A Visit to Grandpa’s

A Visit to Grandpa’s

Yn ein blog diweddaraf, mae Katie’n myfyrio ar un o’i hoff straeon gan Dylan Thomas, ‘A Visit to Grandpa’s’.

Mr Griff shook his head and mourned: ‘I didn’t expect this again from Dai Thomas.’

‘Not after last time,’ said Mr Price sadly.

Cyhoeddwyd ‘A Visit to Grandpa’s’ am y tro cyntaf yn New English Weekly ym mis Mawrth 1938. Dyma oedd y cyntaf o ddeg o straeon a ysgrifennwyd gan Dylan i’w cynnwys yn ei lyfr, Portrait of the Artist as a Young Dog, a gyhoeddwyd ar 4 Ebrill 1940. Cyfeiriodd Thomas at y straeon fel rhai ‘lled-fywgraffiadol’. Mewn cyfweliad â Colin Edwards ym 1958, dywedodd ei fam, Florence, fod y stori’n seiliedig ar stori yr oedd tad Dylan, D J Thomas, yn dweud wrtho pan oedd yn blentyn bach. Credir mai ‘Grandpa’ oedd tad-cu D J, sef William Thomas.

Yn dilyn y darllediad llwyddiannus o ‘Reminiscences of Childhood’, ymatebodd Dylan i lythyr oddi wrth Lorraine Jameson, BBC Caerdydd, ym mis Awst, 1945, a oedd yn ei wahodd i gyflwyno rhagor o waith ar gyfer ei rhaglen, ‘Children’s Hour’. Fe drafodon nhw gynnig ar gyfer ‘Memories of Christmas’, ac awgrymodd Dylan y byddai hefyd yn darllen ‘A Visit to Grandpa’s’. Doedd Jameson ddim yn meddwl y byddai ‘A Visit to Grandpa’s’ yn addas i blant, ond soniodd wrth Aneirin Talfan Davies, cynhyrchydd sgyrsiau BBC Caerdydd, amdani. Fe’i cymeradwywyd gan Davies, ac fe’i recordiwyd yn y diwedd ar gyfer y BBC ym mis Ionawr 1947 a’i darlledu am 10.30pm nos Fercher 8 Ionawr ar y Gwasanaeth Cartref.

Des i’n gyfarwydd â’r stori ‘A Visit to Grandpa’s’ ar ffurf clywedol i ddechrau. Dyma’r stori fer gyntaf roeddwn i wedi’i chlywed gan Dylan, ac mae’n un o fy ffefrynnau o hyd. Mae bob amser yn brofiad clywed awdur yn darllen ei waith ei hun, ac roedd darlleniad Dylan yn hudolus ac yn cyfuno llais adrodd cyfoethog â lleisiau ac acenion craff y cymeriadau. Mae’n dangos ei amrywiaeth fel perfformiwr a’i allu i adrodd stori. Mewn ychydig eiriau’n unig, mae Dylan yn llwyddo i greu golygfeydd gweledol rhyfeddol a chymeriadau a ddiffinnir yn wych.

Mae’r stori’n eithaf syml. Mae bachgen ifanc yn aros gyda’i dad-cu ecsentrig. Ar ddiwrnod olaf ei ymweliad, mae llawer o gyffro wrth i’w dad-cu fynd ar goll. Fe’i gwelwyd diwethaf yn gwisgo’i wasgod orau. Ar ôl cadarnhau eu bod wedi bod ar daith i Lansteffan y diwrnod cynt – manylyn drwgargoelus – ffurfiwyd criw chwilio, a oedd yn cynnwys hanner y pentref, i ddod â’r dyn di-ddal gartref. Yn debyg i nifer o straeon Thomas, dyw’r stori ddim yn gorffen, ond yn hytrach yn dod i ben yn sydyn, gan ein gadael gyda chwestiynau fel ‘beth ddigwyddodd nesaf?’, ac yn pendroni dros sut y daethpwyd o hyd i ddatrysiad.

Y manylder anhygoel sy’n gwneud i chi ymgolli yn y stori. Yn yr olygfa agoriadol, mae’r bachgen yn mynd i’r gwely ac yn dweud am y noson honno: ‘The floorboards had squeaked like mice…. and the mice between the walls had creaked like wood’. Mae naws yn cael ei chreu sy’n adlewyrchu’r hyn sy’n mynd drwy feddwl plentyn ifanc wrth iddo fynd i gysgu mewn lle anghyffredin. Cyn i ni gwrdd â’i dad-cu’n uniongyrchol, cawn arwydd o’i natur ecsentrig. Roedd mam y bachgen bach wedi’i rybuddio i aros yn effro rhag ofn bod ei dad-cu’n ‘llosgi’r dillad gwely’, oherwydd ei duedd i smygu pibell o dan ei flancedi.

Drwy gydol y stori, rydym yn gweld elfennau gwych o hiwmor a chomedi sylwadol. Er enghraifft, mae’r bachgen yn nodi bod hwyaid yn nofio yn y gwter o dan drothwyau’r tŷ, er bod llyn gerllaw; gan anwybyddu’r arwydd y mae’r offeiriad wedi’i ysgrifennu, sy’n dweud ‘This way to the pond’. Fy hoff ran – heblaw am y rhan sy’n datgelu pam yr aeth tad-cu ar ei daith, cyfrinach na fyddaf yn ei datgelu – yw taith y pâr i Lansteffan. Maen nhw’n teithio mewn cert sy’n cael ei dynnu gan ferlyn byr, gwan. Rwy’n dwlu ar yr iaith gyferbyniol a ddefnyddiwyd i ddisgrifio ymatebion y tad-cu i weithredodd y merlyn, fel ‘cursed the demon strength and wilfulness of his tottering pony.’

Fel y dywedais, dwi ddim am ddifetha diwedd y stori, ond mae’r rhyngweithio rhwng pobl y pentref a thad-cu’r bachgen yn ddrygionus o sych a doniol, ac roeddwn i’n awyddus iawn i ddarllen rhagor am gampau’r hen ddyn. Er mai hon fyddai’r unig stori am Dad-cu, roedd Dylan yn adrodd straeon a oedd yr un mor ddiddanol am ei ewythrod, a byddaf yn trafod y rhain ymhellach mewn blog yn y dyfodol.

Katie Bowman, Canolfan Dylan Thomas   

This post is also available in: English