Montgomery Bonbon: Llwybr Dirgelwch yr Amgueddfa

Date/Time
11/02/2023 - 31/03/2023
10:00 am - 4:00 pm


Ewch tan gudd a phrofwch eich sgiliau ditectif yn Canolfan Dylan Thomas yn rhan o’r prosiect cenedlaethol ‘Montgomery Bonbon: Llwybr Dirgelwch yr Amgueddfa’, sydd wedi ei drefnu gan Kids in Museums a Walker Books.

Mae’r llwybr yn dathlu cyhoeddiad y llyfr newydd i blant Montgomery Bonbon: Murder at the Museum a ysgrifennwyd gan y digrifwr Alasdair Beckett-King.

Gallwch godi taflen weithgareddau, datrys y posau a chael hwyl gyda’ch teulu yr hanner tymor hwn. Cofiwch godi nod tudalen mwstas am ddim i ganolbwyntio eich meddwl ar ddatrys dirgelwch!

Ewch i wefan Kids in Museums i ganfod sut y gallech ennill copi wedi’i lofnodi o’r llyfr a’ch cit ditectif eich hun!

 

This post is also available in: English