Poem of the Month: ‘And death shall have no dominion’

‘Though lovers be lost love shall not;

And death shall have no dominion.’

Rwy’n cofio’r tro cyntaf i mi ymweld â Chanolfan Dylan Thomas: prynais CD Richard Burton yn darllen llinellau o gerddi Dylan Thomas ac eisteddais yn y caffi yn bwyta browni siocled. Y gerdd a oedd wedi cael yr effaith fwyaf arnaf yn y casgliad oedd ‘And death shall have no dominion’, llais cyfoethog Burton yn cyfuno â’r rhythm hypnotig a’r byrdwn pwerus. Rwyf wedi bod yn gweithio yn y ganolfan am ddeng mlynedd a dyma un o fy hoff gerddi gan Dylan Thomas o hyd.

Roedd yn ddiddorol gweld mai dyma un o gerddi cynharaf Dylan Thomas, wedi’i hysgrifennu ar ôl i’w ffrind, Bert Trick, awgrymu y dylai’r ddau ohonynt ysgrifennu cerdd am ‘anfarwoldeb’. Llwyddodd Trick i berswadio Dylan i ddod o hyd i gyhoeddwr i’w ddarn, gan arwain at ‘And Death Shall Have no Dominion’ yn ymddangos yn New English Weekly ym 1933. Cafodd ei gynnwys yn nes ymlaen yn ail gasgliad Thomas, Twenty-five Poems.

Mae tri phennill, pob un yn naw llinell o hyd. Credir bod y byrdwn, sy’n dechrau ac yn gorffen pob pennill, yn dod o epistol 6:9 Paul i’r Rhufeiniaid, ‘Knowing that Christ being raised from the dead dieth no more; death hath no more dominion over him.’  Mae’r pennill cyntaf yn disgrifio parhad yr enaid wedi marwolaeth, gyda ‘stars at elbow and foot’. Mae’r ail yn awgrymu, ni waeth pa galedi a ddioddefwyd gan y corff, mae’r enaid yn goroesi’n naturiol. Mae’r trydydd yn awgrymu, er nad yw’r corff yn gallu profi natur mwyach (‘no more may gulls cry at their ears’), mae’n dal i gyfrannu at y drefn naturiol a’r cylch bywyd.

Er bod Dylan wedi marw dros 60 o flynyddoedd yn ôl, rydym yn dal i fwynhau ei eiriau a’i etifeddiaeth, sy’n dangos nad oes gan farwolaeth ddominiwn.

Mae ‘And death shall have no dominion’ wedi’i gynnwys yn Collected Poems Dylan Thomas.

Katie Bowman,
Cynorthwy-ydd Canolfan Dylan Thomas

This post is also available in: English