Mannau a lleoedd ysgrifennu Dylan

Mannau a lleoedd ysgrifennu Dylan

Yn y cyntaf o gyfres fer o flogiau ar fannau ysgrifennu Dylan, byddwn yn edrych ar ddau le a ddefnyddiodd yng ngorllewin Cymru.

Drwy gydol hanes, mae ysgrifenwyr wedi chwilio am noddfa dawel, hafan lle gallant gau eu hunain rhag y byd, ac nid oedd Dylan yn eithriad. Yn ystod ei 20au a’i 30au, roedd ganddo deulu ifanc, a meddai unwaith, mewn anobaith, ‘…I work among cries and clatters like a venomous beaver in a parrot house.’

Noddfa greadigol enwocaf a mwyaf eiconig Dylan, wrth gwrs, yw’r sied ysgrifennu (a oedd yn garej, yn wreiddiol), yn y Tŷ Cwch yn nhref fechan Talacharn, lle y bu’n byw am bedair blynedd olaf ei fywyd cyn ei farwolaeth cyn ei amser ym mis Tachwedd 1953. Yn ddiddorol, roedd yr awdur Roald Dahl hefyd am gael lle heddychlon i ysgrifennu i ffwrdd o’i deulu; aeth i ymweld â Thalacharn, cymerodd gip ar sied Dylan a phenderfynodd fynd ati i ddylunio ei gwt ei hun, sef ei ‘nyth bach’.

Fodd bynnag, roedd y sied ysgrifennu’n un o nifer o adeiladau anghyffredin a diddorol y bu’r bardd yn eu defnyddio.   Ar ôl iddo symud i ffwrdd o gartref cymharol sefydlog y teulu yn Abertawe yn 20 oed, (lle ysgrifennodd farddoniaeth yn ei ystafell wely fach), bu’n byw bywyd crwydrol drwy symud o gwmpas yn gyson, gan ddibynnu’n aml ar gymwynaswyr, teulu a ffrindiau am lety am ddim a lle i ysgrifennu.

Yn y blog hwn, byddwn yn canolbwyntio ar ddau o’r mannau ysgrifennu hynny: i ddechrau, gasebo crand mewn amgylchedd eang a hanesyddol ac, yn ail, storfa afalau.

Yn ystod diwedd y 1930au a rhan gyntaf 1940, roedd Dylan a’i wraig Caitlin yn byw mewn gwahanol leoliadau yn Nhalacharn. Roedd eu ffrind, a chefnogwr Dylan, yr awdur Richard Hughes yn prydlesu Tŷ Castell, a oedd yn rhoi mynediad i diroedd godidog adfeilion Castell Talacharn. Derbyniodd Dylan wahoddiad Hughes i ddefnyddio’r gasebo bach yno, a oedd wedi’i leoli’n uchel ar waliau’r castell ac yn cynnig golygfa banoramig o foryd Talacharn o’i ffenestr grom. Ym mis Ionawr 1939, ganwyd mab cyntaf y cwpl, Llewelyn,  felly yn y tŷ haf hwn y gallai Dylan weithio mewn heddwch ar ei gasgliad lled-hunangofiannol o straeon byrion, Portraits of the Artist as a Young Dog. Gall ymwelwyr Talacharn ymweld â’r gasebo drwy dalu i gael mynediad i’r castell.

Ym mis Medi 1944, symudodd y teulu, a oedd bellach yn cynnwys merch, Aeronwy, i ddiogelwch cymharol byngalo bach parod ar yr arfordir ger Cei Newydd, yng ngorllewin Cymru. Cynigiodd un o noddwyr Dylan, yr Arglwydd Howard de Walden, iddo ddefnyddio’r storfa afalau, adeilad carreg adfeiliedig ar dir y plasty yr oedd yn ei rentu gerllaw, Plas Llanina.  Yma, roedd gan Dylan y rhyddid i ysgrifennu mewn heddwch, i ffwrdd o’r ‘môr o sŵn’ yr oedd ei blant yn ei greu. Roedd yn adeilad llawer llai crand na’r gasebo yng Nghastell Talacharn, er hynny profodd i fod yn lle ysgrifennu cynhyrchiol i Dylan a dyma le ysgrifennodd nifer o’r cerddi mwyaf adnabyddus a’r darllediad Quite Early One Morning, a ystyrir yn aml fel rhagflaenydd i Under Milk Wood.

Linda Evans, Canolfan Dylan Thomas

This post is also available in: English