Crëwch eich preswylydd eich hun ar gyfer Llareggub!

Crëwch eich preswylydd eich hun ar gyfer Llareggub!

Creodd Dylan Thomas gast anhygoel o gymeriadau i boblogi tref fach glan môr Llareggub yng Nghymru, ond rydyn ni’n credu bod lle i un neu ddau arall! Pwy hoffech chi ei weld yn byw ochr yn ochr â Poli Gardis, Capten Cat, Organ Morgan a Mrs Ogmore-Pritchard?

Ysgrifennwch ddisgrifiad o’ch cymeriad neu tynnwch lun ohono. Os ydych yn teimlo’n ysbrydoledig, gallwch ysgrifennu ymson byr lle mae’r cymeriad yn cyflwyno’i hun i ni.

Dyma rai awgrymiadau i’ch rhoi ar ben ffordd:

  • Beth yw oed eich cymeriad – ydy e/hi’n oedolyn, yn berson ifanc yn ei arddegau neu’n blentyn?
  • Oes ganddo unrhyw nodweddion gwahaniaethol fel clwtyn llygad, aeliau trwchus iawn neu datŵ?
  • Sut mae e’ neu hi’n siarad – oes ganddo/ganddi acen, ymadroddion neu ddywediadau arbennig?
  • Beth mae e/hi’n hoffi’i wisgo?
  • Beth yw ei hoff fwyd?
  • Beth yw ei hobïau?
  • Oes ganddo/ganddi unrhyw arferion anghyffredin?
  • Gyda phwy mae e/hi’n byw ac oes ganddo/ganddi unrhyw anifeiliaid anwes?
  • Oes cyfrinach ganddo/ganddi?
  • Beth yw’r peth mwyaf gwerthfawr sydd ganddo/ganddi?

Dyma sut mae Dylan Thomas yn cyflwyno tri o’i gymeriadau yn Dan y Wenallt – gallwch gael ymdeimlad go iawn o’u personoliaethau mewn ychydig linellau’n unig:

“Fi, Dai Bara, yn hastu i’r popty, a chwt ’y nghrys i mas, yn bwtwmo ’ngwasgod, diawl ’na fwtwm arall wedi hedfan, pam na allan nhw’u gwinio nhw, dim amser i frecwast, dim byd i frecwast, ’na wragedd i chi…

“”Fi, Mrs Dai Bara Gwyn, cap am ’y mhen, siol am ’y ngwar, a dim am ’y nghanol, ma’ hi’n neis bod yn gyffwrddus, ma hi’n neis bod yn neis, yn clymhercan ar y cobls i alw cymdoges.   O, Mrs Sara, allwch chi sbario torth, cariad? Ma’ Dai Bara wedi anghofio’r bara…”

“Fi, Mrs Dai Bara Brown, clatsien o fenyw ddansherus yn ’y mhais sidan, sgarlad, uwch na ’mhenlinie, penlinie brwnt, pert, shgwla ar ’y nghnawd sy mor frown â mwyaren o dan ’y mhais, sodle main ac un sawdl ar goll, crib cragen-crwban yn ’y ngwallt melfed, llithrig, llachar, dim byd arall amdana i o gwbwl, dim ond dab o sent, yn falch o ga’l neud siew wych o’n hunan ar y trothwy, fe weda i dy ffortiwn yn y dail te, yn gwgu ar yr heulwen, yn tano ’mhib.”

Cofiwch rannu’r cymeriad rydych chi wedi’i greu â ni drwy ei e-bostio i LlenyddiaethDylan.Thomas@abertawe.gov.uk neu tagiwch ni ar gyfryngau cymdeithasol – @CDTAbertawe ar Twitter ac @CanolfanDylanThomas ar Facebook.                         

This post is also available in: English