Under Milk Wood – 14 Mai 1953 | Rhan dau – Yr Ymarferion

Under Milk Wood – 14 Mai 1953 | Rhan dau – Yr Ymarferion
Dylan Thomas exhibition at the Dylan Thomas Centre in Swansea, UK.

Mae Katie yn adrodd stori’r perfformiad cyntaf Under Milk Wood ar y llwyfan o’r pwynt pan gollodd Dylan ei unig gopi o’r llawysgrif.

Gadawsom Dylan, yng nghanol mis Mawrth, ar ôl iddo golli’r unig gopi o Under Milk Wood ar ôl dweud wrth John Malcolm Brinnin y byddai’r sgript wedi’i chwblhau erbyn iddo adael am America. Yn ffodus, daethpwyd o hyd i’r sgript anorffenedig, yn dilyn ‘strenuous long-distance efforts to retrieve it’ fel mae Andrew Lycett yn esbonio yn Dylan Thomas: A New Life.

Yn y cyfamser, yn Efrog Newydd, roedd Liz Reitell, cynorthwy-ydd John Malcolm Brinnin yn y Poetry Center, yn gyfrifol am gasglu cast ynghyd a gweithio ar y cynhyrchiad Under Milk Wood. Oherwydd y diffyg sgript a’r diffyg gohebiaeth gan Dylan, cyfeiriodd Brinnin at ei swydd fel ‘working in a vaccum’, yn Dylan Thomas in America. Yn ôl Nancy Wickwire, a oedd yn gweithio ar switsfwrdd y Poetry Center, roedd Liz Reitell mewn trallod. Yn Dylan Remembered Volume Two, roedd Nancy yn ei chofio hi’n dweud bod Dylan i fod i gyrraedd mewn wythnos, a’i fod wedi gofyn am bum actor. Mae’n ymddangos bod hyn yn gwrth-ddweud honiad Brinnin fod yr actorion yn barod ar gyfer ymarferion erbyn canol mis Mawrth. Byddai hefyd yn awgrymu bod rhyw fath o ddeialog rhwng Brinnin a Dylan rhwng 18 Mawrth ac 16 Ebrill pan ymadawodd Dylan am America, gan fod llythyr Dylan o 18 Mawrth yn crybwyll gwneud perfformiad unigol yn hytrach na rhagnodi cast. Efallai y cytunodd Dylan i gynllun Brinnin ar ôl sylweddoli bod y digwyddiad eisoes wedi’i hysbysebu fel perfformiad gydag actorion. A hithau’n actores, llwyddodd Nancy Wickwire i ddatrys sefyllfa Liz Reitell drwy enwi aelodau cyswllt y Poetry Center a oedd hefyd yn actorion – Sada Thompson, Roy Poole, Dion Allen ac Al Collins. 

Cyrhaeddodd Dylan Efrog Newydd ar 21 Ebrill. Nid oedd Under Milk Wood wedi’i chwblhau. Yn Dylan Remembered Volume Two, mae Sada Thompson yn cofio eu bod wedi cael hanner y sgript i ddechrau, gyda Nancy Wickwire yn cadarnhau bod y darn yn gorffen gyda Llais Cyntaf yn disgrifio clociau Syr Wili Watsh. Roedd hyn yn golygu, rhwng cyflawni ymrwymiadau, fod yn rhaid i Dylan ymarfer yn ogystal â chwblhau’r sgript mewn gwirionedd.  

Mae Rollie McKenna, yn Portrait of Dylan, yn dogfennu bod yr ymarferion dros dro wedi’u cynnal yn fflat un o’r actorion yn Manhattan. Oherwydd ei ymrwymiadau teithiol, nid oedd Dylan, fel y nodwyd yn Dylan Remembered Volume Two, ar gael ar gyfer ymarfer cast llawn tan wythnos cyn y perfformiad. O ganlyniad, aeth yr actorion ymlaen i gastio’u hunain. Cofiodd Nancy Wickwire, ‘I read the first woman that came along in the script, and if that part happened to be repeated then I would read it again; Sada took the next woman that came along…’

Yn y cyfamser, roedd Dylan ar daith o hyd ac yn parhau i ychwanegu golygfeydd at y sgript a’i golygu rhwng ymrwymiadau. Ar 3 Mai, rhoddodd Dylan ei ddarlleniad unigol cyntaf (yn America) o’r ddrama anorffenedig yn Amgueddfa Fogg, Boston. Yn ôl Paul Ferris, yn Dylan Thomas: The Biography, fe gamosododd y sgript unwaith eto, ond yn ffodus, daethpwyd o hyd iddi’r diwrnod canlynol ar ben y piano yn y tŷ yr oedd wedi bod mewn parti yno ar ôl sioe. Mae Brinnin yn nodi bod ymateb cadarnhaol y gynulleidfa wedi rhoi ysgogiad newydd i Dylan gwblhau Under Milk Wood. Roedd hyn yn ddefnyddiol gan fod Liz Reitell yn aml yn ffonio o Efrog Newydd i ofyn am adroddiadau cynnydd ar y sgript.

Ar 7 Mai, roedd Dylan yn Efrog Newydd ar gyfer darlleniad barddoniaeth yn y Poetry Center. Cyn ei berfformiad, aeth i’w ymarfer cyntaf ar gyfer Under Milk Wood. Yn ol Rollie McKenna, a oedd yn tynnu lluniau o’r ymarferion, ‘Dylan coached them relentlessly in pronunciation and sentence rhythm.’ Mae’n ddiddorol nodi bod gan Sada Thompson yr argraff nad oedd gan Dylan unrhyw brofiad o ymarfer, sy’n awgrymu na wnaeth Dylan ddatgelu ei gymwysterau iddynt. Yn hytrach, cymysgodd y darlleniadau â straeon fel y gallai’r cast ymgyfarwyddo â’r cymeriadau. Disgrifiodd Nancy Wickwire a Sada Thompson Dylan fel dyn swil a chalonogol, a fyddai’n eu harwain drwy’r golygfeydd gyda’i adroddiad. Yn ôl Brinnin, roedd Dylan yr un mor fodlon ar yr actorion ag yr oedden nhw arno ef, ac wedi’r ymarferion byddai’n ‘bristling with new notions as to just how the play should be staged.’

Ar y dydd Sadwrn, yn dilyn taith fer i Philadelphia, dychwelodd Dylan i Efrog Newydd am ymarfer arall. Efallai mai dyma’r ymarfer yr oedd Rollie Mckenna yn cyfeirio ato pan ddisgrifiodd enghraifft ohono’n teimlo’n sâl. Ar ôl llwyddo i’w gael i’r Poetry Center, cyfogodd Dylan yn syth a llewygodd yn yr Ystafell Werdd. Llwyddodd Liz Reitell i’w ddeffro wrth i’r actorion ddod ffordd ac er gwaethaf iddo fynnu na allai weithio, aeth ymlaen i gymryd rhan yn yr ymarfer ‘put(ting) his cast through their most electrifying experience to date’. Dyna pryd y dywedodd wrthyn nhw am ‘ddwlu ar y geiriau’. Roedd Sada Thomson yn cofio mai hwn oedd y prif gyfeiriad a roddodd iddynt, ‘That’s really the primary thing that all of us remember, is loving the words, savouring the words the way he did.’

Roedd yr ymarferion, er nad oedd llawer ohonynt, yn datblygu’n dda. Fodd bynnag, nid oedd Under Milk Wood wedi’i chwblhau o hyd. Gydag ymrwymiadau i’w cyflawni o hyd, a llai nag wythnos i fynd tan ei berfformiad cyntaf, a fyddai Dylan yn llwyddo i’w chwblhau? A fyddai’r sioe yn mynd yn ei blaen? Gallwch ddod o hyd i’r ateb yn Rhan Tri.

Katie Bowman, Canolfan Dylan Thomas

This post is also available in: English