“pelen wlân wen y gwyliau sy’n canu fel clychau’: hanes ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’ Dylan Thomas

“pelen wlân wen y gwyliau sy’n canu fel clychau’: hanes ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’ Dylan Thomas

Yn haf 1945, gwahoddwyd Dylan Thomas gan y BBC i ysgrifennu darn arall ar gyfer y rhaglen ‘Children’s Hour’ yn dilyn darllediad llwyddiannus  ‘Reminiscences of Childhood’. Ysgrifennodd at Lorraine Jameson yn y BBC yng Nghaerdydd, ‘Thank you for wanting me to do something else for the Children’s Hour.  I think ‘Memories of Christmas’ a perfectly good title to hang something on, and I’ll get down to it soon.’

Anfonodd y sgript mor brydlon ag yr addawodd, gan ei bostio ar 25 Medi mewn da bryd ar gyfer recordio’i ddarlleniad ohono ar 6 Rhagfyr yn Llundain. Darlledwyd Children’s Hour BBC Wales ar 16 Rhagfyr, a ffi Dylan oedd 12 gini.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, gofynnwyd iddo ysgrifennu darn ar gyfer y ‘Picture Post’, a chyhoeddwyd ‘Conversation about Christmas’ ym mis Rhagfyr 1947. Ac ym mis Rhagfyr 1950, cyfunodd y ddwy ddarn i greu’r stori ‘A Child’s Memories of Christmas in Wales’, ar gyfer cyhoeddiad yn un o gylchgronau UDA sef Harper’s Bazaar.

Recordiwyd ‘A Child’s Christmas in Wales’ ar gyfer Caedmon Records yn Efrog Newydd ar 22 Chwefror 1952, yn ystod ail daith ddarllen Dylan yng ngogledd America. Mae’r recordiad hwn, a’r argraffiadau niferus o’r stori a gyhoeddwyd yn dilyn hyn, yn parhau i fod yn boblogaidd yng ngogledd America, yn ogystal â’r DU. Cyhoeddwyd ac ailgyhoeddwyd argraffiadau hardd yn Gymraeg ac yn Saesneg, a’u darlunio gan amrywiaeth o artistiaid gan gynnwys Edward Ardizzone, Peter Bailey a’r awdur a’r darlunydd o UDA, Ellen Raskin. Mae darllen a gwrando ar y stori hudol hon wedi bod yn draddodiad i gynifer o bobl, gyda’r llinellau agoriadol atgofus yn dynodi dechrau’r cyfnod sy’n arwain at y Nadolig.

‘Yn y blynyddoedd hynny a drodd o gwmpas cornel y dre glan môr, roedd un Nadolig mor debyg i’r llall; y blynyddoedd hynny sydd erbyn hynny tu hwnt i sŵn, oni bai am siarad pell y lleisiau a glywaf weithiau cyn cysgu, fel na allaf yn fy myw gofio a fu’ hi’n bwrw eira am chwe niwrnod a chwe noson pan oeddwn i’n ddeuddeg ynteu a fu hi’n bwrw eira am ddeuddeg diwrnod a deuddeg noson pan oeddwn i’n chwech.’

This post is also available in: English