‘Return Journey’ a’r Blitz Tair Noson

‘You remember Ben Evans’s stores? It’s right next door to that. Ben Evans isn’t there either…’

Rhwng 19 a 21 Chwefror 1941, cafwyd nifer o gyrchfeydd bomio trwm dros Abertawe, a ddinistriodd ‘ugly, lovey town’ Dylan. Dros dair noson,
dinistriodd 1,273 o fomiau ffrwydro ffyrnig a 56,000 o ddyfeisiau cyneuol ardal maint 41 erw, gan ladd 230 o bobl ac anafu 409 o bobl. Dinistriwyd tua 857 o eiddo, a difrodwyd 11,000 o eiddo eraill.

Roedd Dylan Thomas yn Abertawe yn ystod y Blitz Tair Noson, ac wrth i’w ffrind, Bert Trick, gofio ‘I remember standing there with Caitlin. I was there with a Warden’s helmet on, incidentally, and he said “Bert, our Swansea has died. Our Swansea has died.” And by God he was right. The Swansea that we knew, the pubs, the places, were gone, and gone for all time.’ (Dylan Remembered – Cyfrol 2, tudalen 92)

Nid tan fis Chwefror 1947 y teimlai Dylan yn barod i ysgrifennu am Flitz Abertawe, a’r canlyniad oedd ei ddarllediad, ‘Return Journey’. Ynddo, mae’r adroddwr yn teithio drwy Abertawe yn chwilio am ei flynyddoedd iau, ac wrth wneud hynny, mae’n ceisio adfer Abertawe a gollwyd yn y Blitz. Cafodd ei recordio ar gyfer Gwasanaeth Cartref y BBC ym mis Ebrill a’i ddarlledu fis yn ddiweddarach.

Bu Dylan yn gwneud gwaith ymchwil trwyadl i sicrhau ei fod wedi enwi’r holl siopau ac adeiladau a gollwyd yn gywir, fel a nodir yn y dyfyniad hwn o’r darllediad:

‘I went out of the hotel into the snow and walked down high street, past the flat white wastes where all the shops had been. Eddershaw Furnishers, Curry’s Bicycles, Donegal Clothing Company, Doctor Scholl’s, Burton Tailors, W.H.Smith, Boots…- all the shops bombed and vanished. Past the hole in space where Hodges & Clothiers had been, down Castle Street, past the remembered, invisible shops’

Cysylltodd Dylan â meistr clasuron ei hen ysgol, Ysgol Ramadeg Abertawe, i ofyn am Restr yr Anrhydeddau er mwyn enwi’r bechgyn yn gywir arni, ac i ymateb i lythyr J. Morys Williams a’i gynnwys, gan nodi sawl enw yr oedd yn ei gofio. Yn ‘Return Journey’ mae’n ysgrifennu am neuadd yr ysgol ‘[it] is shattered, the echoing corridors charred where he scribbled and smudged and yawned in the long green days, waiting for the bell and the scamper into the Yard’.

Mae’r manylion hyn yn un agwedd ar deyrnged deimladwy a thelynegol yn ‘Return Journey’ i Abertawe Dylan a gollwyd. Dyma ffordd Dylan o geisio deall y digwyddiad trawmatig enfawr hwn yn hanes Abertawe’r ugeinfed ganrif a’i effaith ar breswylwyr Abertawe.

This post is also available in: English