Ugly, Lovely: Dylan Thomas’s Swansea & Carmarthenshire of the 1950s in Pictures

Yn dilyn marwolaeth Dylan Thomas, cymerodd Ethel Ross, chwaer-yng-nghyfraith Alfred Janes, gyfres o luniau o Abertawe Dylan gyda dyfyniad priodol o’i waith, yn cyd-fynd â nhw.

Roedd Ethel, hoelen wyth Cwmni Theatr Fach, yn adnabod Dylan a’i gylch o ffrindiau ac ysgrifennodd Dylan Thomas and the Amateur Theatre.

Mae llawer o’r lluniau wedi cael eu harddangos yn Arddangosfa Dylan Thomas eleni.

 

Dewch i ddathlu cyhoeddi’r casgliad atgofus o ffotograffau Ethel Ross gan Parthian Books, gan gynnwys dyfyniadau priodol o farddoniaeth Dylan Thomas, yn ogystal â’i sylwadau ei hun.

Golygodd nith Ethel, yr awdures Hilly James a ysgrifennoddThe Three Lives of Dylan Thomas, Ugly, Lovely. Bydd Hilly yn trafod Ugly, Lovely â’r Athro John Goodby – sydd wedi cyfrannu traethawd i’r llyfr– a Richard Davies o Parthian Books.

Bydd y digwyddiad hwn hefyd yn cynnwys perfformiad gan Gwmni Theatr Fluellen o “Lunch at Mussolini’s”, sgript gan Dylan nad oes llawer yn gwybod amdani.

ethel-ross-photograph-of-the-uplands-cinema-for-blog

This post is also available in: English