Thomas a’r Tayloriaid: Rhan 2

Thomas a’r Tayloriaid: Rhan 2

Ym 1949, prynodd Margaret Taylor y brydles ar gyfer y Tŷ Cychod yn Nhalacharn er mwyn rhoi cartref mwy sefydlog i Dylan a’i deulu. Yn y blog hwn, mae Linda’n ymchwilio i gefndir yr anrheg hael hon.

Erbyn i Dylan Thomas a’r Tayloriaid gwrdd unwaith eto roedd dros ddeng mlynedd wedi mynd heibio. Trefnodd eu cyfaill cyffredin, y bardd Stephen Spender, i’r Thomasiaid dreulio Nadolig 1945 yn Hollywell Ford, cartref teuluol A J P a Margaret ar diroedd Coleg Magdalen, Rhydychen, lle’r oedd yr athro bellach yn addysgu. 

Yn yr hydref dilynol, mae A J P yn cofio bod Dylan a’i wraig wedi ‘cyrraedd heb unrhyw rybudd’. Doedd ganddynt unman i fyw, felly cynigiodd Margaret y tŷ haf glan afon iddynt yn yr ardd. Roedd A J P yn gandryll; nid oedd yn hoffi Dylan, a gyrhaeddodd pan roedd priodas y Tayloriaid eisoes dan straen sylweddol. Yn ei hunangofiant, ‘A Personal History’, mae’n dweud bod Margaret dros ei phen ai chlustiau mewn cariad ag un o’i fyfyrwyr, Robert Kee, a oedd yn cwyno am ei sylw diwahoddiad, gan wneud i Robert deimlo’n llawn cywilydd ac yn ddig, a diflannodd unrhyw anwyldeb at ei wraig yn llwyr.

I ddechrau, roedd A J P yn meddwl y byddai Dylan yn tynnu sylw Margaret oddi ar ei hobsesiwn â Kee, ac yn wir, chwaraeodd Margaret ran fwyfwy amlwg ym mywydau cartref y Thomasiaid gan ddarparu prydau bwyd a gwely ar gyfer eu merch, Aeronwy, yn ogystal â thalu ffïoedd ysgol breswyl eu mab, Llewelyn. Fel noddwr newydd Dylan, trodd ei sylw wedyn at hyrwyddo’i yrfa lenyddol, gan drefnu partïon artistig a llenyddol lle gallai e’ gwrdd â phobl ddeallus Rhydychen.  Yn gyfnewid am hyn, ysgrifennodd Dylan feirniadaeth manwl ac adeiladol o farddoniaeth (cyffredin) Margaret ei hun, ac roedd y Thomasiaid yn gwmni cydnaws iddi, rhywbeth yr oedd Margaret fel person cymdeithasgar yn brin ohono. Byddai’r triawd yn aml yn mynd allan i yfed gyda’i gilydd.

Teimlai A J P yn gynyddol ei fod wedi’i gau allan o’r criw hwn, ac roedd e’n falch iawn pan aeth Dylan â’i deulu ar daith i’r Eidal, a ariannwyd drwy ysgoloriaeth. Ysgrifennodd Dylan (a oedd yn hiraethus) at ei noddwr yn diolch iddi am anfon papurau newyddion a chyfnodolion Saesneg, yn ogystal â ‘too many thousand things to count’, gan eu bod wedi cyrraedd Holywell Ford ‘in a sick muddle’.  Gofynnodd iddi ddod o hyd i gartref go iawn i’w deulu hefyd.

Ffynnai Margaret ar ddibyniaeth Dylan; roedd hi’n benderfynol o ddiwallu holl anghenion yr athrylith, a daeth o hyd i’r Plasty yn South Leigh, ger Rhydychen, iddynt (mewn realiti, bwthyn cyffredin oedd). Ei gŵr dalodd amdano mewn gwirionedd: yn ei hunangofiant, mae’n cyfaddef iddo wneud ‘rhywbeth ffôl iawn’; er gwaethaf ystyried y bardd yn dwyllwr a oedd yn byw ym mhoced eraill, talodd am yr eiddo gan ddefnyddio arian o etifeddiaeth bersonol – ar yr amod y byddai Margaret yn rhoi’r gorau i ariannu Dylan.

Ond torrodd Margaret ei haddewid, ac ymhen dim roedd yn diwallu anghenion Dylan unwaith eto, a oedd llwyr ymwybodol y byddai ei noddwr cyfoethog newydd yn barod i ddefnyddio’i hincwm preifat i wireddu’i ddymuniadau. (Pan ofynnodd yntau am rywle tawel i ysgrifennu, darparodd hithau garafán sipsi.)  Gwyddai hefyd ei bod hi’n wedi gwirioni arno, ac yn breuddwydio am ddod yn gariad iddo.  Roedd Margaret wedi’i hudo cymaint (er mawr ddifyrrwch i Dylan) fel yr aeth ati i lunio cynlluniau manwl i ddianc gydag ef o Orsaf Paddington. Yn ffodus, nid oedd Caitlin erioed wedi’i hystyried yn fygythiad rhamantus difrifol i’w priodas.

I’r Thomasiaid, roedd pris uchel iawn i’w dalu am yr ymlyniad hwn; roedd Margaret, er bod ganddi fwriadau da, yn ymyrryd ac roedd hi bob amser yn cyrraedd yn ddirybudd i dresmasu ar eu lle personol. Barn Caitlin oedd ‘she was a mad organiser, and right away she wanted to rearrange our lives….’; gan ychwanegu ‘she managed to irritate the life out of us’. Roedd Dylan yn derbyn ei hymddygiad; roedd ei noddwr yn crefu am ei holl sylw, ac roedd hyn yn allweddol ar gyfer cael gafael ar linynnau pwrs hir ‘Maudlin Magdalen Maggie’, yn enwedig o ran ei amgylchedd ysgrifennu, ei gynhyrchedd a’i incwm.

Ym 1949, prynodd Margaret y brydles o £3,000 er mwyn rhoi’r Tŷ Cychod yn Nhalacharn i Dylan, ar ôl iddo ddweud ei fod yn dyheu am symud yn ôl i Gymru. Roedd hi hyd yn oed wedi’u dilyn i Gymru, gan brynu ei chartref ei hun yn The Grist, Talacharn, fel y gallai ei fonitro. Ar hyn, ysgrifennodd A J P at y bardd yn dweud wrtho ei fod yn dinistrio’i briodas, ond ni chafodd unrhyw ymateb. Yn lle, cydnabu Dylan  garedigrwydd parhaus ei noddwr yn ffurfiol: ‘All I write in this water and tree room on the cliff, every word will be a thanks to you.’ Ond cyn bo hir, roedd yn dynn arno am arian unwaith eto, a gadawodd i Margaret dalu’i holl filiau.

Fodd bynnag, yn breifat, roedd Dylan yn aml yn ddifenwol o ‘Mad Mags’ (yn enwedig i Caitlin, er efallai yr oedd yn gwneud hyn i’w sicrhau nad oedd Margaret yn fygythiad i’w priodas) ac yn anniolchgar iawn. Roedd yn ei hystyried yn berson annifyr, hawdd dylanwadu arni, ac yn ffynhonnell ariannol ddiniwed ond, ym 1950, daeth Margaret yn fygythiad go iawn i’w briodas ar ôl dweud wrth Caitlin gynddeiriog am ei garwriaeth â Pearl Kazin, newyddiadurwr yr oedd wedi cwrdd â hi ar ei daith gyntaf i ogledd America. Dywedodd bywgraffydd Dylan, Andrew Lycett, fod hyn yn ymateb personol ac emosiynol. Roedd Margaret yn ofni y byddai ei dylanwad ei hun dros fywyd Dylan yn dod i ben, yn enwedig pe bai’n gadael ei deulu i fod gyda Pearl.

Am gyfnod byr, symudodd y Thomasiaid i Lundain ar ôl i Dylan benderfynu y byddai ei gynhyrchedd yn gwella yn Llundain. Prynodd Margaret fflat yn Camden Town, yn agos at eiddo yr oedd hi wedi perswadio’i gŵr hollol ddiarwybod i’w brydlesu, a daeth hi â’r carafán sipsi i Lundain o South Leigh. Parhaodd Margaret i ymyrryd ym mywyd Dylan am weddill ei oes; yn eironig, roedd hithau ymhlith parti o bobl a ddymunodd pob lwc iddo wrth iddo adael am ei daith drychinebus olaf i America.

Mae Paul Ferris yn crynhoi’r naratif rhwng y ddau: ‘unquestionably Mrs Taylor was deeply entangled, let her marriage disintegrate on his behalf, and mourned him when he died’.

Mae nifer o ymwelwyr â’n Harddangosfa Dylan Thomas, ‘Dwlu ar y Geiriau’, hefyd yn mynd i’r gorllewin i weld y Tŷ Cychod, sydd yn ei hun yn dystiolaeth o benawdau olaf hanes y Thomasiaid/Tayloriaid.

Linda Evans, Canolfan Dylan Thomas 

This post is also available in: English