Florence Thomas: Rhan 3

Florence Thomas: Rhan 3

Yn Rhan Tri ei chyfres o flogiau am Florence Thomas, mae Katie yn edrych ar ei bywyd gartref wrth i’w theulu dyfu’n hŷn.

‘she was always happy, you know, always bright and cheerful’- Addie Elliot yn Dylan Remembered Volume One

Mae bywgraffyddion a chyfoedion Dylan a Nancy yn disgrifio Florence Thomas fel menyw gymdeithasol, gynnes a chyfeillgar a oedd bob amser yn barod i ddarparu te, brechdanau a theisennau i westeion yn y tŷ. Yn Dylan Remembered Volume One mae ffrind Florence, Ethel Ross, yn ei disgrifio fel menyw â llais cyfoethog ac mae’n cofio ei bod yn actio’r straeon yr oedd yn eu hadrodd, ac yn bwrw amcan bod Dylan wedi etifeddu peth o’i allu actio o’i fam. Roedd y fenyw hon a chanddi ‘good sense of the dramatic’ yn sicr wedi cael ei chyfran deg o ddrama yn ystod y dauddegau hwyr a’r tridegau cynnar. Parhaodd iechyd Dylan yn ffynhonnell pryder iddi. Mae Paul Ferris yn dogfennu bod Florence wedi dweud bod Dylan wedi cael gwaedlif gwael pan oed yn bymtheg oed, a gwaeledd nerfol pan oedd yn sefyll ei arholiadau Bwrdd Canolog Cymru pan oedd yn un ar bymtheg. Mae’n cofio: ‘we had to send him down to a farm in Cardigan’. Fel yr oedd hi, Saesneg oedd yr unig arholiad y llwyddodd Dylan ynddi.

O safbwynt ariannol, ni fyddai pethau wedi bod yn hawdd, gyda chyflog DJ bellach yn cynnal teulu o bedwar oedolyn. Roedd Nancy yn dal i fyw gartref ac mae’n ymddangos bod Dylan yn treulio’r rhan fwyaf o’r cyflog a enillai wrth weithio i gwmni papur newydd lleol ar alcohol a chymdeithasu. Awgrymir mai DJ ddaeth o hyd i’r swydd iddo. Roedd Florence, fel yr oedd wedi’i wneud drwy gydol ei fywyd ysgol, yn sicrhau bod ganddo grys glân a throwsus â phlyg ynddo bob bore ar gyfer gwaith. Mae llythyrau Nancy at Haydn Taylor, a ddogfennir yn Dylan Thomas: The Biography,gan Paul Ferris, yn llawn cyfeiriadau at ffraeau ynghylch arian a chastiau Dylan. Byddai pyliau o dymer drwg DJ yn aml yn arwain i Florence yn llefain a Nancy’n rhedeg allan o’r ystafell.  

Awgrymwyd bod Florence yn eithaf diniwed o ran gwendidau ei mab, ond efallai bod hyn yn ymwneud yn fwy â chadw wyneb a bod yn amddiffynnol o enw da ei theulu yn hytrach nag oherwydd hunan-dwyll. Yn ôl W Emlyn Davies, a fyddai’n prynu Cwmdonkin Drive oddi wrth y Thomasiaid,  ‘she knew most people, and she was aware of what was going on in the world.’ Weithiau roedd yr awydd hwn o fod yn ymwybodol o’r hyn a oedd yn digwydd, yn enwedig o ran ei theulu, wedi’i harwain i gymryd camau digon anarferol ar adegau. Er enghraifft, nododd Haydn Taylor, pan oedd yn canlyn Nancy yn y parlwr, y byddai Florence yn craffu arnyn nhw o bryd i’w gilydd. Roedd hi’n ddig na fyddai Nancy’n rhannu cynnwys ei gohebiaeth â hi ‘You never show me your letters as other girls do their parents’. Dywedodd Paul Ferris fod awgrym hefyd y byddai’n stemio amlenni llythyrau Haydn i’w hagor, gan achosi iddo osod cŵyr selio ar ei ohebiaeth at Nancy.

Er y gellid dehongli bod cyhoeddi dyweddïad Nancy a Haydn yn rhywbeth cadarnhaol, nid felly’r goblygiad ariannol o orfod ariannu priodas. Mae Ferris yn dogfennu y dywedodd Florence wrth Nancy: ‘Your wedding- remember Daddy won’t have any money & any sort of a fuss will kill him. If you expect any sort of special fuss or clothes you ought to be ashamed of yourself…’ Fodd bynnag, talwyd am y briodas, ond nid yw’n glir o ble daeth yr arian. Yn Dylan Remembered Volume One nodir eu bod wedi benthyca £150 oddi wrth Elizabeth Ann Beor, yr oeddent wedi cael y benthyciad gwreiddiol ar gyfer y tŷ ganddi.

Er gwaethaf yr hoe dros dro o anawsterau ariannol a ddarparwyd gan y benthyciad, parhaodd y pryderon a’r tensiwn. Gadawodd Dylan ei swydd gyda’r papur newydd ar ôl tua 18 mis, ac roedd nawr yn weithiwr llawrydd ac yn gweithio ar y cerddi a fyddai’n ffurfio’i gasgliad cyntaf, 18 Poems.  Yn gynnar ym mis Chwefror 1933, derbyniodd Florence delegram yn dweud wrthi fod ei chwaer hynaf, Ann, a oedd yn sâl gyda chanser yng Nghlafdy Caerfyrddin, yn marw. Gadwodd Florence ar unwaith i fod gyda hi. Dogfennodd Dylan yr hyn a ddigwyddodd mewn llythyr at Trevor Hughes ar 8 Chwefror. Ysgrifennodd y gerdd ‘After the Funeral (In Memory of Ann Jones)’amdani’n dilyn hyn. Ar ddiwedd mis Awst, diagnosiwyd DJ â chanser y geg, ac aeth Nancy a Haydn (a oedd wedi priodi ym mis Mai) ag ef i Lundain i gael triniaeth. Er gwaethaf prognosis digalon i ddechrau o gael llai na phum mlynedd i fyw, goroesodd DJ y profiad caled. Fodd bynnag, arsylwodd ei gydweithiwr, John Morgan Williams, yn Dylan Remembered Volume One fod y profiad wedi’i newid e. Dywedodd fod DJ wedi newid o fod yn ‘choleric, irritable, vain, very vain man’ i fod yn ddyn cwbl wahanol. Mae’n dadlau bod y profiad wedi’i dyneru, ac mae’n rhaid bod hyn wedi newid bywyd cartref i’r teulu cyfan.

Bydd y rhan nesaf yn edrych ar yr heriau a wynebai Florence wrth i Dylan baratoi i adael y cartref. 

Katie Bowman, Canolfan Dylan Thomas

This post is also available in: English