Dylan Thomas, Sylvia Plath, Under Milk Wood a chylchgrawn Mademoiselle

Dylan Thomas, Sylvia Plath, Under Milk Wood a chylchgrawn Mademoiselle

Yn ystod haf 1953 daeth y ffotograffydd, Rollie McKenna, a John Malcolm Brinnin, asiant Dylan yn yr UD, i Gymru i ysgrifennu darn am fywyd beunyddiol a gwaith Dylan yn Nhalacharn. Comisiynwyd y darn gan gylchgrawn Mademoiselle – cyfnodolyn i ‘fenywod ifanc, smart’ – er mwyn rhoi cyd-destun i Under Milk Wood, yr oedd y cylchgrawn yn bwriadu ei chyhoeddi.

Ym 1953, roedd dros 500,000 o bobl yn darllen Mademoiselle, ac roedd yn enwog am gyhoeddi gwaith awduron sefydledig megis Truman Capote, Alice Munro, Tennessee Williams a William Faulkner, yn ogystal ag awduron newydd. Un o’r awduron dawnus hyn a oedd yn dod i’r amlwg oedd Sylvia Plath, a enillodd gystadleuaeth ffuglen cylchgrawn Mademoiselle ym 1952 ac a aeth i weithio fel golygydd gwadd ar gyfer y cylchgrawn, gan fyw ym Manhattan a gweithio ar rifyn mis Awst 1953. Rhoddodd adroddiad ffuglennol o’i phrofiadau yn ystod y cyfnod hwn yn The Bell Jar, ac ym 1959 ymddangosodd yng nghylchgrawn Mademoiselle gyda’i gŵr o 3 blynedd, Ted Hughes. Mae’r erthygl hon, ‘Four young Poets’, hyd yn oed yn dechrau drwy sôn am Dylan Thomas:

‘Two events shook the concept of the poet as the impractical, unimportant figure of our time – the holocaust of T.S. Eliot’s The Waste Land in the twenties and the drama and death of Dylan Thomas that rated a Times editorial in the fifties.’

Yn ôl Plath, Dylan Thomas oedd ei hoff fardd cyfoes. Mewn llythyr o ddechrau 1954, ychydig fisoedd ar ôl ei farwolaeth, ysgrifennodd, ‘Did I tell you that I bought two magnificent records before I came back: one is Edith Sitwell’s Façade …. The other record is a wonderful set of Dylan Thomas readings, with his musical lyric voice, living beyond the grave for me, and making me shiver and sometimes even cry to hear ‘Do Not Go Gentle into That Good Night’ and ‘In the White Giant’s Thigh’…. I love them blithely well.’

Mae Plath hefyd yn ysgrifennu am Dylan Thomas fel ‘the lyrical Welshman I’ve been in mourning for these past months, Dylan Thomas. I just got a copy of the tear sheets from Cyrilly Abels at Mademoiselle containing his verse play Under Milk Wood which I heard him read at Amherst last spring … I could get drunk just on the sound of the words … or on the boisterous Welshness of his humour.’

Teithiodd Plath i Massachusetts i wrando ar Dylan yn darllen yn Amherst ar 20 Mai 1953. Yr hyn sy’n ddiddorol yw bod  ei hamser ym Manhattan wedi cyd-daro am ychydig â chyfnod Dylan yno; cyrhaeddodd Plath ar 31 Mai 1953 i ddechrau ei lleoliad gyda chylchgrawn Mademoiselle, a gadawodd Dylan Efrog Newydd ddiwrnod neu ddau’n hwyrach er mwyn dychwelyd adref. Byddai ei chopi o Collected Poems gan Dylan, a oedd yn cynnwys llawer o nodiadau, yn cael ei werthu mewn arwerthiant yn 2019 am dros £11,000.

Yn ystod ymweliad McKenna a Brinnin â Thalacharn, roeddent hefyd yn bwriadu perswadio Dylan i ddychwelyd i’r UD ar gyfer ei bedwaredd daith a’i daith olaf o’r wlad, a fyddai’n cynnwys rhagor o berfformiadau o’i ‘ddrama i leisiau’. Bu farw Dylan yn Ysbyty St Vincent, Efrog Newydd, ar 9 Tachwedd 1953. Cyhoeddwyd Under Milk Wood yn argraffiad mis Chwefror 1954 o Mademoiselle, sef y fersiwn brintiedig gyntaf o’r sgript lawn, yn dilyn ei hargraffiad rhannol yn Botteghe Oscure Marguerite Caetani. Darparodd Dylan ei ddiwygiadau diweddaraf ychydig cyn ei farwolaeth, a’r dyb yw, er y byddai golygyddion fel arfer wedi gofyn i awdur dorri’r testun i lawr, torrwyd cynsail ganddynt wrth gyhoeddi llawysgrif o’r hyd hwnnw oherwydd yr amgylchiadau.

Ynghyd â’r cyhoeddiad hwn, cynigiodd y cylchgrawn ddwy Wobr Dylan Thomas gwerth $100 ar gyfer y cerddi gorau gan awduron a oedd yn fenywod ifanc – byddai un ohonynt yn cael ei rhoi i fyfyrwraig coleg dan 30 oed. Roedd nodyn gan y Rheolwr Gyfarwyddwr Cyrilly Abels, a atodwyd i broflenni o Under Milk Wood, yn dweud: ‘I hope you will find Under Milk Wood as exciting as I do each time I read it – and I’ve read it five times to date!’

Er bod cyhoeddi Under Milk Wood mewn cylchgrawn ffordd o fyw i ‘fenywod ifanc, smart’ yn dangos poblogrwydd Dylan Thomas, a’i gyfraniad at ddiwylliant poblogaidd, mae hefyd yn dangos rhai cysylltiadau hynod ddiddorol rhwng Dylan a Sylvia Plath, y bardd trawiadol a oedd yn rhannu’r un ben-blwydd ag ef.

This post is also available in: English