Parti Pen-blwydd Mawr Dylan!

Parti Pen-blwydd Mawr Dylan!

Bydd gweithgareddau barddoniaeth, crefftau sy’n seiliedig ar thema a chacen ymysg yr hwyl i’r holl deulu i ddathlu pen-blwydd Dylan Thomas

I nodi’r diwrnod y byddai Dylan Thomas wedi dathlu ei ben-blwydd yn 104 oed, trefnwyd prynhawn o weithgareddau am ddim, dan arweiniad tiwtor ar gyfer arddangosfa Dylan Thomas rhwng 1pm a 4pm ddydd Llun 29 Hydref.

Cafodd Dylan ei eni yn Abertawe ym 1914, ac ystyrir ei fod yn un o feirdd/ awduron mwyaf dylanwadol y byd, erioed. Ymhlith y miliynau o bobl ar draws y byd sydd yn hoff o’i waith mae Arlywyddion America Bill Clinton a Jimmy Carter, ac agorodd Carter Ganolfan Dylan Thomas ym 1995.

Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Mae gan ein dathliad o fywyd Dylan a’i etifeddiaeth rôl allweddol o ran yr hyn sydd gan ddiwydiant Abertawe i’w gynnig.

“Mae Dylan yn parhau i roi Abertawe ar fap y byd. Ymfalchïodd yn ei gysylltiadau lleol a chafodd ysbrydoliaeth o dirnodau a phobl leol yn aml ar gyfer ei waith.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n parhau i ddathlu ein cysylltiadau ag ef; ein bwriad yw ysbrydoli pobl ar draws y ddinas a thu hwnt i wneud darllen, llenyddiaeth a chreadigrwydd yn rhan o’u bywydau pob dydd.

“Mae’r digwyddiadau a gynhelir i nodi pen-blwydd Dylan yn 104 oed yn enghraifft o’r holl waith a wneir trwy gydol y flwyddyn i rannu ei ddawn â phobl o bob oedran a phob cefndir.”

Mae arddangosfa Dylan Thomas yn cynnwys llinell amser ryngweithiol 3D sy’n archwilio bywyd a gwaith Dylan, recordiadau sain o’i waith a gosodiad sied wedi’i dadadeiladu sy’n ffocysu ar Dylan fel awdur trwy archwilio ei ddulliau o gyfansoddi a’i berthnasoedd creadigol.

Mae’r arddangosfa yn Ardal Forol Abertawe, ac enwebwyd yr arddangosfa a rhaglen Dylan Thomas fel y Lleoliad Gorau i Deuluoedd yn y Deyrnas Unedig yn y gwobrau Fantastic for Families 2018.

Bydd dathliadau Pen-blwydd Dylan yn nodi dechrau rhaglen hanner tymor eang yng Nghanolfan Dylan Thomas.

This post is also available in: English