‘Starlight Order’: o Y Gododdin i In Parenthesis

‘Starlight Order’: o Y Gododdin i In Parenthesis

Date/Time
29/09/2018 - 31/03/2019
10:00 am - 4:30 pm

Location
Canolfan Dylan Thomas


Cynhaliwyd Nawr yr Arwr, cynhyrchiad mawr a gafodd ei gomisiynu i nodi canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, yn Abertawe ym mis Medi 2018. Ysbrydoliaeth y perfformiad oedd y gerdd ganoloesol Gymraeg, Y Gododdin.

Mae’r arddangosfa hon yn defnyddio Y Gododdin fel man cychwyn ac yn archwilio, drwy lawysgrifau ysgrifenedig a darluniedig, sut y dylanwadodd hon ar gerdd arwrol David Jones ei hun, In Parenthesis. Wrth recordio In Parenthesis gyda’r BBC, y cyfarfu Dylan Thomas â Richard Burton; roedd y ddau yn perfformio yn y cynhyrchiad.

Cyflwynir yr arddangosfa hon mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru a chyda diolch i Ystâd David Jones.


© Ystâd David Jones

This post is also available in: English