Penblwydd Hapus Dylan!

Penblwydd Hapus Dylan!

Bydd gweithgareddau barddoniaeth, crefftau a theisen yn rhan o’r digwyddiad difyr hwn i deuluoedd a fydd yn dathlu pen-blwydd mab enwocaf Abertawe.

I nodi’r diwrnod y byddai Dylan wedi dathlu’i ben-blwydd yn 105 oed, trefnwyd prynhawn o weithgareddau am ddim, dan arweiniad tiwtor ar gyfer arddangosfa Dylan Thomas y ddinas rhwng 1pm a 4pm ddydd Mawrth, 29 Hydref.

Cafodd Dylan ei eni yn Abertawe ym 1914, ac ystyrir ei fod yn un o feirdd/awduron mwyaf dylanwadol y byd, erioed. Ymhlith y miliynau o bobl ar draws y byd sydd yn hoff o’i waith mae Arlywyddion America Bill Clinton a Jimmy Carter, ac agorodd Carter Ganolfan Dylan Thomas ym 1995.

Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Mae ein dathliad o fywyd ac etifeddiaeth Dylan yn chwarae rôl allweddol yng nghynnig diwylliannol cyfoethog Abertawe.

“Galwodd Dylan ei gartref yn ‘ugly, lovely town’ a hyd yn oed nawr wrth i ni ddathlu pen-blwydd Abertawe’n 50 fel dinas, mae un o’n eiconau mwyaf yn cyfrannu at roi Abertawe ar fap y byd.

“Ymfalchïodd yn ei gysylltiadau lleol a chafodd ysbrydoliaeth o dirnodau a phobl leol yn aml ar gyfer ei waith.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n parhau i ddathlu ein cysylltiadau ag ef; ein bwriad yw ysbrydoli pobl ar draws y ddinas a thu hwnt i wneud darllen, llenyddiaeth a chreadigrwydd yn rhan o’u bywydau pob dydd.

“Mae’r digwyddiadau, a gynhelir ar y diwrnod y byddai Dylan wedi dathlu ei ben-blwydd yn 105 oed, yn enghraifft o’r holl waith rydym yn ei wneud drwy gydol y flwyddyn i rannu ei athrylith â phobl o bob oed a chefndir.”

Mae arddangosfa Dylan Thomas yn cynnwys llinell amser ryngweithiol 3D sy’n archwilio bywyd a gwaith Dylan, recordiadau sain o’i waith, llwybr anifeiliaid ar gyfer ymwelwyr ifanc a gosodiad sied wedi’i dadadeiladu sy’n ffocysu ar Dylan fel awdur trwy archwilio ei ddulliau o gyfansoddi a’i berthnasoedd creadigol.

Mae’r arddangosfa yn Ardal Forol Abertawe, ac enwebwyd yr arddangosfa a rhaglen Dylan Thomas fel y Lleoliad Gorau i Deuluoedd yn y Deyrnas Unedig yn y gwobrau Fantastic for Families 2018.  

Mae dathliadau pen-blwydd Dylan yn nodi dechrau rhaglen weithgareddau hanner tymor cyffrous yng Nghanolfan Dylan Thomas a thu hwnt-, gan gynnwys gweithdy Straeon Arswydus yn Llyfrgell Ystumllwynarth. Ewch i dylanthomas.com am ragor o wybodaeth.

This post is also available in: English