o hwyl wrth ddathlu genedigaeth ein hoff fardd o Abertawe, Dylan Thomas ei hun, ym Mhen-blwydd Mawr Dylan ddydd Llun 30 Hydref.

Rhwng 1pm a 4pm buom yn creu bathodynnau pen-blwydd, yn paentio ein hwynebau ac yn bwyta llawer o deisen pen-blwydd! Ond nid y parti a’r hwyl oedd canolbwynt y dathliad – roedd gwaith gwych y bardd wrth wraidd ein gweithgareddau.

Thema’r sesiwn paentio wynebau oedd yr anifeiliaid sy’n rhan o lwybr Dylan, sy’n rhedeg drwy ein harddangosfa ‘Dwlu ar y Geiriau’. Roedd gennym hyd yn oed haid o lwynogod, a oedd yn mwynhau’r cyfle i gael adeiladu eu ffau eu hunain yn ein theatr fach yn y man dysgu.

Cefais amser gwych yn gwrando ar bobl o bob oedran yn rhannu eu hoff linellau o waith mwyaf poblogaidd Dylan â ni. Roeddwn yn rhannu diddordeb gyda Lucas, sy’n 9 oed, sydd hefyd yn dwlu ar ‘A Winter’s Tale’. Cawsom drafodaeth ddifyr ynghylch sut rydym yn dychmygu y byddai gwair yn arogli yn yr eira, a hefyd ceisiom ysgrifennu ein caligraffi ein hunain.

Yn ystod y prynhawn, cefais gipolwg gwerthfawr ar rai o weithiau mwyaf dwys Dylan – yn enwedig ‘Poem in October’ yr oedd pawb yn hoff iawn ohoni.


Mae hanner tymor bellach yn atgof pell, ond mae gennym ddigonedd o weithgareddau ar y gweill wrth i’r Nadolig nesáu – gan gynnwys gweithdy creu glôb eira, yn ogystal â pherfformiadau theatr proffesiynol gan Gwmni Theatr Fluellen.

 

Am fwy o wybodaeth am ein digwyddiadau, neu ein gostyngiadau ar gyfer grwpiau, ffoniwch ni ar 01792 463980 neu dewch i’n gweld ni, byddwn yn hapus i’ch helpu!

This post is also available in: English