Realaeth Hud: Ffuglen a Breuddwyd: Gweithdy i Oedolion gydag Alan Bilton

Realaeth Hud: Ffuglen a Breuddwyd: Gweithdy i Oedolion gydag Alan Bilton

Date/Time
23/07/2016
10:00 am - 12:30 pm

Location
Canolfan Dylan Thomas


Author-Profile-Alan-Bilton-The-Known-and-Unknown-SeaFel arddull ysgrifennu, mae Realaeth Hud yn ceisio cyfuno’r amhosibl a’r credadwy,  gwneud yr hyn sy’n ffantastig yn ddiriaethol, a chreu bydoedd breuddwydion sy’n gallu derbyn pwysau’r darllenwr.

Mae’r gweithdy’n edrych ar wreiddiau Realaeth Hud mewn myth a ffantasi, gan archwilio cariad swrreal breuddwydion, a’r hyn sy’n digwydd pan fo’r rhyfedd a’r annaearol yn ymwthio ar ffuglen realistig gan greu teimladau o anesmwythyd, ofn a braw.

Mae Alan Bilton yn addysgu llenyddiaeth, ffilm ac ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n awdur dwy nofel.

Tocynnau

  • Pris Llawn £5.00
  • Consesiynau £3.50
  • PTL Abertawe £1.60


Book now

This post is also available in: English