Perfformiad Cerdded o Return Journey

Date/Time
06/09/2014 - 07/09/2014
10:30 am


O Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i Barc Cwmdoncyn

Cynhyrchiad cerdded, gan Gwmni Theatr Lighthouse mewn cydweithrediad â Chanolfan Dylan Thomas, trwy strydoedd Abertawe gan ddechrau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a gorffen ym Mharc Cwmdoncyn.  Dewch i ail-fyw taith yr awdur trwy Abertawe ar ôl y Blitz gyda golygfeydd a seiniau’r ddinas o’ch cwmpas ar bob ochr.  Mae’r perfformiad yn defnyddio perfformwyr lleol ac yn cynnwys gwybodaeth hanesyddol am Abertawe yn ystod ieuenctid Dylan.  Bydd y cyfranogwyr hefyd yn cael pecyn gwybodaeth gyda dyfyniadau o’i waith, hanes a mapiau o’r cyfnod.

Tocynnau: £9.00, consesiynau £7.00

Prynwch eich tocynnau ar-lein nawr neu drwy ffonio 01792 463980

This post is also available in: English