‘Summer of Stories’: Gweithdy Ysgrifennu Creadigol ar gyfer plant 6 i 10 oed gydag Eloise Williams

‘Summer of Stories’: Gweithdy Ysgrifennu Creadigol ar gyfer plant 6 i 10 oed gydag Eloise Williams

Date/Time
08/08/2018
1:00 pm - 3:00 pm

Location
Canolfan Dylan Thomas


Mae’r haul yn tywynnu ac mae’n dod â llu o anturiaethau! Wrth i’r tymheredd godi, gadewch i’ch straeon ffynnu!

Gadewch i’ch brawddegau lifo, i’ch hanesion ddifyrru, ac i’ch syniadau syfrdanu! A fyddwch yn adeiladu castell tywod o freuddwydion gyda’ch geiriau? Neu’n ein halltudio i ynys anghysbell? A fydd eich ysgrifennu’n ein tywys i lawr lôn hafaidd? Neu a fydd yn ein taflu i lwybr stormydd mellt a tharanau ofnadwy?

Tynnwch eich fflip-fflops, ysgogwch eich dychymyg a thaniwch yr haf!

Rhybudd: Dewch â lolipops. Mae’n mynd i fod yn gynnes iawn! Ac os ydych yn iau nag 8 oed, dewch ag oedolyn gyda chi sy’n mwynhau bach o hwyl.

Dylech gadw lle ymlaen llaw yn www.dylanthomas.com neu ffoniwch 01792 463980.

Book now

Mae ein holl ddigwyddiadau i’r teulu am ddim, gyda rhodd awgrymedig o £3.

This post is also available in: English