Cyfle i Hwylusydd Ysgrifennu Creadigol

Cyfle i Hwylusydd Ysgrifennu Creadigol

Naw gweithdy misol a chydlynu prosiect grŵp.

Mae Cyngor Abertawe’n gwahodd ceisiadau gan ysgrifenwyr/hwyluswyr profiadol i gyflwyno naw gweithdy ysgrifennu creadigol misol a chefnogi oedolion lleol i archwilio amrywiaeth o genres ac arddulliau. Mae’r prosiect yn ceisio hwyluso creadigrwydd, cyflwyno sgiliau newydd a hyrwyddo lles. Bydd yr hwylusydd yn cefnogi cyfranogwyr i gydweithio i greu gwaith terfynol ar y cyd, a all fod yn antholeg/yn recordiad/yn ffilm/yn ddarn wedi’i sgriptio.

Bydd y prosiect hwn yn dechrau ym mis Mai 2021 a bydd yn gorffen ym mis Chwefror 2022.  

Cynhelir y gweithdai ar-lein bob mis nes ei fod yn addas ac yn ddiogel i gwrdd yn uniongyrchol a/neu wneud cyfuniad o’r ddau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi’r grŵp drwy rannu enghreifftiau, cynllunio ymarferion, hwyluso trafodaethau a gosod tasgau er mwyn helpu i rannu dulliau a sgiliau amrywiol. Bydd y gweithdai’n arddangos nifer o genres er mwyn darparu amrywiaeth eang o gyfleoedd i gyfranogwyr archwilio ffurfiau gwahanol. Defnyddir y gwaith a gaiff ei wneud i greu darn a arweinir gan y grŵp i’w arddangos/rannu/berfformio (bydd y grŵp yn penderfynu ar y fformat). Caiff y darn terfynol ei gwblhau’n llawn erbyn diwedd mis Chwefror 2022.

Rhaid i’r gweithdai gyflawni’r amcanion canlynol:

  • Cefnogi oedolion ag amrywiaeth o alluoedd a phrofiadau i gymryd rhan mewn prosesau a dulliau ysgrifennu creadigol
  • Cefnogi pobl i wella’u lles trwy arferion creadigol a gweithgarwch cymdeithasol
  • Cefnogi cyfranogwyr i gydweithio ar brosiect grŵp

Disgwylir y bydd y gweithdai’n para 2 awr, gan gynnwys egwyl, a disgwylir iddynt ddigwydd yn gynnar y nos yn ystod yr wythnos, unwaith y mis.

Bydd yr hwylusydd a ddewisir yn cynnal y sesiynau hyn ar-lein ac yn cynnal amgylchedd diogel a chyfrinachol i bawb. Efallai y gellir cynnal y sesiynau mewn lleoliad pan fydd y cyfyngiadau’n llacio, a fydd yn golygu y bydd angen i ymgeiswyr allu teithio i Abertawe

Bydd y gweithdai ar gael am ddim i oedolion yn Abertawe a chânt eu hysbysu drwy Raglen CYFUNO a Chanolfan Dylan Thomas. Ni fydd disgwyl i chi recriwtio cyfranogwyr.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfathrebu’n uniongyrchol â Chydlynydd y Gymuned Ddiwylliannol (rhaglen CYFUNO) a’r Swyddog Llenyddiaeth (Canolfan Dylan Thomas) i drefnu amserlen, rhannu syniadau, derbyn cefnogaeth a chreu a rhannu’r darn terfynol.

Sylwer; dylai fod gan ymgeiswyr wiriadau GDG priodol ar waith. Gofynnir am dystiolaeth o hyn cyn dyfarnu’r comisiwn.

Telir £1,500 i hwylusydd y prosiect hwn, a bydd angen anfonebu hyn yn fisol.

Os bydd angen, gall fod cyllideb ar gael i gefnogi costau recordio/ffilmio/argraffu.

Profiad angenrheidiol:

  • Dylai fod gan ymgeiswyr gefndir ysgrifennu a diddordeb mawr mewn ysgrifennu creadigol fel cyfrwng
  • Dylai fod gan ymgeiswyr brofiad o gynllunio a chyflwyno gweithdai/cyrsiau
  • Dylai fod gan ymgeiswyr brofiad o weithio mewn lleoliad cymunedol a chefnogi grŵp i greu gwaith ar y cyd

Mae sgiliau dymunol yn cynnwys:

  • Profiad o gyflwyno sesiynau ar-lein
  • Hyder wrth ddefnyddio meddalwedd a llwyfannau digidol

I gyflwyno cais am y prosiect hwn, anfonwch gopi o’ch CV gyda llythyr eglurhaol byr sy’n nodi’ch diddordeb yn y rôl ac unrhyw brofiad perthnasol o addysgu/gweithio yn y gymuned. Darparwch ddolenni neu wybodaeth am unrhyw brosiectau eraill o’r fath rydych chi wedi ymwneud â hwy.

Nodwch hefyd nifer y cyfranogwyr byddech yn hapus i’w cefnogi yn y gweithdai.

Rhannwch hefyd unrhyw sgiliau digidol perthnasol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu i gyflwyno cais, e-bostiwch
amina.abu-shahba@abertawe.gov.uk

Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 07/05/21

Cysylltir ag ymgeiswyr erbyn 14/05/21 ac efallai cânt eu gwahodd i gael trafodaeth ar-lein.

This post is also available in: English