Llwybr gweithgareddau am ddim: Her Amgueddfa Anferth Tom Gates!

Llwybr gweithgareddau am ddim: Her Amgueddfa Anferth Tom Gates!

Date/Time
22/10/2022 - 06/11/2022
10:00 am - 4:30 pm


Ymunwch â ni yr hanner tymor hwn ar gyfer Her Amgueddfa Anferth Tom Gates i blant!

Gall plant fynd ar eu hantur eu hunain drwy weld os gallan nhw ddod o hyd i ’10 Peth ar Hap’ oddi ar y daflen weithgareddau* – o’r peth mwyaf i’r peth lleiaf, y peth mwyaf difyr i’r peth mwyaf ych a fi! Yna bydd cyfle iddyn nhw roi cynnig ar awgrymiadau darlunio a fydd yn eu helpu i gymryd rhan mewn Her Ddarlunio i ddarlunio’u hoff beth maen nhw’n dod o hyd iddo. Am fonws ychwanego, ceisiwch ddod o hyd i sgribliadau Dylan yn ein harddangosfa, ‘Dwlu ar y geiriau’!

Gallwch gasglu’ch Her Amgueddfa Anferth o’r ddesg flaen o 22 Hydref.  Fe’i cynhelir yn ystod ein horiau agor tan 6 Tachwedd.

*Darperir y gweithgaredd hwn gan Kids in Museums. Byddwn yn darparu taflen Gymraeg i’w defnyddio ochr yn ochr â’r gweithgaredd.

 

This post is also available in: English