Mae angen hwyluswyr llawrydd

Mae angen hwyluswyr llawrydd

Mae Canolfan Dylan Thomas yn chwilio am hwyluswyr gweithdai/gweithgareddau llawrydd i’n helpu i gyflwyno’n rhaglen ymgysylltu â theuluoedd Cronfa Casgliad Esmée Fairbairn. Nod y rhaglen yw adeiladu ar lwyddiant ein gwaith gyda theuluoedd a datblygu cysylltiad dyfnach â’n casgliadau. Cynhelir y gweithgareddau yng Nghanolfan Dylan Thomas ac mewn lleoliadau cymunedol gyda’n partneriaid cymunedol. Byddai gennym ddiddordeb mewn clywed gan hwyluswyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau, gan gynnwys ysgrifennu creadigol, y celfyddydau gweledol a hwyluso chwarae creadigol, a chanddynt unrhyw un o’r profiadau canlynol:

  • Profiad o weithio gydag amgueddfeydd i ddehongli casgliadau i gynulleidfaoedd teuluol.
  • Profiad o weithio gyda theuluoedd sy’n geiswyr lloches neu’n ffoaduriaid.
  • Profiad o weithio gyda theuluoedd ag anghenion mynediad neu ddysgu ychwanegol.
  • Profiad o weithio gyda theuluoedd mewn lleoliad llenyddiaeth.
  • Profiad o ddatblygu gweithdai diddorol ac arloesol i deuluoedd neu weithgareddau i grwpiau oed cymysg.
  • Dealltwriaeth o anghenion amrywiol teuluoedd a hwyluso cynhwysol.

Am ragor o fanylion, neu i wneud cais, e-bostiwch ein Swyddog Datblygu Nicola Kelly nicola.kelly@abertawe.gov.uk

Pan fyddwch yn gwneud cais i gael eich cynnwys yn ein cronfa o hwyluswyr, anfonwch CV atom, eich cyfradd hanner diwrnod a hyd at dair enghraifft o brosiectau perthnasol. Rhowch wybod i ni os oes gennych GDG cyfredol ac yswiriant atebolrwydd cyhoeddus.

This post is also available in: English