Under Milk Wood, 14 Mai 1953 | Rhan Un – Y Cefndir

Under Milk Wood, 14 Mai 1953 | Rhan Un – Y Cefndir
Dylan Thomas exhibition at the Dylan Thomas Centre in Swansea, UK.

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas, mae Katie yn edrych ar y perfformiad cyntaf o Under Milk Wood a berfformiwyd gydag actorion ar 14 Mai 1953.

14 Mai 1953. Y perfformiad cyntaf o Under Milk Wood gydag actorion. Yr unig recordiad hysbys o Dylan Thomas yn perfformio’i ‘ddrama i leisiau’ enwog. Roedd hefyd yn berfformiad a oedd bron iawn heb ddigwydd. Yn y gyfres hon o flogiau, byddwn yn edrych ar gefndir y perfformiad, y broses ymarfer ac wrth gwrs, y perfformiad ei hun.

Yn ystod hydref 1952, cyfarfu Dylan a John Malcom Brinnin yn Llundain. Yn ôl Andrew Lycett yn Dylan Thomas: A New Life, ni chymerodd lawer o amser i Dylan godi’r pwnc o fynd ar daith arall yn America (dyma fyddai ei drydedd daith: aeth ar ei daith gyntaf ym 1950 a’i ail ym 1952, pan aeth Caitlin gydag ef). Er ei fod yn dymuno mynd, roedd Dylan yn pryderu am y deunydd y byddai’n ei ddefnyddio gan ei fod yn credu bod ei repertoire o ddarlleniadau’n mynd yn ddiflas. Roedd e’n meddwl y byddai cynnwys mwy o weithiau dramatig yn datrys y broblem. Ond y cwestiwn oedd, pa weithiau dramatig fyddai’r mwyaf llwyddiannus? Gofynnodd John Malcolm Brinnin am waith ar y gweill Dylan, Llareggub. Roedd ymateb Dylan, a ddogfennwyd yn llyfr Brinnin, Dylan Thomas in America, yn gadarnhaol; roedd e’n gobeithio y byddai ganddo ddrafft olaf ymhen tri mis. Awgrymodd Brinnin y gallai’r ddrama fod yr ateb i bryderon Dylan ynghylch y rhaglen – gallai ddarllen rhannau o Llareggub, neu yn ddelfrydol llogi grŵp o actorion i ddarllen y ddrama gydag e’. Gallai fod yn rhan o dymor Canolfan Farddoniaeth Efrog Newydd. Er ei fod o blaid y cynnig, roedd Dylan yn wyliadwrus iawn o’r ail syniad, sef cynnal ‘cynhyrchiad’ gydag actorion, gan y byddai acenion Cymreig go iawn yn hanfodol ac nid oeddent ar gael yn Efrog Newydd. Roedd Brinnin o blaid cyflwyno cynhyrchiad o’r darlleniad, gan ddadlau bod actorion ar gael, ac y byddai’n lleihau’r straen ar Dylan yn gorfod perfformio’r holl ddarn ar ei ben ei hun. Byddai’n bosib cynnal taith hefyd, pe bai’r perfformiad yn llwyddiannus. Ildiodd Dylan ac, yn ôl Brinnin, cytunodd i gyflwyno sgript lawn iddo erbyn mis Mawrth. Trefnwyd y perfformiad cyntaf ar gyfer y mis Mai.

Ar ôl cytuno dros dro ar y trefniad hwn, a chyda thrên llong John Malcom Brinnin yn gadael am hanner awr wedi saith, aeth y ddau mewn tacsi i orsaf Waterloo. Ysgrifennodd Brinnin fod Dylan wedi dweud wrtho, mewn perthynas â’r rhaglennu a’r fformatio, i fwrw ymlaen â’r syniad gyda beth bynnag oedd orau yn ei farn e’ Fodd bynnag, roedd problem fach gyda’r teitl – Llareggub. Doedd Brinnin ddim yn siŵr amdano, a chytunodd Dylan y gallai fod yn ‘rhy drwm ac anghynnes i ddenu cynulleidfaoedd Americanaidd.’ Felly cynigiodd Dylan y teitl newydd, Under Milk Wood. Ffarweliodd y ddau â’i gilydd ac ym mis Hydref, cynhyrchodd y Ganolfan Farddoniaeth ei llyfryn blynyddol gyda’i thymor o ddigwyddiadau, gan gynnwys Under Milk Wood ar 14 Mai, y darlleniad cyntaf gan Dylan Thomas a chwmni o actorion proffesiynol. 

Yn dilyn hyn, aeth Dylan yn dawel am sbel, ac ni atebodd unrhyw ohebiaeth gan Brinnin yn trafod dyddiadau ac amserlenni ar gyfer y daith. Erbyn canol mis Mawrth, yn ôl Brinnin, roedd y cast wedi’i ddewis ac roeddent yn barod i ymarfer. Roedd ‘cannoedd o docynnau’ wedi’u gwerthu ar gyfer y perfformiad cyntaf ar 14 Mai. Gan deimlo na fyddai modd bwrw ymlaen â phethau ymhellach heb gadarnhad Dylan, penderfynodd Brinnin ei ffonio ar 17 Mawrth. Roedd y cysylltiad trawsatlantig yn golygu bod sgwrsio’n anodd, ond llwyddodd Brinnin i gael gwybod bod Dylan yn awyddus o hyd i fynd i America a’i fod yn dymuno parhau â’r holl gynlluniau yr oedd Brinnin wedi’u crybwyll.

Drannoeth, ysgrifennodd Dylan at Brinnin gan esbonio’r rhesymau dros ei ddistawrwydd a thrafod ei daith yn fanylach Mae un darn bach o’i lythyr yn ymwneud ag Under Milk Wood. Esboniodd Dylan ‘I shall not have the complete manuscript ready until the week of my sailing’ (roedd yn bwriadu hwylio ym mis Ebrill). Unwaith eto, mynegodd ansicrwydd hefyd am y ffaith ei bod yn cael ei pherfformio ganddo ef a chast proffesiynol, gan ailadrodd pwysigrwydd defnyddio acenion Cymreig. Ychwanegodd, ‘I think I could make an hour’s entertainment out of this myself.’ Gallai fod Dylan wedi newid ei feddwl oherwydd yr ymateb cadarnhaol a gafodd yn dilyn darlleniad unigol o’r ddrama anorffenedig yng Nghaerdydd ar 10 Mawrth. Awgrymodd y dylai Brinnin ddarllen y sgript ar ôl iddo gyrraedd, ac wedyn gwneud penderfyniad ynghylch a oedd angen actorion neu beidio.

Ond, nid oedd Dylan wedi dweud wrth Brinnin dros y ffôn neu yn y llythyr dilynol ei fod, mewn gwirionedd, wedi colli’r sgript. Ar yr 17eg, ysgrifennodd at Charles Elliott, ei westywr yng Nghaerdydd ar y 10fed, yn gofyn a oedd wedi gweld ei fag papurau. Roedd Dylan yn credu ei fod wedi’i adael yng Ngwesty’r Parc, ac roedd yn cynnwys yr ‘unig gopi’ o’r ddrama. Ysgrifennodd: ‘If the thing isn’t there, do you think you could find out   where the hell I left it?’’ Byddai’n waith anodd ceisio cyflawni’i addewid o roi sgript gyflawn i John Malcolm Brinnin erbyn iddo gyrraedd America ar ôl iddo golli’r unig gopi, a hwnnw’n gopi anghyflawn. Byddwn yn darganfod yr hyn a ddigwyddodd nesaf yn Rhan Dau.  

Katie Bowman, Canolfan Dylan Thomas

This post is also available in: English