Gweithdai newydd ar gyfer y gymuned ehangach

Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi estyn ein rhaglen dysgu ac allgymorth i gyrraedd cymuned ceiswyr lloches a ffoaduriaid Abertawe. Mae’r gweithdai hyn, a arweiniwyd gan y bardd, y dramodydd a’r nofelydd Eric Ngalle Charles, wedi archwilio’r ffyrdd y gellid defnyddio ysgrifennu creadigol i gyfleu’r heriau sy’n gysylltiedig â bod yn geisiwr lloches neu’n ffoadur.

Er nad oedd Dylan Thomas ei hun wedi profi dadleoliad ar y raddfa hon, gellir defnyddio ei eiriau fel man cychwyn ar gyfer creadigrwydd ac mae’n wych gweld sut gall ei waith ysbrydoli pobl o gefndiroedd mor amrywiol.

Er mwyn gwneud y sesiynau’n hygyrch i geiswyr lloches a ffoaduriaid, roedd Canolfan Dylan Thomas yn falch o allu ad-dalu tocynnau bysus Abertawe yn ogystal â chynnig gwasanaethau gofal plant i’r rhai y mae angen cefnogaeth ychwanegol arnynt.

Wrth i’r rhieni ymgymryd â’r gweithdy a’r drafodaeth, diddanwyd plant gyda phypedau a gweithgareddau eraill, gan gynnwys lliwio tymhorol.

Gorffennodd ein gweithdy mis Rhagfyr gyda theimlad o ddathliad go iawn, diolch i gyfranogwr ymroddedig o’r enw Saba Humayun. Sylwodd Saba ei fod yn ben-blwydd Eric yr wythnos gynt a phobodd hi deisen hyfryd a ysbrydolodd sesiwn ganu fawr a llawer o floeddiadau o gymeradwyaeth!

Meddai Saba Humayun, “Mae Eric yn ddyn ysbrydoledig sy’n ymgysylltu ag eraill ac yn peri i bobl fod yn emosiynol drwy ddefnyddio barddoniaeth i rannu ei brofiadau bywyd. Roedd y gweithdai mor ddefnyddiol o ran fy ngalluogi i rannu hanes fy mywyd fy hun ag eraill, mewn amgylchedd diogel a chroesawgar. Mae’r gweithdai hyn wedi fy ngalluogi i fagu hyder ynof fy hun fel person yn ogystal ag wrth ysgrifennu, a bydd yn fy helpu i gyflawni cymaint yn y dyfodol.

Er mwyn diolch i Eric am ei waith anhygoel (ac i ddathlu ei ben-blwydd), roedd y tîm yng Nghanolfan Dylan Thomas wedi cyflwyno llyfr Barddoniaeth Menywod Cymru iddo – efallai i ysbrydoli ei weithdai yn 2018!

Ychwanegodd Charlotte Rogers, Swyddog Allgymorth yng Nghanolfan Dylan Thomas, “Roedd sesiwn derfynol 2017 yn wych a chafodd pawb amser arbennig. Roedd yr awyrgylch yn llawn hwyl yr ŵyl gyda llawer o chwerthin a sawl mins-pei hefyd. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at 2018!”

I gael gwybodaeth am ddyddiad ein gweithdy nesaf i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, neu i gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’n digwyddiadau sydd i ddod, ffoniwch y ganolfan ar 01792 463980.

This post is also available in: English