Florence Thomas: Rhan 5

Florence Thomas: Rhan 5
Dylan Thomas exhibition at the Dylan Thomas Centre in Swansea, UK.

‘I suppose that I’m piling on the shocks and surprises… but I must tell you too that Caitlin and I are going to be married next week’ – Dylan Thomas, 10 Mehefin, 1937

Yn Rhan 5 o’i chyfres ar Florence Thomas, mae Katie yn edrych ar fywyd Florence ar ôl i Dylan adael cartref o’r diwedd.

Ym 1935, Cwmdonkin Drive oedd prif gartref Dylan, er ei fod yn dal i deithio i Lundain ac yn mynd ar dripiau i dreulio amser gyda ffrindiau. Dyma’r flwyddyn hefyd iddo gwrdd â’i gyd-fardd, Vernon Watkins. Mae awgrym bod ei ymddygiad yn dal i beri pryder i’w rieni. Roedd Tom Warner, yn Dylan Remembered Volume One, yn cofio Dylan yn dweud wrtho fod DJ wedi rhoi cynnig terfynol iddo am ei yfed, gan fygwth ei roi mewn cartref i feddwon. Ar achlysur arall, ar ôl peidio â gweld Dylan ers sawl mis, dywedodd Warner mai geiriau Florence oedd ‘Daddy and I know he’s a bit of a genius, so we just have to put up with it.’

Ym mis Rhagfyr 1936 ymddeolodd DJ o addysgu a phenderfynodd ef a Florence osod 5 Cwmdonkin Drive a symud i lety rhent yn Llandeilo Ferwallt, ar gyrion Abertawe.  Symudodd y teulu ym mis Mawrth 1937, ar ôl gohirio’r symud pan gafodd Florence niwralgia, gan beri iddi orfod aros yn y gwely, ac ni allai  symud y cyhyrau yn ei hwyneb. Roedd hi’n dal yn sâl ar ôl symud, fel esboniodd Dylan mewn llythyr at Emily Holmes Colema, ‘[she] is weak as a moth, can’t move at all in bed, and worries the daylight out of the window.’

Ym mis Ebrill aeth Dylan i deithio, gan fynd yn gyntaf i ogledd Cymru, yna Llundain, yna Cernyw. Mae’n ymddangos mai prin ei fod mewn cysylltiad â’i rieni yn ystod y cyfnod hwn gan fod ei lythyr dyddiedig 10 Mehefin yn nodi, ‘I’ve been a careless, callous, and quite unreasonable person as regards letting you know about myself’. Yn yr un llythyr, mae’n eu hysbysu ei fod yng Nghernyw ac yn mynd i briodi â Caitlin. Nid oedd ei rhieni’n hapus gyda’r newyddion. Mynnodd Dylan ei fod wedi dweud wrth ei fam amdano droeon ond mae ymateb ei rieni yn awgrymu bod y newyddion yn dal i fod yn dipyn o sioc. Er bod DJ yn y pen draw wedi anfon arian at y cwpl, a’i fendith, ysgrifennodd at ei fab i geisio’i ddarbwyllo a gofynnodd am gymorth Nancy a’i gŵr Haydn i atal y briodas. Mewn llythyr at Haydn a ddogfennwyd yn Dylan Thomas: The Biography Ferrid, mae DJ yn cyfeirio ato fel syniad gwallgof o ystyried bod Dylan mewn trafferthion ariannol enbyd.

Fodd bynnag, priododd y cwpl yng Nghernyw yn y pen draw ar 11 Gorffennaf 1937.  Yn ôl Constantine Fitzgibbon yn The Life of Dylan Thomas, fe deithion nhw’n ôl i Gymru ar ddiwedd yr haf, gan aros yn y Mermaid yn y Mwmbwls am y tro cyntaf ac yna, pan ddaeth eu harian i ben, arhoson nhw gyda rhieni Dylan yn Llandeilo Ferwallt. Dyma’r tro cyntaf i Florence a DJ gwrdd â Caitlin. Yn ei llyfr cyntaf, Caitlin: Life with Dylan Thomas, disgrifiodd y cartref fel tŷ pâr bach gyda thair ystafell lan staer, a thair lawr llawr a’i hargraff gyntaf oedd bod y lle’n rhy daclus o lawer, gan sylwi na allai Florence gerdded heibio arwyneb heb dynnu llwch oddi arno.

Mae’n ymddangos bod gwisgoedd Caitlin hefyd yn destun craffu. Roedd hithau’n cyfaddef ei hun ei bod hi’n dwlu ar ddillad hardd ond byddai’n gwisgo pethau ar hap, heb ystyried a oeddent yn cyd-fynd ai beidio. Mae’n debygol iawn bod hyn yn gwylltio Florence, a oedd i’r gwrthwyneb. Dangosir hyn gan Eileen Llewellyn Jones a oedd, yn Dylan Remembered Volume One, yn cofio Florence fel rhyw fath o wraig briod wedi’i gwisgo’n smart. Yn The Life of Dylan Thomas gan Constantine Fitzgibbon, honnir i Florence roi rhywfaint o arian i Dylan a Caitlin fel y gallent brynu dillad i Caitlin – gyda’r arian o bosib yn dod o’i chronfa i dalu am ei threuliau angladd – ac aeth y cwpl, fel oedd yn briodol, i Abertawe. Ar ôl treulio’r diwrnod a’r noson gyfan allan, dychwelodd y ddau: roedd yr arian wedi’i wario, a dim ond un  brassière oedd ganddynt.

Roedd Caitlin yn cofio bod Florence wedi maldodi Dylan drwy gydol eu harhosiad, gan redeg bath iddo bob nos, bwydo bara gyda llaeth a halen iddo pan oedd ganddo ben mawr ar ôl yfed (er ei bod yn arfer priodoli ei ‘salwch’ i fod yn ‘sâl gyda’r ffliw’) a gwneud yn siŵr ei fod yn ddigon cynnes. Byddai’n dweud y drefn wrtho am ei yfed, ond nid mewn ffordd ddifrifol, sy’n dangos nad oedd hi dan gamargraff ynglŷn â rhai o ormodion ei mab. Cofiodd Caitlin fod Dylan yn llawer mwy goddefol o amgylch ei rieni, gan wylio’i iaith, er enghraifft, yn eu cwmni. Disgrifiodd Florence fel un a siaradi’n ddi-baid… er yr oedd ganddi galon garedig. Erbyn canol mis Hydref roedd y cwpl wedi symud i aros gyda mam Caitlin yn Blashford. Yn ôl Andrew Lycett, yn Dylan Thomas: A New Life, dywedodd Dylan ‘how nice it was not to be followed around by somebody with a dustpan and brush.’

Llandeilo Ferwallt oedd prif gartref y Thomasiaid am y blynyddoedd nesaf. Yn ystod y 1940au bu nifer o symudiadau a newidiadau, canlyniadau’r Rhyfel ac afiechyd. Byddwn yn archwilio effaith yr amgylchiadau hyn yn y blog nesaf.

This post is also available in: English