Elaine Griffiths: Warden Cyrch Awyr Ieuengaf Cymru yn yr Ail Ryfel Byd – Rhan 1

Elaine Griffiths: Warden Cyrch Awyr Ieuengaf Cymru yn yr Ail Ryfel Byd – Rhan 1
Ffotograffau trwy garedigrwydd merch Elaine, Dr Leanna Broom, a’i mab, Barrie Kidwell

Mae Linda yn edrych ar brofiadau anhygoel Elaine Griffiths, preswylydd o Abertawe ac un o gyfoedion Dylan Thomas. 

Ar adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, mae sefydliadau addysgol yn Abertawe ar gau i’r rhan fwyaf o ddisgyblion mewn ymgais i leihau cyfraddau trosglwyddo yn ystod ail don y pandemig Coronafeirws. Yn eironig, bron wyth deg o flynyddoedd yn ôl, ar 22 Chwefror 1941, roedd cyhoeddiad ar y radio wedi hysbysu gwrandawyr fod ysgolion Abertawe ar gau dros dro.

Roedd Ysgol Ramadeg Abertawe, lle bu Dylan Thomas yn ddisgybl a’i dad yn athro Saesneg, wedi’i difrodi’n wael iawn gan fomiau. Yn rhifyn mis Mawrth 1942 o gylchgrawn yr ysgol, adroddwyd bod disgyblion wedi cael bron pythefnos o wyliau, gyda disgyblion yn mynychu hanner diwrnodau am bum mis arall wrth i atgyweiriadau hanfodol barhau. 

Canran fach yn unig o’r holl adeiladau a ddinistriwyd oedd adeiladau ysgolion, ac adwaenwyd nos Fercher 19, nos Iau 20 a nos Wener 21 Chwefror 1941 yn ddiweddarach fel Blitz Tair Noson Abertawe. Roedd y cyrchoedd awyr trychinebus hyn gan fomwyr o’r Almaen (y Luftwaffe) wedi para am gyfanswm o 13 awr a 48 munud ac o ganlyniad cafodd canol y dref ei droi’n domenni enfawr o rwbel a metel gwyrdroëdig. Cafodd cannoedd o bobl eu lladd neu eu hanafu.

Doedd neb yn fwy ymwybodol o’r dinistr a achoswyd i’r dref a’i chymunedau nag Elaine ‘Nin’ Griffiths (Kidwell ar ôl priodi), llyfrgellydd 17 oed yn Sefydliad Brenhinol De Cymru (a adwaenir bellach yn Amgueddfa Abertawe), a oedd yn Geid frwdfrydig, a’r warden cyrch awyr benywaidd ieuengaf yng Nghymru.

Roedd Elaine a’i theulu’n byw ar hyd Parêd y Cei, ac roedd ei thad, Edward, (Ted), cyn-filwr o’r Rhyfel Byd Cyntaf, yn rhedeg busnes siop bapur newydd yng nghysgod rheilffordd uwchben a oedd yn croesi gwaelod Wind Street. Roedd Ted eisoes yn ddirprwy warden cyrch awyr pan wisgodd Elaine, a oedd newydd gymhwyso, ei het dun a’i band braich ac ymuno ag ef fel yr unig ferch yn safle 2E yn Pier Street (y gellir cael mynediad iddi heddiw drwy’r gyffordd gul ger Gwesty Morgan’s ar Adelaide Street).

Yn ôl ym mis Rhagfyr 1937, gan bryderu y byddai unrhyw ryfel yn y dyfodol yn golygu bomio trwm o’r awyr, a 19 mis cyn i Churchill ddatgan rhyfel yn erbyn yr Almaen, pasiodd llywodraeth Prydain y Ddeddf Rhagofalon Cyrchoedd Awyr (neu ‘ARP’), gan ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi rhag ofn y byddai ymosodiadau o’r awyr. Un o’r ffurfiau mwyaf gweladwy o ‘ARP’ oedd y warden cyrch awyr, a hwy oedd y cyswllt cyntaf mewn cadwyn hir o bobl ARP a fyddai’n cynnwys diffoddwyr tân, partïon achub a chymorth cyntaf, criwiau ambiwlans, meddygon a darparwyr bwyd brys.

Roedd swyddog o Neuadd y Ddinas wedi ymweld â grŵp Geidiaid Elaine, gan obeithio recriwtio rhagor o ferched a oedd yn barod i wasanaethu fel wardeiniaid cyrch awyr. Hi oedd yr unig un i dderbyn yr her, hyfforddodd yn frwdfrydig ym mhencadlys adrannol y Gwasanaeth Amddiffyn Sifil yn Neuadd Sgeti, ac roedd ei chymhwyster Geidiaid y Merched mewn cymorth cyntaf yn ei rhoi mewn sefyllfa arbennig o dda, fel y gwnaeth credo’r Geidiaid o ystyried eraill bob amser a phwysigrwydd gwasanaethu’r gymuned, egwyddorion yr oedd yn credu’n frwd ynddynt.

Roedd safle Elaine mewn ardal ddiwydiannol a masnachol fawr, a gefnogwyd gan brif borthladd pwysig gyda phum doc. Roedd y porthladd ar aber afon Tawe ac roedd yn hanfodol i ymdrech y rhyfel. Os bwriad y Luftwaffe oedd dinistrio’r pum doc, fe fethon nhw daro’r rhan fwyaf o’u targedau, ac yn lle hynny, gwastadwyd yr hyn a fu unwaith yn ganol tref cefnog a bywiog, a oedd yn cynnwys deg siop adrannol.

Er mai 4tr 11cm (1.5 metr) o daldra yn unig oedd Elaine, ac roedd yn denau iawn, roedd ganddi gymeriad cryf. Ymysg ei dyletswyddau niferus, roedd gofyn iddi gyflwyno’i hun i’r bobl leol, gan sicrhau eu bod yn gwybod lle’r oedd eu lloches cyrch awyr agosaf. (Roedd ei safle mewn ardal boblog, felly nid oedd gan lawer o bobl le i loches bom Anderson personol yn yr ardd.) Yn y nos, roedd hi’n patrolio’r strydoedd, gan sicrhau y dilynwyd y rheoliadau blacowt, gan na allai unrhyw oleuadau artiffisial fod yn weladwy i awyrennau bomio’r Almaenwyr. 

Er bod rhoi sicrwydd cyfeillgar i godi calon yn dasg hawdd, roedd rhai agweddau ar ei rôl yn llethol. Ystyriwyd bod ymosodiadau nwy yn fygythiad go iawn, ac un ddyletswydd arbennig o anodd oedd dangos i fam sut i osod ei baban mewn bag rwber du sy’n gwrthsefyll nwy. Cafodd y dasg hefyd o ddweud wrth bobl fod eu cartrefi wedi’u dinistrio neu fod perthnasau wedi’u lladd; dywedodd y wardeiniaid eraill a oedd yn yr un safle â hi ei bod hi’n ‘well i ferch’ rannu newyddion drwg. Yn naturiol, roedd Elaine yn casáu’r cyfrifoldeb hwn.

Llun trwy garedigrwydd: Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

Ar noson gyntaf y Blitz, nos Fercher 19 Chwefror, gollyngodd y Luftwaffe filoedd o fomiau tân (a ddisgrifiwyd gan Elaine fel eu bod yn ‘arllwys’ i lawr fel glaw), a rhai bomiau trwm, a ddaeth mewn taniadau o chwech. Rhoddodd ei thad gyfarwyddyd i’w ferch ifanc daflu ei hun yn erbyn wal pe na bai’n gallu cyrraedd man diogel.

Ar yr ail noson, gan ymgynnull yn gynnar yn eu safle yn Pier Street, wynebodd y tîm bach o saith o wardeiniaid noson hir o fomio trwm. Gan gyfrif y ffrwydradau enfawr, roeddent yn ymwybodol nad oedd dau o daniad o chwech wedi ffrwydro. Roedd un wedi glanio ar waelod Wind Street ac wedi’i rannu’n ddwy, ond roedd y llall ar goll.

Ar ôl noson wirioneddol ofnadwy, pan y bu’n rhaid iddi ysgubo ysgubodd bomiau tân o do banc Lloyds a helpu i roi tourniquet i ddyn a anafwyd yn wael, aeth Elaine, yn ôl ei harfer ar ôl cyrch bomio, i wirio’i ‘hamgueddfa annwyl’, a safai’n falch, a heb ei dinistrio. Fodd bynnag, wrth edrych yn fanylach ar y ffasâd a ysbrydolwyd gan y cyfnod clasurol, sylweddolodd fod y drysau ffrynt uchel, a edrychai’n fach iawn yn erbyn y colofnau, wedi’u ffrwydro tuag at i mewn a safai Lizzie, yr eliffant a oedd wedi’i stwffio, fel gwarchodwr, yn wynebu’r drysau ger y fynedfa ar drugaredd yr elfennau.

Cadwch lygad am Ran 2 i gael gwybod beth ddigwyddodd nesaf.

Linda Evans, Canolfan Dylan Thomas

Ffynonellau:

  • ‘Among some Swansea schoolboys: Dynefor secondary grammar school for boys 1939 – 1945’ gan Tudor Price
  • https://civildefenceassociation.uk/history
  • Rebuilding Swansea 1941-1961 gan Dinah Evans, Cyhoeddiad Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg
  • Rhifyn Darluniadol ‘Swansea at War’ yr Evening Post

This post is also available in: English