Cerdd yn y Pot dan y Gwely (Pot Piso)

Cerdd yn y Pot dan y Gwely (Pot Piso)

Yma mae Charlotte Rogers o Ganolfan Dylan Thomas yn archwilio bywyd, gwaith a dylanwad Tambimuttu.

Fel ffigwr canolog yng nghylchoedd llenyddol (a chymdeithasol) ei ddydd, gwelwn enw Dylan Thomas wedi’i gysylltu â nifer o ysgrifenwyr eraill. Edith Sitwell, Vernon Watkins, Pamela Hansford Johnson a Kingsley Amis ag enwi rhai yn unig. Fodd bynnag, mae ffigwr yr oedd ei frwdfrydedd creadigol a’i wreiddioldeb craff yn cysylltu cynifer o’r artistiaid rydym yn meddwl amdanynt heddiw fel rhan o’r canon llenyddol – gan gynnwys Dylan.

Cyhoeddwr, bardd, golygydd a beirniad Tamil oedd Meary James Tambimuttu a oedd yn dadlau’n frwd o blaid – ac yn cyfrannu at – fyd llenyddol canol yr ugeinfed ganrif yn Llundain ac Efrog Newydd. Mae ‘na si iddo fathu’r term  ‘Fitzrovia’, sy’n cyfeirio at yr ardal yn Soho lle byddai’r ysgrifenwyr a’r artistiaid mawr (a oedd yn aml yn feddw) yn ymgasglu i drafod eu celfyddyd a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol.[1]

Fe’i ganed ym 1915 yn Seilón (Sri Lanka erbyn hyn), a daeth ‘Tambi’ fel y’i hadwaenwyd gan ei gyfeillion a’i gydweithwyr, i Lundain pan oedd yn 22 oed. O fewn blwyddyn o gyrraedd y ddinas, roedd wedi dechrau cyhoeddi’r cylchgrawn llenyddol enwog, Poetry London, a fyddai’n cynnwys gwaith sawl enw eiconig, gan gynnwys,  Lawrence Durrell, Elizabeth Smart, Diana Gardner, George Barker, ac – wrth gwrs – Dylan Thomas.[2] Roedd gwreiddioldeb yr argraffiad cyntaf yn golygu ei fod yn llwyddiant di-oed, ac ysgrifennodd Dylan at Tambimuttu i’w longyfarch ar ei ddewisiadau blaengar a’i ‘gyflwyniad anffasiynol’.[3] Byddai’r cyhoeddiad hwn yn gosod y naws ar gyfer holl benderfyniadau golygyddol a chyhoeddi Tambimuttu, y’u nodweddwyd yn aml gan reddf am ddawn a heriai gonfensiwn.

Ni ellir gorbwysleisio cefnogaeth Tambimuttu ar gyfer cerddi Dylan. Pan gyhoeddwyd Poetry London am y tro cyntaf ym 1938, roedd Dylan a’i wraig newydd Caitlin yn byw yng Nghymru’n bennaf, heb gysylltiad â byd llenyddol y brifddinas. Er bod Dylan wedi cael llwyddiant gyda chyhoeddiad 18 Poems and Twenty-five Poems drwy J M Dent & Sons Ltd, roedd yn dal yn ddigon tlawd i orfod benthyca arian ar gyfer ei drwydded briodas; ac fe dreulion nhw gryn dipyn o 1938 yn byw dan ras ei deulu a’i ffrindiau. Roedd cefnogaeth Tambimuttu yn hanfodol wrth barhau i ledaenu enw da Dylan fel bardd modern gwerth buddsoddi ynddo.

Ychydig iawn a wyddai’r naill ddyn a’r llall y byddai’r hyn y gadawsant ar eu holau’n cael ei gysylltu mor fanwl ar ôl eu marwolaeth. Ymhlith ugeiniau o gysylltiadau llenyddol, enw Dylan sy’n ymddangos dro ar ôl tro yn y casgliad o ysgrifau coffa a gyflwynwyd i Tambimuttu, a ysgrifennwyd gan ffrindiau a chydweithwyr ar ôl ei farwolaeth ym 1983.[4]  Mae’n anodd dweud a yw hyn oherwydd y bu Dylan mor ganolog i fyth a hudoliaeth criw Fitzrovia yn hytrach nag oherwydd unrhyw agosatrwydd penodol yr oedd yn ei rannu â Tambimuttu ei hun. Yn wir, crybwyllir Dylan fel arfer fel presenoldeb cadarn yn yr Hog and Pound neu yn The Swiss yn Old Compton Street. Nid yw’n siarad, mae e’n yfed yn unig. Nid yw byth yn y swyddfa, mae e’ bob amser yn y dafarn.

Yn ail ran y blog hwn, byddwn yn ymchwilio’n ddyfnach i’w perthynas ac i arwyddocâd llenyddol Tambimuttu yn Llundain. Byddwn hefyd yn darganfod sut glaniodd un o gerddi Dylan mewn cynhwysydd anffodus iawn!

Charlotte Rogers, Canolfan Dylan Thomas


[1] Miles, Barry, London Calling, Atlantic Books: London, 2010, p. 11
[2] Williams, Jane, Tambimuttu: Between Two Worlds, Peter Owen: Llundain, 1989, pp. vii-xiv
[3] Ferris, Paul, Dylan Thomas: The Collected Letters, J M Dent: Llundain, 2010, p. 413-414
[4] Williams, Tambimuttu

This post is also available in: English