Anne-Marie Fyfe yn dychwelyd i Abertawe

Anne-Marie Fyfe yn dychwelyd i Abertawe

Mae’r bardd a’r awdures Anne-Marie Fyfe o Iwerddon yn dychwelyd i Abertawe’r penwythnos hwn i gynnig mewnwelediad i yrfa mewn ysgrifennu creadigol yng Nghanolfan Dylan Thomas y ddinas.

Bydd Anne-Marie, sydd wedi ysgrifennu’n helaeth am ei theithiau arfordirol ar ddwy ochr yr Iwerydd ar ffurf rhyddiaith a barddoniaeth, yn arwain gweithdy ysgrifennu creadigol yn y ganolfan fore Sadwrn.

Yn y prynhawn, bydd hi’n darllen darnau o’i phrosiect Voyage Out, sef perfformiad o farddoniaeth, rhyddiaith, cerddoriaeth a chofiant wedi’i ysbrydoli gan deithiau arfordirol ar draws Prydain, Canada a’r Unol Daleithiau.

Meddai, “Mae’n hyfryd cael dychwelyd i Abertawe a Chanolfan Dylan Thomas ar ôl teithio i gynifer o leoliadau arfordirol a morwrol newydd a chyfarwydd fel rhan o’m prosiect ‘Voyage Out’.

“Rwyf wedi darganfod llawer o wybodaeth am arfordiroedd newydd, o Orkney i Martha’s Vineyard, o Felixtowe i Corc, ac o Ynys Cape Breton i Nova Scotia.

“Mae creadigrwydd y gweithdai yn Abertawe, yn Iwerddon ac yn UDA/Canada wedi bod yn wych, ac mae gweithdai’r prynhawn, gyda beirdd gweithdai lleol yn rhan o bob un ohonynt, wedi cael eu cyfoethogi gan yr holl ysgrifennu a cherddoriaeth rwyf wedi eu harchwilio ar ddwy ochr yr Iwerydd.”

Mae Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Arloesedd, Adfywio a Thwristiaeth, o’r farn y bydd ymweliad Anne-Marie yn boblogaidd iawn ymhlith beirdd ac awduron lleol. Meddai, “Mae gennym ddiwylliant cyfoethog o gynhyrchu awduron gwych yn Abertawe sy’n gallu newid prydferthwch ein tirwedd enwog yn eiriau sy’n ysbrydoli.

“Mae Anne-Marie Fyfe yn un ohonynt, felly mae’n wych y bydd gan bobl leol y cyfle i sgwrsio â hi a dysgu ganddi.”

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad yn y prynhawn am ddim ond mae’n rhaid cadw lle ymlaen llaw yn

Pris gweithdai’r bore yw £20 y person a gallwch ddod o hyd i fanylion yma

This post is also available in: English