Gweithdai Ysgrifennu Creadigol am ddim gyda Chanolfan Dylan Thomas

Date/Time
21/02/2023 - 22/02/2023
12:00 am


Mae ein gweithdai Sgwad Sgwennu’r Ifanc ar daith eto yr hanner tymor hwn! Ymunwch â ni am sesiwn ysgrifennu 2 awr ddifyr am ddim.

Darperir deunyddiau a does dim angen profiad blaenorol. Cefnogir gan Lenyddiaeth Cymru.

 

Byddwn yn y llyfrgelloedd canlynol:

  • Dydd Mawrth, 21 Chwefror, 10am i 12 ganol dydd: Llyfrgell Tre-gŵyr
  • Dydd Mawrth, 21 Chwefror 2pm – 4pm: Llyfrgell Ystumllwynarth
  • Dydd Mercher 22 Chwefror, 2pm – 4pm: Llyfrgell Pontarddulais

This post is also available in: English