A dechrau yn y dechrau: Higher Disley a dechrau’r berthynas rhwng Thomas a Taylor

A dechrau yn y dechrau: Higher Disley a dechrau’r berthynas rhwng Thomas a Taylor

Mae blog newydd Linda yn edrych ar gamau cynnar y cyfeillgarwch rhwng Dylan Thomas a’i noddwr, Margaret Taylor, o safbwynt gŵr Margaret, A J P Taylor.

Mae’r Tŷ Cychod eiconig yn ei leoliad prydferth ar y foryd yn Nhalacharn wedi dod yn gyfystyr â Dylan Thomas, ac i lawer, mae ymweld ag e’ yn rhan bwysig o ‘brofiad’ Cymreig Dylan Thomas. Rydym yn ddyledus i’w noddwr, Margaret Taylor, am y cyfle hwn, y daeth ei phriodas â’r hanesydd nodedig A J P Taylor i ben mewn ysgariad ym 1950, yn bennaf oherwydd ei hymlyniad obsesiynol wrth y bardd.  Sefydlwyd atgasedd hir sefydlog ei gŵr tuag at Dylan lawer o flynyddoedd ynghynt, ymhell cyn i edmygedd hynod ddinistriol ei wraig ddechrau o ddifri’.

Ym 1935, pan oedd A J P yn addysgu hanes ym Mhrifysgol Manceinion, arhosodd Dylan, a oedd yn 20 oed bryd hynny, gyda’r cwpl yn eu bwthyn ‘Three Gates’ yn Higher Disley, mewn pentrefan gwledig uwchben Disley, ar y rhostiroedd yn Ardal y Copaon. Roedd gan y ddau ddyn gyd-gyfaill; Norman Cameron (ysgrifennwr copi hysbysebu a bardd) a fu’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Rhydychen gydag A J P ac roedd Dylan yn ei adnabod drwy gyd-gylchoedd llenyddol.

Roedd Norman yn gyfrwng i drefnu’r ymweliad. Roedd y teulu Taylor yn aml yn westeion yng nghartref Norman yn Llundain, ac yn ei hunangofiant, ‘A Personal History’, a gyhoeddwyd ym 1983, mae A J P yn cofio’i ffrind yn ysgrifennu ato i ofyn ffafr: ‘a marvellous new poet had appeared, young and very poor; it was everyone’s duty to support him; would I have him for a week or two?’

Pan dderbyniodd y gwahoddiad, ysgrifennodd Dylan, a oedd bellach yn byw yn Llundain, at gyfaill yn Abertawe, Bert Trick: ‘Some people have invited me to spend part of the summer with them in the hills of Derbyshire, and I think of accepting. Conditions have more to do with writing than I realised; it may seem affected, but I really do need hills around me before I can do my best with either stories or poems.’ 

Argraff gyntaf A J P o Dylan pan gyrhaeddodd Three Gates oedd ei fod yn ŵr ifanc gwallt cyrliog nad oedd eto’n chwyddedig, a edrychai fel duw Groegaidd ar raddfa fach. Fodd bynnag heuwyd hadau ei atgasedd yn fuan, gan dyfu’n helaeth.

Dywedodd yr hanesydd nad oedd Dylan o fawr ddefnydd iddo; ychydig iawn a oedd ganddynt yn gyffredin ac eithrio hoffter am gwrw. Cadwai A J P gasgen gartref, ac roedd yn rhaid iddo roi’r cwrw ar ddogn i Dylan – peint amser cinio a dau beint gyda chinio nos, swm i rywun y dywedodd A J P ei fod yn yfed nifer dyddiol o bymtheg i ugain peint, gyda phob un yn cael ei yfed gyda mynegiant o drachwant anniwall. Yn ffodus i Dylan, roedd tafarn yn y pentref, The Plough Boy, a lenwai unrhyw ddiffyg.

Mae’r llun sy’n cael ei baentio yn ‘A Personal History’ o fardd eithaf amhleserus, hengall, wedi’i liwio mae’n debyg gan gred ôl dremiol A J P sef wrth briodi Margaret yr oedd ffawd wedi chwarae tro gwael arno – ‘fate certainly played me a lousy trick’. Roedd personoliaeth y dyn ifanc yn drech nag unrhyw foddhad wrth ddarparu lle i athrylith ysgrifennu: Dywedodd fod Dylan yn byw ym mhoced eraill, a bod ganddo ‘soft wheedling voice’ a oedd yn cuddio natur gybyddlyd; roedd ganddo chwerthiniad creulon, yn enwedig wrth iddo adrodd (heb unrhyw ymdeimlad o euogrwydd) straeon o ladrata arian ac eiddo o ffrindiau, na allent fforddio’u colli.

Ysgrifenna A J P fod barddoniaeth Dylan yn cael ei hysgrifennu wrth ffenestr lle gallai weld tirnod Kinder Scout ar y gweundir, y pwynt uchaf yn ardal y Copaon. Ysgrifennai mewn pensil, gan groesi’r prif eiriau allan a rhoi eraill yn eu lle dro ar ôl tro. Mae ei ddull, eglurodd gyda chwerthiniad, yn ei gwneud hi’n fwy anodd i’r darllenwyr, rhywbeth yr oedd ei westeiwr yn ei ddehongli fel cast i amlygu’r rheini a oedd yn edmygu’i gerddi fel ffyliaid.

Roedd Dylan mewn gwirionedd yn gweithio ar gerddi sy’n ymddangos yn ei bumed nodiadur (sy’n dyddio o haf 1934 i fis Awst 1935 ac a ddaeth i sylw’r cyhoedd yn 2014, canmlwyddiant ei enedigaeth). Byddant yn ymddangos ar ôl hyn yn ei ail gyfrol o gerddi, ‘Twenty-five Poems’, a gyhoeddwyd ym 1936, ac a ddaeth yn un o’r llyfrau barddoniaeth mwyaf llwyddiannus yn y 1930au. Dyddiwyd llinell agoriadol y gerdd ‘They suffer the undead water where the turtle nibbles’ (a gyhoeddwyd fel adran III ‘I in my intricate image’) Disley, Mai (1935) a’i chyflwyno ‘To A and M’. Efallai y byddai A J P wedi teimlo’n fwy rhadlon wrth Dylan pe bai’r gydnabyddiaeth hon wedi dod i’r golwg ar y pryd.

Er nad yw A J P yn crybwyll barn Margaret am Dylan yn ei hunangofiant, mae’n debygol iawn ei bod hi’n gwerthfawrogi ei bryd ifanc, ei hengallineb, ei frwdfrydedd a’i egni ac roedd yn barod i anwybyddu’i feiau.  Arhosodd Dylan yno am fis, gan fynd yn hyfach na’i groeso gan o leiaf bythefnos. Pan adawodd ym mis Mai, manteisiodd ar garedigrwydd y teulu Taylor ymhellach drwy esgus ei fod wedi colli’i docyn trên dwyffordd, a gofynnodd am fenthyciad o ychydig o bunnoedd. Nid oedd A J P yn disgwyl cael yr arian yn ôl, ond doedd dim gwahaniaeth ganddo oherwydd ‘I never expected to see Dylan again’.

Linda Evans, Canolfan Dylan Thomas

This post is also available in: English