Abertawe Dylan: 50 mlynedd fel dinas

Abertawe Dylan: 50 mlynedd fel dinas

Linda Evans o Ganolfan Dylan Thomas yn rhoi ei barn am Abertawe nawr ac yn y gorffennol.

Ar 3 Gorffennaf 1969, safodd Tywysog Charles, a oedd newydd ei goroni’n Dywysog Cymru, ar risiau Neuadd y Ddinas Abertawe a datganodd fod Abertawe’n mynd i gael statws dinas (a roddwyd yn swyddogol gan y Frenhines ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno).

50 mlynedd yn union ers y diwrnod pwysig hwnnw, daeth Tywysog Charles a Duges Cernyw i ymweld ag Abertawe i ymuno â’n blwyddyn o ddathliadau i nodi hanner canmlwyddiant y digwyddiad hanesyddol hwnnw. Roedd y tywydd yn berffaith wrth i’r pâr brenhinol gyrraedd Parc Fictoria ac roedd llanw uchel yn disgleirio ar hyd ehangder pum milltir y bae.

26 o flynyddoedd yn gynharach, pan oedd Abertawe’n dref, recordiodd Dylan Thomas ‘Reminiscences of Childhood’, a ddarlledwyd ym mis Chwefror 1943 ac sydd wedi ymddangos mewn sawl cyhoeddiad. Ynddo, disgrifiodd Dylan Thomas ei atgofion o’i blentyndod yn Abertawe, ‘tref ddiwydiannol fawr yng Nghymru fel ‘tref hyll a hardd’.  Hyll neu beidio, i Dylan, y dref-fôr hon oedd ei fyd.

Heddiw, mae cychod hamdden a chychod hwylio preifat wedi cymryd lle mwyafrif y peiriannau a’r llongau yn ardaloedd y dociau (yr Ardal Forol erbyn hyn). Yn ogystal, mae’r ‘gwaith nwy a’r lladd dŷ trawiadol’ wedi mynd ac mae’r ‘cofadeiladau duon’ wedi’u tacluso. Mae Amgueddfa Abertawe, ‘yr amgueddfa a ddylai fod mewn amgueddfa’, yn dal i nodi ardal ddiwylliannol sydd wedi’i hehangu i gynnwys Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac, wrth gwrs, Canolfan Dylan Thomas, sy’n gartref i’r arddangosfa barhaol glodfawr am y bachgen ifanc a fagwyd i fod yn llwyddiant llenyddol ac yn un o feibion enwocaf Abertawe.

Rwy’n hoffi meddwl y byddai Dylan yn gweld yr eironi yn y ffaith bod enghraifft o ‘dram a oedd yn ysgwyd fel jeli haearn’, yr oedd yn teithio arno’n rheolaidd, bellach yn arddangosfa amgueddfa a drysorir. Fodd bynnag, mae pier y Mwmbwls, pen taith ‘rheilffordd’ y Mwmbwls yr oedd y tramiau poblogaidd yn arfer teithio arni (cafodd y rheilffordd ei chau ym 1960), yn llai ‘llwm’ ac wedi’i adnewyddu’n drawiadol gyda gorsaf bad achub o’r radd flaenaf ar y pen.

Mae’r draethlin ‘hir a gwasgarog sy’n troi’n ogoneddus’ yn dal i roi boddhad i breswylwyr ac ymwelwyr ac mae plant yn mwynhau pleserau diamser adeiladu ‘cestyll a chaerau a phorthladdoedd a thraciau rasio yn y tywod’, fel a wnaeth Dylan ifanc a’i gyfoedion.

Mae bandiau pres yn parhau i berfformio mewn parciau yn Abertawe o bryd i’w gilydd ac mae un o hoff leoedd Dylan o’i blentyndod, Parc Cwmdoncyn, ‘byd y tu mewn i fyd tref glan môr’, yn cadw ei olwg barchus er nad yw ceidwad y parc yn parhau i batrolio’r parc ac nid yw’r hen fenyw a gyrhaeddodd yn y gadair olwyn gyda chwe phecinî a’r ferch welw oedd yn ei gwasanaethu’n ymweld â’r parc mwyach. Mae’r ‘hen goed, tal’ wedi aeddfedu ac mae llwybrau niferus y parc a’r ‘mannau cudd’ yn parhau i ddal posibiliadau diderfyn i archwilwyr ifanc.

Pan ddaeth Tywysog Charles (sy’n edmygu barddoniaeth Dylan, y gallwch glywed ei lais yn darllen llinellau olaf cerdd ‘Fern Hill’ yn ein harddangosfa), i ymweld yr haf hwn, mae llwydni ôl-ryfel dinas a ddifrodwyd gan rhyfel a oedd yn amlwg iawn ym 1969 yn hen hanes erbyn hyn. Wrth gwrs, mae gan bob tref ochr dywyllach a, heddiw, mae gan bob prifddinas bryderon na fyddai Dylan wedi gallu eu rhagweld ond rwy’n meddwl y byddai e’n cytuno, petai e’n gallu dod yn ôl a hel atgofion unwaith eto, fod Abertawe bellach yn hardd, yn hytrach na’n hyll, gyda’i ‘môr sy’n ‘canu’ a’i ‘thraeth crwm sy’n wynebu Dyfnaint.’

Linda Evans

This post is also available in: English