Edith Sitwell | Rhan 1

Edith Sitwell | Rhan 1

Yma mae Katie yn trafod y bardd dylanwadol Edith Sitwell, a’r ffyrdd y bu’n annog ac yn hyrwyddo barddoniaeth Dylan Thomas.

Disgrifiwyd Edith Sitwell, a aned yn Scarborough ar 7 Medi 1887, gan Charles Myndye yn ei erthygl ‘Edith Sitwell, eccentricity and sounds’ fel un o feirdd mwyaf cyffrous ac esgeulusedig y ganrif ddiwethaf. Cyhoeddodd ei chasgliad cyntaf o gerddi, Mother and Other Poems, ym 1915. Ym 1916, ynghyd â’i brodyr Osbert a Sacheverell, lluniodd ac adolygodd y flodeugerdd farddoniaeth flynyddol, Wheels. Yn ôl y Llyfrgell Brydeinig, sy’n cadw copi o gyhoeddiad 1919 yn ei chasgliad, Wheels oedd y rhai cyntaf i argraffu sawl un o gerddi Wilfred Owen gyda’i gilydd. Nododd Myndye ei bod yn gyfrwng i gyhoeddi a rhoi cyhoeddusrwydd i waith Owen. Fel y gwelwn, gellid dweud yr un peth yn achos Dylan Thomas.

Roedd Dylan yn gyfarwydd â gwaith Edith Sitwell. Ychydig wythnosau ar ôl ei ben-blwydd yn 15 oed, cyhoeddwyd ei erthygl ‘Modern Poetry’ yng nghylchgrawn yr Ysgol Ramadeg. Ynddi, mae’n rhoi beirniadaeth gyffredinol o dri darn o waith y siblingiaid Sitwell. Er iddo nodi eu bod yn cael eu hystyried fel ‘beirdd tywyll’, dywedodd fod eu gwaith yn gwneud argraff ar y meddwl trwy ddelweddau a meddyliau hynod eglur. Tynnodd sylw at gerddi Edith: ‘their shrewd grasp of detail, their sudden illuminations, and their intensity of emotion’. Erbyn hyn roedd Edith wedi cyhoedd naw casgliad o gerddi. Ychydig a wyddai Dylan mai Edith Sitwell fyddai’n adolygu ei waith yntau ymhen rhai blynyddoedd.

Pan gyhoeddwyd cerdd Dylan, ‘Our eunuch dreams‘ yn New Verse, ni wnaeth fawr o argraff ar Edith Sitwell. Meddai Paul Ferris yn Dylan Thomas: The Biography ei bod wedi’i alw’n ‘appalling affair’. Yn ôl Andrew Lycett yn Dylan Thomas: A New Life, dywedodd wrth John Sparrow (academydd a bardd) y dylai Dylan Thomas weld seicdreiddiwr yn syth cyn i rywbeth gwaeth ddigwydd iddo. Fodd bynnag, ailystyriodd ei barn ar ôl darllen cerdd nesaf Dylan, ‘A grief ago‘, a rhoddodd adolygiad da iawn i’r gerdd honno a’i lyfr cyntaf 18 Poems yn London Mercury yn gynnar ym 1936: ‘I know of no young poet of our time whose poetic gifts are on such great lines.’ Ysgrifennodd hefyd lythyr yn ei annog, ac mewn llythyr dilynol, gwahoddodd Dylan i barti yn Llundain ac i giniawa gyda hi yn ei chlwb. Dywedodd wrth ei ffrind Richard Herring ei bod yn bwriadu gofyn rhai cwestiynau iddo a rhoi rhywfaint o gyngor iddo. Ysgrifennodd Dylan, a oedd wedi’i gyfareddu ond hefyd wedi’i frawychu, at Richard Herring i ofyn ei farn am Sitwell: ‘She isn’t very frightening, is she?’. Aeth Dylan i’r galwadau ac, yn ôl Edith mewn cyfweliad â’r BBC gyda Wynford Vaughan Thomas, ac a ddyfynnwyd yn The Life of Dylan Thomas gan Constantine Fitzgibbon, roedd e’ wedi ymddwyn yn hyfryd. Ychwanegodd fod Dylan bob amser yn ymddwyn ‘fel mab gyda’i fam’ pan roedd yn ei chwmni. Mae Andrew Lycett yn dogfennu ei bod yn credu, yn ystod dyddiau cynnar eu perthynas, y gallai Dylan fod yn fardd penigamp pe bai’n cael gwared ar ei gymhlethau’.

Ar 15 Tachwedd 1936, cyhoeddwyd adolygiad Edith Sitwell o Twenty-five Poems yn y Sunday Times. Yn ôl Lycett, bu’n eu poeni i’w gynnwys. Mae Ferris yn rhoi dyfyniadau amrywiol o’r erthygl hon, a oedd yn cynnwys brawddegau fel ‘nothing short of magnificent’, a ‘I could not name one poet of this, the youngest generation, who shows so great a promise, and even so great an achievement.’ Tynnodd ei hadolygiad sylw nifer yn rhagor o ddarllenwyr at waith Dylan, a dywedodd  Ferris mai dyma oedd y peth pwysicaf a ddigwyddodd i Dylan ym 1936. Fodd bynnag, dechrau’r cyhoeddusrwydd yn unig oedd ei beirniadaeth o’r llyfr. Dechreuodd sylwadau Sitwell drafodaeth a noda Lycett y derbyniwyd nifer mawr o lythyrau, a chyhoeddwyd ugain o’r rheini dros y ddau fis nesaf. Roedd y rhain yn trafod manteision ac anfanteision barddoniaeth fodern ac amddiffynnodd Edith ei sylwadau’n chwyrn. Meddai yn rhifyn mis Chwefror 1954 yr Atlantic: It was my privilege and pride to give the attackers… more than as good as they gave. The air still seems to reverberate with the wooden sound of numskulls being soundly hit.’ Gwerthwyd pob un o’r 750 copi o argraffiad cyntaf Thomas yn gyflym, a gwnaed tri argraffiad arall. Dywedodd Lycett mai hwn oedd un o lyfrau barddoniaeth mwyaf llwyddiannus y 1930au.

Cadwch lygad am Ran Dau cyn bo hir!

Katie Bowman, Canolfan Dylan Thomas

This post is also available in: English