The Collected Stories ac ochr dywyll Dylan

The Collected Stories ac ochr dywyll Dylan

Ar ôl gwrando ar ei ddarllediadau hiraethus enwog megis Quite Early One Morning a darllen ei farddoniaeth heddychlon, hyfryd, megis Fern Hill, roeddwn i’n credu fy mod yn adnabod Dylan. Roeddwn i’n anghywir. Rydw i wedi bod yn darllen The Collected Stories gan Dylan Thomas yn ddiweddar ac, fel person sy’n mwynhau ffuglen gothig ac arswyd, cefais fy synnu o’r ochr orau pan sylweddolais pa mor dywyll oedd ei straeon.

Stori cyntaf y casgliad yw After the Fair, sef stori a oedd yn teimlo braidd fel breuddwyd neu ffantasi o’r hyn sy’n digwydd ar ôl i’r ffair gau dros nos. Mae geiriau Dylan yn gyrru iasau ar hyd fy asgwrn cefn wrth ddisgrifio’r ferch yn symud yn agosach i’r stôf i gadw’n gynnes, ac mae’n creu awyrgylch iasol trwy ddisgrifio’r nos yn ddisgroeso a cherddoriaeth y carwsél yn boddi sŵn y gwynt.

Wrth symud ymlaen at straeon megis The True Story, The Vest a The Visitor, mae’r awyrgylch yn fwy tywyll fyth, ac mae pob un yn cynnwys troeon annisgwyl na allaf eu datgelu. Weithiau, mae Dylan yn defnyddio cyffelybiaethau a throsiadau i ddisgrifio gweithgareddau cyffredin, er enghraifft yn stori The Enemies, wrth iddo ddisgrifio cymeriad sy’n garddio trwy ddweud, “Each weed pulled out of the ground screamed like a baby”. Mae ffordd Dylan o gyfuno disgrifiadau dymunol o flodau ac adar y to gyda’r botel o ffetysau erchyll yn The Mouse and the Woman a’i ffordd o gwestiynu sut fyddai’r fenyw heb wefusau’n edrych yn The Dress, yn creu delweddau brawychus yn fy meddwl.

Er mwyn rhoi cyd-destun i’r straeon hyn, cyhoeddwyd rhai o’r straeon mwy tywyll hyn yn wreiddiol yn Map of Love ym 1939 a chredir mai gwaith dadleuol Caradoc Evans, My People, sef casgliad o straeon sy’n canolbwyntio ar ddiwylliant gorllewin Cymru sy’n seiliedig ar grefydd yn y 1900au cynnar, sydd wedi cael dylanwad mawr arnynt. Er y gall y ffaith bod Dylan yn cynnwys crefydd yn ei straeon fod yn adlewyrchiad o’r hyn a ddarllenodd a’r diwylliant ar y pryd, mae’n sicr yn ychwanegu at awyrgylch tywyll ei waith. Ystyriwyd crefydd ers amser maith fel elfen gyffredin yn straeon ffuglen gothig ac arswyd ac mae’n rhan o The Mouse and the Woman, The Holy Six a The Burning Baby, sef ei stori fwyaf brawychus o bosib. Mae The Burning Baby yn adrodd stori dyn crefyddol sydd wedi cyflawni un o’r troseddau gwaethaf, ac mae Dylan yn datblygu’r thema marwolaeth trwy ddisgrifio bachgen bach yn magu cwningen marw yn ei freichiau. Mae elfennau gothig ac arswyd eraill yn ei straeon yn cynnwys trafod creaduriaid goruwchnaturiol megis fampiriaid a’r cymeriad Ghost Davies yn The Holy Six, ysbrydion eraill yn The Enemies, a gwaed yn The Vest, The Dress ac An Adventure From a Work in Progress.

Mae diweddglo pob stori’n aml yn sydyn, a byddaf yn gofyn i fy hun yn aml os wnaeth hynny ddigwydd o ddifrif. Fodd bynnag, byddaf yn synnu ar ddychymyg Dylan a’i allu i hudo a phlymio’r darllenwr i’w fyd ei hun, a oedd yn achosi i mi ofyn “a oedd hynny’n stori a ddarllenais neu’n freuddwyd byw?”. Nid dyna oedd holl gynnwys ei gasgliad, wrth gwrs; mae rhai o’r straeon eraill yn fwy doniol, hiraethus ac emosiynol, felly mae rhywbeth at ddant pawb. Mae’r straeon annifyr hyn yn un elfen yn unig o The Collected Stories yr wyf wedi ei mwynhau’n bersonol. Os ydych chi’n ddigon dewr i roi cynnig arnynt, gallwch brynu The Collected Stories yng Nghanolfan Dylan Thomas, dros y ffôn ar 01792 463980, neu ar-lein yn swanseashop.co.uk

Caitlin Lewis, Canolfan Dylan Thomas

This post is also available in: English