‘Lleisiau Llenyddol’

‘Lleisiau Llenyddol’

‘Lleisiau Llenyddol’ – cystadleuaeth a drefnir gan elusen iechyd meddwl i bobl ifanc ym Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot. 

Mae Canolfan Dylan Thomas yn gweithio gyda’r elusen iechyd meddwl a newid cymdeithasol ‘Platfform’ i lansio cystadleuaeth ‘Lleisiau Llenyddol’, sef cystadleuaeth i bobl ifanc rhwng 13 ac 16 oed yn Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot.

Gall pobl ifanc gymryd rhan yn y gystadleuaeth trwy gyflwyno cerdd sy’n seiliedig ar y thema ‘myfyrio ar 2020’. Gallwch gyflwyno’ch cynnig o ddydd Llun 4 Ionawr am 7am hyd at 11.59pm nos Sul 14 Chwefror.

Y beirniaid ar gyfer y gystadleuaeth fydd y bardd enwog lleol Natalie Ann Holborow, Natalie Coombs o Platfform a Jo Furber, Swyddog Llenyddiaeth Cyngor Abertawe.

Rhoddir gwobrau i’r rheini sy’n dod yn 1af, yn 2il ac yn 3ydd a fydd yn cynnwys talebau £100, £50 a £25 yn ôl eu trefn a phecyn lles, dangosir eu cerddi ar ffurf fideo a chânt eu cyhoeddi yn y South Wales Evening Post.

Meddai Natalie Coombs, Hyfforddwr Pobl Ifanc ar gyfer Platfform 4YP Bae Abertawe,

“Roedd 2020 yn flwyddyn anodd i fod yn arddegwr. Mae effeithiau’r cyfyngiadau symud ar addysg, iechyd meddwl a lles cyffredinol pobl ifanc wedi bod yn drychinebus ac, yn aml, mae wedi bod yn anodd gwneud synnwyr ohonynt. Gobeithiaf y bydd ‘Lleisiau Llenyddol’ yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc fyfyrio’n bersonol ar yr effaith gafodd 2020 arnynt ac i fynegi’r teimladau sydd ganddynt ar bapur.

Bydd hefyd yn gyfle gwych i gysylltu â phobl ifanc eraill trwy rannu profiadau, ac rwy’n gobeithio bydd hyn yn annog sgyrsiau am iechyd meddwl pobl ifanc ar draws Bae Abertawe!”

Rydym yn gyffrous iawn i ddarllen yr holl gynigion!

Dyma amodau a thelerau’r gystadleuaeth:

  • Rhaid i gyfranogwyr fod rhwng 13 ac 16 oed a rhaid eu bod yn byw yn Abertawe, Castell-nedd neu Bort Talbot
  • Gellir cyflwyno’ch cynnig yn Gymraeg neu Saesneg a bydd angen ei anfon drwy e-bost i youngpeople@platfform.org
  • Rhaid cyflwyno’ch cynnig rhwng 7am ddydd Llun 4 Ionawr a 11.59pm nos Sul 14 Chwefror
  • Croesewir unrhyw fath o farddoniaeth
  • Ni ddylai ceisiadau fod yn hirach na thudalen A4.

Gallwch ddarganfod rhagor am Platfform 4YP Bae Abertawe yma: https://platfform.org/cy/project/4yp-bae-abertawe/

This post is also available in: English