Rydym wedi cyrraedd y rhestr fer!

Roedd 2017 yn flwyddyn brysur i ni yng Nghanolfan Dylan Thomas gyda llu o weithgareddau plant, digwyddiadau i’r teulu a phrosiectau allgymorth. Yn ogystal, roedd ein harddangosfa Dwlu ar y Geiriau ar agor am 357 o ddiwrnodau’r flwyddyn…

Fodd bynnag, mae ein holl waith caled wedi dwyn ffrwyth oherwydd ein bod ni wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer un o’r lleoliadau gorau yng nghategori ‘Lleoliad Gorau i Deuluoedd’ yng ngwobrau Fantastic for Families.

Mae Gwobrau Fantastic for Families yn gystadleuaeth ar draws y DU ar gyfer lleoliadau celfyddydau a diwylliant, a chyda mwy na 500 o leoliadau yn y DU wedi’u hachredu â bathodyn Family Arts Standards, rydym wrth ein bodd o gyrraedd y rhestr fer!

Cynhelir Fantastic for Families gan Family Arts Campaign, rhaglen gydweithrediadol a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Lloegr ac a arweinir gan sectorau’r celfyddydau gweledol a pherfformio i gynyddu lefelau cyfranogiad teuluoedd yn y celfyddydau.

Byddwn yn mynd i’r noson wobrwyo am 6pm nos Iau 1 Mawrth, yn Leeds.

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y diweddaraf ar y noson – byddwn yn rhoi’r diweddaraf i chi am ein taith ac yn rhoi gwybod i chi cyn gynted ag y caiff enillwyr y gwobrau eu cyhoeddi.

Facebook: www.facebook.com/CanolfanDylanThomas
Twitter: www.twitter.com/DTCSwansea

Yn y cyfamser, byddwn yn croesi’n holl fysedd (a bysedd traed) am newyddion da!

This post is also available in: English