Gŵyl Ymylol Abertawe: Sgwad Sgwennu Pobl Ifanc

Gŵyl Ymylol Abertawe: Sgwad Sgwennu Pobl Ifanc

Date/Time
06/10/2018
10:00 am - 4:00 pm

Location
Canolfan Dylan Thomas


Mae Sgwad Sgwennu Pobl Ifanc Canolfan Dylan Thomas yn falch o fod yn rhan o Ŵyl Ymylol Abertawe!

Mae ein criw ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed yn cwrdd ddwywaith y tymor ar fore dydd Sadwrn am weithdy am ddim gydag awdur. Ddydd Sadwrn 6 Hydref, rydym yn gyffrous iawn am weithio gyda’r amryddawn Rebecca F John. Cyhoeddwyd casgliad Rebecca o straeon byrion, Clown’s Shoes, gan Parthian Books, a chyrhaeddodd ei nofel ddiweddaraf, The Haunting of Henry Twist, y rhestr fer ar gyfer Gwobr Nofel Gyntaf Costa. Mae ei gwefan isod os hoffech wybod mwy am Rebecca a’i hysgrifennu www.rebeccafjohn.com/bio

Cofrestrwch ar gyfer naill ai’r sesiwn fore rhwng 10.00am a 12.30pm neu sesiwn y prynhawn rhwng 1.30pm a 4.00pm.

Rhaid cadw lle gan fod lleoedd yn brin. E-bostiwch Jo – jo.furber@abertawe.gov.uk – i ymuno â’r Sgwad Sgwennu Pobl Ifanc ac i gadw lle ar gyfer y gweithdy. Mae mwy o wybodaeth am y criw yma: dylanthomas.com/cy/allgymorth-a-dysgu/sgwad-sgwennu-pobl-ifanc-abertawe 

Ariennir a chynhelir y criw gan Gyngor Abertawe, gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru.

This post is also available in: English